Newyddion



19.12.2011 - DATGANIAD I’R WASG - Buddsoddiad newydd i hybu swyddi lleol - mwy
Taith Patagonia 2011
Yn ystod mis Hydref 2011 bu criw o 20 o bobl ifanc o Ogledd Cymru ar daith i Patagonia gyda Mentrau Iaith Cymru ar Urdd.
Cychwynnodd y daith yn yr Andes lle roedd Iwan Madog, swyddog menter Patagonia yr ardal, wedi paratoi rhaglen o weithgareddau iddyn nhw eu gwneud. Buont yn plannu blodau, paentio a thacluso tu allan i’r Ysgol Gymraeg yn Trevelin, yn Esquel buont yn cynnal ffair Wanwyn ble roedd y bobl ifanc yn gyfrifol am weithgareddau gwahanol ee gwneud cacennau, chwarae gemau, darllen, paentio wynebau a chanu gyda trigolion Cymraeg yr Andes. Cwrddasant â llawer o bobl hŷn yr ardal a oedd yn siarad Cymraeg ac aethant am baned i gael sgwrsio gyda hwy yn eu tai. Dywedodd Anest Evans o Goleg Meirion Dwyfor:
“Neis oedd cael cymdeithasu gyda pobl Cymraeg ochr arall y byd. Profiad anhygoel.”
Yna ymlaen ir Dyffryn lle roedd Lois Dafydd, swyddog menter Patagonia yn yr ardal, y tro yma wedi paratoi gweithgareddau ar eu cyfer. Roeddent yn cymysgu gyda pobl ifanc o goleg Camwy ac yn gwirfoddoli yn yr Ysgol Feithrin Gymraeg yno. Buont i weld Pengwiniaid i Puerto Tombo gyda Ysgol Gymraeg yr Hendre, ac ar y ffordd yn ôl i’r Gaiman roeddent yn mynd o amgylch capeli bychain i ganu ychydig o eitemau i ddiddanu pobl yr ardal. Roedd hi’n gyfnod prysur yn y Dyffryn gan fod yr Eisteddfod yn Trelew tra roeddent yno. Cyfle gwych oedd hyn iddynt gyfarfod llawer o bobl Cymraeg Patagonia, roedd yr Orsedd yn wahanol i’r Orsedd yma yng Nghymru ond roedd yn gartrefol iawn. Roeddent wedi bod yn rhoi help llaw i’r gymuned baratoi y te ar gyfer pobl ar ôl i’r orsedd ddod i ben, a bu rhai yn gosod cadeiriau ar gyfer y cylch.
Roedd llawer ar y daith yn cystadlu yn yr Eisteddfod a bu Sian Miriam, Bethany Celyn a Steffan Rhys Hughes yn llwyddiannus iawn. Dywedodd Bethany Celyn o Ysgol Glan Clwyd:
“Anhygoel profi yr Eisteddfod yn Sbaeneg yn ogystal a Chymraeg a chael blas ar ddiwylliant cerddorol yr Ariannin.”
Fe gafodd y côr wobrau hefyd ond ni wnaethant gipio y wobr gyntaf y tro hwn! Wedi’r Eisteddfod buont yn canu gyda chôr yr Ysgol Gerdd yn y Gaimain ,yn ystod y Gymanfa. Roedd hyn yn brofiad gan eu bod yn canu yn Sbaeneg ac yn Gymraeg.
Taith y bydd y bobl ifanc i gyd yn ei gofio am byth oedd y daith yma ac maent i gyd eisiau diolch i holl staff y Mentrau ar Urdd bu ar y daith gyda hwy, a hefyd maent yn diolch i bawb yn Patagonia am y croeso cynnes a dderbyniwyd ganddynt.
Gŵyl Llanast Llanrwst
Tachwedd 25 - 30, 2011

Ffansio gwyliau yn yr eira y flwyddyn nesaf?
Mae Menter Iaith Conwy yn trefnu trip i alpau Ffrainc, mae croeso i bawb o bob oed.
Dewch i fwynhau’r eira, i gerdded, siopa mewn awyrgylch alpaidd, mwynhau’r bwyd godidog, heb sôn am sgïo neu eirafyrddio ar lethrau un o ardaloedd sgio mwyaf byd – Y Portes du Soleil, y lle perffaith ar gyfer pob lefel.
“Mae Les Gets yn le delfrydol i deuluoedd, cyplau ac unigolion, gan fod yma lethrau i ddysgwyr yn ogystal a arbenigwyr, a digonedd o weithgareddau oddi ar y piste hefyd” yn ôl Bedwyr, trefnydd y trip.
“Nod y trip yw cael Cymru Cymraeg at ei gilydd heb orfod gwario’n wyrion ar wyliau drud.”
Fel paratoad i’r rheini sy’n dymuno dysgu cyn y gwyliau, mae Menter Iaith Conwy yn cynnal clwb cyson am bris gostyngol.
Cysylltwch gyda Bedwyr: 07931879879 am ragor o wybodaeth, neu am sgwrs anffurfiol.
Gwyliau Sgio
Ym mis Ebrill eleni trefnwyd taith i dref hyfryd Les Gets yng nghanol mynyddoedd Portes du Soleil yn Ne Ffrainc.
Manteisiodd nifer o bobl ar y cyfle i ddysgu sut i eirafyrddio trwy Fenter Iaith Conwy cyn mynd ati i eirafyrddio ar y llethrau yn Ffrainc. Aeth dros 30 o bobl ar y daith; bu rhai yn sgïo, rhai yn eirafyrddio ac eraill yn beicio neu’n cerdded. Roedden nhw’n dod o bob cwr i Gymru, o Gonwy, Gwynedd ac Ynys Môn, ac ambell un o’r de. Roedd rhai ohonyn nhw’n Gymry iaith gyntaf ac eraill wedi dysgu Cymraeg. Cymysgedd go anarferol o bobl, ond roedd pawb wedi mwynhau.
Buom yn aros mewn caban hyfryd yn les Gets gan fynd i Avoriaz i eirafyrddio, ardal odidog â llethrau gwych ar gyfer pob lefel. Er iddi wneud y tymor sgïo gwaethaf ers hanner canrif yn Ffrainc, roedd safon yr eira yn dda yn Avoriaz.
Cawsom adborth cadarnhaol iawn gan bawb. Roedd yn amlwg fod rhai o’r dysgwyr Cymraeg wedi cael budd enfawr o fod yng nghanol Cymry Cymraeg am wythnos gyfan.
Byddwn yn trefnu taith arall i Les Gets y flwyddyn nesaf (Mawrth y 10fed tan yr 17eg) . Bydd y llety yn costio £250 y person. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Bedwyr ap Gwyn ar 01492 642357 neu bedwyr@menteriaithconwy.cymru247.net.
Cynllun Sioe Gerdd Dyffryn Conwy
Ar Fehefin y 9fed, 2011, bu i 114 o ddisgyblion blwyddyn 6 o naw Ysgol wahanol yn Sir Gonwy ddod at ei gilydd i gymryd rhan mewn sioe hynod gyffrous.
Menter Iaith Conwy a Thîm Ymgynghori ar y Gymraeg yng Nghonwy oedd yn gyfrifol am y sioe, a gafodd ei ariannu gan y Cynllun Datblygu Gwledig.
Cafodd y sioe ei hysgrifennu gan Mair Tomos Ifans a chafodd y caneuon eu cyfansoddi gan Gai Toms. Roedd y sioe yn mynd i’r afael â nifer o chwedlau a hanesion lleol gan eu cymysgu gyda’i gilydd i greu perfformiad gwerth chweil.
Bwriad y sioe oedd magu hyder y disgyblion i ddefnyddio eu Cymraeg; ac roedd prosiect cyffrous o’r fath yn ffordd wych i wneud hynny. Roedd y sioe yn hefyd yn gyfle i’r disgyblion wneud ffrindiau newydd cyn iddyn nhw fynd i’r Ysgol uwchradd ym mis Medi.
Roedd sawl person yn gyfrifol am lwyddiant y sioe, yn arbennig y cyfarwyddwr Llion Williams.
Dyma’r ysgolion fu’n cymryd rhan yn y sioe; Pant y Rhedyn, Pencae, Capelulo, Bro Gwydir, Dolgarrog, Trefriw, Betws y Coed, Penmachno a Dolwyddelan.
Bu i’r holl ddisgyblion wneud yn wych ar y noson. Dywedodd Esyllt Tudur, Menter Iaith Conwy:
“Gweithiodd y disgyblion yn hynod o galed gan wneud y sioe yn llwyddiant ysgubol. Roedd dydd Iau yn ddiwrnod hir ond fe lwyddodd y disgyblion i roi perfformiad canmoladwy dros ben. Dw i’n siŵr y byddwn ni’n gweld nifer ohonyn nhw ar ein llwyfannau yn y dyfodol.”
Cafodd y rhieni ac aelodau’r Cyngor eu plesio’n arw gan y sioe. Roedd yn berfformiad heb ei ail ac yn un fythgofiadwy i’r rhieni a’r plant.
Gemau Buarth
 |

|
| Sesiwn y bu i bawb ei fwynhau ac a fydd yn parhau yn yr Ysgol |
Canu Conwy

Lansiad Strategaeth Iaith
Roedd Llywodraeth y Cynulliad wedi penderfynu lansio ei strategaeth iaith newydd Iaith Byw:Iaith Fyw ar sgwâr Llanrwst o flaen Swyddfa Menter Iaith Conwy.
Dewiswyd y lleoliad yma gan fod llawer o waith y Fenter yn adlewyrchu amcanion y strategaeth o ran cryfhau'r Gymraeg fel iaith fyw gymunedol. Roedd hefyd yn gydnabyddiaeth o arloesed Menter Iaith Conwy sydd erbyn hyn yn cyflogi 15.
Trefnwyd fod plant ysgol dosbarth derbyn Ysgol Bro Gwydir yn cael cyfle i chwarae gemau Buarth o dan ofal Manon Celyn a chymeriadau plant.
Cafwyd areithiau gan Alun Ffred Jones (AC a Gweinidog Treftadaeth, ac yn bwysicach efallai un o gyd awduron C’mon Midffild ) a Meirion Prys Jones Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Meddai Mr Alun Ffred Jones:
"Er gwaethaf y cyfrifiad diwethaf a oedd yn dangos bod sefyllfa'r iaith yn addawol, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, mae'n dal i fod yn ansicr.
Nod y strategaeth ddrafft yw adeiladu ar lwyddiannau Iaith Pawb a Llywodraeth Cymru'n Un i gynyddu nifer y bobl ledled Cymru sy'n gallu siarad Cymraeg ac yn dewis gwneud hynny.
Nid yw'r strategaeth hon yn sefyll ar ei phen ei hun. Ynghyd â'r Mesur ar y Gymraeg a'r Strategaeth ar Addysg Cyfrwng Cymraeg a gafodd eu cymeradwyo'n ddiweddar, bydd y strategaeth hon yn helpu i wireddu gweledigaeth y Llywodraeth hon ar gyfer Cymru wirioneddol ddwyieithog.
Mae bron i bawb sy'n siarad Cymraeg yn rhugl yn siarad yr iaith bob dydd, ond mae angen rhagor o gyfleoedd arnyn nhw i ddefnyddio'r iaith ym mhob agwedd ar fywyd," meddai Mr Jones.
"Er enghraifft, dros y ganrif ddiwethaf rydyn ni wedi colli llawer o'r gweithleoedd lle câi'r Gymraeg ei defnyddio'n naturiol. Un o heriau'r strategaeth hon fydd creu ystod eang o gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith bob dydd eto.
Her fawr arall fydd ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg a chreu'r cyfle iddyn nhw fagu hyder ac ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn defnyddio'r iaith bob dydd.
Dwi'n ddiolchgar i Fwrdd yr Iaith Gymraeg am eu cyfraniad gwerthfawr at y gwaith o ddrafftio'r strategaeth hon, a dwi'n gobeithio y bydd hyn yn ein helpu ni i ddatblygu'r gwaith da y mae wedi'i wneud dros y blynyddoedd. Dw i'n edrych ymlaen at glywed barn pobl am ein strategaeth."
Dywedodd Cyfarwyddwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meirion Prys:
"Bu'n fraint cydweithio a'r Llywodraeth ar baratoi'r Strategaeth hon, ac rwy'n falch o'r cyfle i gymryd rhan yn y lansiad heddiw.
Mae'r strategaeth yn adeiladu ar yr ewyllys da cynyddol sydd yna tuag at yr iaith, ac mae'n gosod allan y llwybr i ni o ran sicrhau y bydd y Gymraeg yn blodeuo ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru.
Mae'r Strategaeth yn cydnabod pwysigrwydd gweithio yn y gymuned, boed hynny yn y Gymru wledig neu yn y Gymru drefol, mewn ffordd sy'n adlewyrchu anghenion arbennig ardaloedd arbennig."
Ymhlith prif argymhellion y strategaeth ddrafft mae:
• Creu Ardaloedd Datblygu Iaith ar draws Cymru mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, mentrau iaith a sefydliadau eraill.
• Datblygu prosiect Trefi a Dinasoedd Dwyieithog er mwyn hyrwyddo'r defnydd o'r iaith mewn lleoliadau trefol.
• Datblygu Cynllun Cyflawni'r Gymraeg ar gyfer y grŵp oedran 0-5 oed.
Fe ddaeth y lansiad i ben efo Gwibdaith Hen Fran yn canu ar y sgwâr.
Gelli'r weld y strategaeth trwy fynd at y ddolen isod.
http://wales.gov.uk/consultations/welshlanguage/wlsconsultation/?lang=cy
Mae modd i'r cyhoedd ymateb iddo ond mae rhaid neud erbyn diwedd Ionawr.
Glan-Llyn
Diolch i gynllun Gwreiddiau Conwy cynllun datblygu gwledig Conwy ac arian gan y cyngor Prydeinig cafwyd wythnos i’w chofio yng Nglan llyn yng nghwmni criw o Belfast, Abertawe a Cork.
Dyma’r hanes gan un o’r bobl ifanc, Elin Arfon:
“Wythnos yn llawn anturiaethau oedd yn ein disgwyl pan gyraeddasom Glan-llyn ar ddydd Llun Hydref 25ain. Nid oeddent wedi gweld y criw o Belfast, Cork ac Abertawe ers pum mis, ac roedd pawb yn edrych ymlaen i weld ei gilydd. Felly y nos Lun yno mi heidiom i Ffair Bala gyda dau o’r criw yn eu pyjamas un rhan pinc wedi ei orchuddio â sêr mawr melyn. Aethom i Lanrwst, Llandudno a Chonwy ar y dydd Mawrth. Felly ar ôl treulio’r bore wrth y glannau daethom yn ôl i Llanrwst ble gawsom gwis ar y dref. Nawr i feddwl bod ein criw ni o Lanrwst, y tîm nad oedd gyda’r un aelod o’r ardal a gurodd. Hwyrach dylem ddysgu mwy am ein tref ni yn lle mynd i galifantio i’r de ac i Iwerddon!
Cadwraeth oedd prif thema yr wythnos ac felly cafodd y pedwardeg ohonom ein rhannu’n ddau grŵp. Tra’r oedd un grŵp yn aros yng Nglan-Llyn ac yna’n mynd i Feddgelert ar y dydd Iau, aeth Elin Mair, Glesni a mi yno y dydd Mercher gyda’n criw ni. Pan gyraeddasom roeddem am aros mewn yurts a thorri coed. Nawr i feddwl ein bod ni’n genod o gefn gwlad, ni fedrwn ond dychmygu trychinebau’n digwydd fel Elin yn llifio’i bysedd a minnau’n torri coes Glesni’n lle’r boncyffion. Beth bynnag er gwaethaf yr hunllefau, fe brofon ni ein bod wedi ein gwneud i dorri coed. Felly ar ôl yn halibalŵ o dorri’r coed, daeth Manon Prysor i adrodd chwedl Branwen i ni, roeddem wedi dotio gyda’i dawn. Yna aethom am dro’n y tywyllwch cyn gorffen y noson o gwmpas y tân yn adrodd straeon. Cawsom hwyl yn aros yn yr yurts er y bum yn crynu wrth feddwl bod rhywbeth o’r goedwig am ein bwyta. Yna y dydd Iau fe aethom i gyfarfod y grŵp arall yn Llanberis cyn mynd i gerdded o gwmpas y llynnoedd, roedden nhw wedi bod yn canŵio nos ar y nos Fercher. Roedd y nos Wener yn wych, gweithdy Beat Bocsio gyda Ed Holden ac yna cynhaliwyd disgo i gloi’r noson.
Yna daeth ddydd Sadwrn ac roedd rhaid ffarwelio â phawb, doedd neb eisiau gadael, ac mi fydd yn naw mis hir nawr cyn cael mynd i lawr i’r de i’r rownd nesaf. Hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth yr wythnos yn gofiadwy ac yn enwedig i Esyllt, Arwel, Sion a Sioned. Abertawe, byddwch yn barod am hwyl!”
Edrychwn ymlaen yn fawr at fynd i Abertawe yn mis Gorffennaf.

|
Taith Pentre Bach
Trefnwyd taith ar gyfer teuluoedd i Bentre Bach dydd Sadwrn 2ail o Hydref.
Bu’n daith llwyddiannus iawn gyda 35 o rieni a phlant yn ymuno gyda ni ar y daith. Cawsom weld cartref Sali Mali, Nicw Nacw, Tylwyth teg, coblyn a Bili Bom Bom, ac roedd pobl y pentref yn groesawgar iawn.
|
| |

|

|

|
Roedd rhai wedi penderfynu cael bwyd yng Nghaffi Sali Mali ac roedd yr holl weithwyr yn ddymunol iawn. Wedi i ni gyd gael cinio cawsom gystadleuaeth helfa esgidiau lle roedd y plant yn mwynhau chwilio am barau gwahanol o esgidiau. Diwrnod arbennig iawn oedd hi i un bachgen ar y daith gan ei bod yn ben-blwydd arno. Cafwyd cacen a phawb yn ymuno i ganu pen-blwydd hapus.
Dywedodd Esyllt o Menter Iaith “Roedd yn braf gweld y teuluoedd i gyd yn cymysgu ac yn mwynhau. Bu’n gyfle gwych i rhai teuluoedd oedd ddim mor hyderus siarad Cymraeg gyda eu plant, gael cyfle i ymarfer a mwynhau y profiad hefo’i gilydd drwy’r Gymraeg.”
Bu’n ddiwrnod hwyliog iawn ac roedd pawb wedi mwynhau. Gobeithiwn y byddwn yn trefnu taith arall yno eto’n fuan. |
Cronfa Swyddi’r Dyfodol Consortiwm y WCVA
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Taith Gyfnewid 4 Cornel
Yn ystod wythnos gyntaf Mis Gorffennaf cymrodd criw o bobl ifanc Dyffryn Conwy ran mewn prosiect cyfnewid rhwng Conwy, Abertawe, Belfast a Cork.
Nod fwyaf y prosiect yma yw i’r bobl ifanc gael dysgu am dreftadaeth, diwylliant, iaith ar syniad o berthyn o fewn y gymuned Geltaidd.
Dyma Hanes y daith gan un o’r bobl ifanc, Lowri Llwyd Roberts:
“Deffrais fore Sul y 4ydd o Orffennaf i wynt a glaw mawr, tywydd gwych i deithio dros fôr Iwerydd! Yn anffodus i mi ac eraill ar y fferi, cawsom gychwyn hunllefus i’r trip. Deuddeng awr yn ddiweddarach cyrhaeddom canolfan awyr agored Ardnabannon ym mhentref Castlewellan a oedd tua awr o Belfast sef prif ddinas Gogledd Iwerddon.
Braidd yn lletchwith oedd hi ar y noson gyntaf ymhlith deugain o blant dieithr o Cork, Abertawe a Belfast, ond erbyn i ni gael ein rhannu mewn grwpiau, gorfodwyd ni i wneud ffrindiau newydd. Cawsom y cyfle i fwynhau gweithgareddau ac atyniadau a gynigiwyd gan y wlad, a oedd yn cynnwys clogfeini, mynydda, ‘The Giant Causeway’, pont wedi’i wneud o raff sef ‘Carrick-a-Rede’, a disgo sglefrio.
Ar y dydd Iau, cawsom ymweld â Belfast a’n haddysgu am hanes y gwrthdaro rhwng y Protestaniaid a’r Catholigion, gwelsom y porthladd lle adeiladwyd y llong fyd-enwog ‘Titanic’, yna y darn gorau o’r diwrnod: cyfle i siopa yn sêl haf!
Gyda bws i’w ddal am hanner awr wedi pump y bore canlynol, aethom i’n gwlâu yn fuan (hynny yw hanner awr wedi dau y bore- nid oeddem am adael heb barti i ddathlu)! Braf oedd cael pymtheg awr o gwsg ar ôl cyrraedd Llanrwst yn fyw ac yn iach nos Wener!
Hoffwn i a holl griw y daith, ddiolch i’r noddwyr am ein cefnogi yn ariannol ar gyfer ein taith i Ogledd Iwerddon. Edrychwn ymlaen i groesawu’r criw cyfnewid yma ym mis Hydref 2010.”
Roedd yr holl bobl ifanc wedi mwynhau yn fawr ac roedd yn agoriad llygaid iddynt. Maent yn edrych ymlaen i groesawu’r criw i gyd atom ni yng Nglan Llyn ym mis Hydref am ran nesaf o’r prosiect.
Mae’r prosiect yma yn cael ei ariannu gan gynllun ‘Causeway’ y Cyngor Brydeinig ac hefyd yn un o brosiectau Cronfa Datblygu Gwledig Conwy.
COFIO TYWYSOGES GWENLLIAN
Roedd hi’n Dydd Cenedlaethol er mwyn cofio Tywysoges Gwenllian, dydd Sadwrn y 12fed o Fehefin. Merch i Llywelyn ein llyw olaf oedd Gwenllian, a pan fu farw Llywelyn fe wnaeth brenin Lloegr garcharu Gwenllian yn Sempringham gan mai hi oedd yr unig etifedd a allai fod wedi rheoli Cymru ar ôl marwolaeth Llywelyn. Yno y bu Gwenllian ar hyd ei oes a bu farw yn 1337.
Brynhawn dydd Gwener 11eg o Fehefin fe wnaeth criw o bobl ifanc Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst o dan arweiniad Menter Iaith Conwy ar Urdd, gymryd rhan mewn taith gerdded noddedig i fyny Carnedd Gwenllian sydd yn un o’r 14 copa uchaf yng Nghymru. Cafodd y mynydd yma a oedd dan yr enw Carnedd Uchaf ei ailenwi yn Carnedd Gwenllian yn 2009 er mwyn cofio am y dywysoges.
Roedd y daith yn 14km i fyny heibio Foel Frech ac fe wnaeth yr holl griw gyrraedd y copa a chasglu dros £200 ar gyfer taith gyfnewid rhwng Gogledd Iwerddon, Iwerddon a De Cymru. Mae’r prosiect yma yn cael ei gefnogi gan Cynllun Partneriaeth Gwledig Conwy.
Bydd y bobl ifanc yn teithio i Ogledd Iwerddon yn ystod wythnos gyntaf Gorffennaf. Yno y byddent yn dysgu am dreftadaeth, diwylliant a iaith y partneriaid eraill. Mae cyfle hefyd iddynt godi ymwybyddiaeth ymysg y partneriaid hynny o’r treftadaeth nhw eu hunain, fydd yn cynnwys hanes Llywelyn a Gwenllian.
Dywedodd Esyllt Tudur o Menter Iaith Conwy:
“Mae’n bwysig iawn fod pobl ifanc heddiw yn dysgu am hanes Cymru. Bwriad y daith yma oedd codi arian ar gyfer y daith i Iwerddon ond yn bwysicach na hynny oedd creu ymwybyddiaeth o Ddydd y Dywysoges Gwenllian. Roedd y bobl ifanc wedi cael mwynhad o’r daith ac rydym ni yn falch iawn fod pob un ohonynt wedi cyflawni’r daith.”
Eirafyrddio
Ers blwyddyn bellach mae Menter Iaith Conwy, mewn partneriaeth gyda Cymunedau’n Gyntaf. Wedi bod yn rhedeg clwb Syrffio i Gymry Cymraeg ym Mhen Llyn a Môn ar gyfer pobl ifanc o’r ddwy ardal ynghyd a Chonwy.
Ond eleni penderfynwyd mentro i amgylchedd hollol wahanol sef i’r mynydd ac yn bwysicaf fyth, i’r Eira ar y mynyddoedd. Trwy gymorth ariannol oddi wrth Arian i Bawb cynllun o dan Gronfa’r Loteri Fawr a Cyngor Chwaraeon Cymru, llwyddwyd eleni i ymestyn gweithgareddau y clwb i gychwyn Eirafyrddio (Snowboarding). Cawsom gymorth ymarferol gan Simon sy’n gweithio i’r Bartneriaeth Awyr Agored. Cawsom lawer o gymorth oddi wrth siop “Menai Ski and Outdoor” ym Mhorthaethwy i gael gafael ar yr offer bwrpasol.
Ar nos Fawrth y 4 o Fai daeth 14 o ieuenctid o Ynys Môn a Chonwy at ei gilydd i drio eirafyrddio am y tro cyntaf. Cynhaliwyd y sesiwn ar lethr sgïo John Nike yn Llandudno.
Dywedodd Bedwyr ap Gwyn o Menter Iaith Conwy;
“Mae’n bwysig fod y math yma o gyfleon i gael yn Gymraeg, ynghyd a gweithgareddau awyr agored yn gyffredinol, gan fod yna gymaint o brinder siaradwyr Cymraeg yn gweithio yn y maes. Rydym yn gobeithio rhwng eirafyrddio a syrffio y byddwn yn cynnal clwb byrlymus gan drefnu tripiau i syrffio ac eirafyrddio.”
Mi fydd y clwb yn cwrdd yn aml trwy’r flwyddyn, am fwy o wybodaeth ffoniwch Bedwyr ap Gwyn ar 01492 642 357 neu ebostio: bedwyr@menteriaithconwy.cymru247.net
Trip Pentre Bach
Menter Iaith Conwy yn cynnal trip i Pentre Bach ar gyfer teuluoedd ar Hydref y 1af. Cliciwch yma am fwy.
Calendar Gweithgareddau'r Bro- Cliciwch yma
Gwersi Cymraeg
Ydach chi'n adnabod rhywun sydd eisiau dysgu Cymraeg?
Am fwy o fanylion ynglŷn a'r cyrsiau dysgu Cymraeg yn Sir Conwy, cysylltwch gyda Howard Edwards (Popeth Cymraeg) ar 01492 641494 / howard@popethcymraeg.com neu Janet Charlton (Cyrsiau WLPAN) 01690 710187.
|