Prosiectau
• Digwyddiadau cyfrwng Cymraeg eraill
yn y Sir
• Cynllun Yr Hen Ysgol
• Cynlluniau Celfyddydol
• Gweithredu’n Lleol
• Prosiectau Plant / Pobl Ifanc
• Cyfieithu Cymunedol Conwy
• P.A. Cymunedol
Digwyddiadau cyfrwng Cymraeg eraill yn y Sir
Wrthi yn diweddaru ...............
Cynllun yr Hen Ysgol, Llanrwst
Mae Menter Iaith Conwy ar ddechrau datblygu cynllun Yr Hen Ysgol yn Llanrwst gan anelu at greu adnodd unigryw fydd yn cynnwys radio cymunedol, stiwdio sain, gofod perfformio ac arddangos. Bydd darpariaeth ar gyfer hyfforddiant yn rhan bwysig o’r ganolfan hefyd gan roi pwyslais ar ddatblygu sgiliau Cymraeg o fewn meysydd amrywiol. Prif nod yr hyfforddiant yw creu gweithlu dwyieithog mewn meysydd sydd â phrinder siaradwyr Cymraeg ynddynt ar hyn o bryd gan gynnwys y sectorau gweinyddol, awyr agored, cadwraeth ac ynni adnewyddol.
Camau cychwynnol yw’r rhain ac rydym yn awyddus iawn i gydweithio â mudiadau sydd eisoes yn ymwneud â’r math yma o waith a chynlluniau er mwyn gweithio mewn partneriaeth a sicrhau’r ddarpariaeth a’r gwasanaeth mwyaf effeithiol. Ein gweledigaeth yw y bydd Canolfan yr Hen Ysgol yn gartref i ystod eang o weithgareddau a bod yr hyfforddiant yn creu cyfle i drwytho’r rhai di-Gymraeg yn yr iaith er cynnig gwasanaeth dwyieithog ac i’r Cymry Cymraeg ennill sgiliau arbenigol ac ymuno’n hyderus â’r gweithluoedd amrywiol.
Cynlluniau Celfyddydol.
CYMRU, LLOEGR A LLANRWST!
‘Llwybr y Ceirw’ - Prosiect celfyddydol cyffroes sy’n digwydd yn Llanrwst.
Mae dwy artist preswyl, Megan a Mari, yn gweithio ar brosiect a elwir yn ‘Llwybr y Ceirw’. Maent wedi eu comisiynu gan grŵp cymunedol Cymru, Lloegr a Llanrwst i gynhyrchu gwaith celf cyfoes er mwyn dathlu hanes gyfoethog ac amrywiol Llanrwst.
Yn ddiweddar trodd Llanrwst yn wyrdd wrth i’r artistiaid preswyl, Megan Broadmedow a Mari Elain Gwent osod tywyrch gwair ar draws sgwâr y dref. Roedd y digwyddiad artistig unigryw hwn yn cynnwys perfformiad unwaith yn unig wrth i’r tywyrch gael eu gosod. Roedd hefyd yn nodi dechreuad cyfres o ddigwyddiadau yn y dref ac yng nghoedwig Gwydr yn ystod y misoedd nesaf.
Datblygodd y syniad i osod y tywyrch gwair ar y sgwâr wrth i’r ddwy artist gael eu swyno gan y ffaith fod trigolion Llanrwst, yn anterth gwrthryfel Glyndŵr yn yr 1440au, wedi ffoi o flaen fflamau’r dref a cheisio lloches yn y goedwig. Roedd y dref yn wag am gyfnod mor hir fel y tyfodd gwair ar y sgwâr gan ddenu ceirw o’r goedwig yno i bori!
Gofynnodd Cymdeithas Cymru, Lloegr a Llanrwst hefyd i’r artistiaid gynllunio llwybr cerfluniau a fydd yn dechrau yn y dref ac yn arwain i’r goedwig. Mae Megan a Mari wedi bod yn brysur yn meddwl am ystod eang o waith cerfluniol, a bydd y gwaith o lunio’r llwybr cerfluniau yn dechrau ym mis Hydref.
Mi fydd mwy o ddigwyddiadau yn cael ei cynnal yn ystod yr Hydref. Am fwy o fanylion cysylltwch â Sian Emlyn ar 01492 642357.
Gweithredu’n Lleol
Mae’r gred bod angen adnabyddiaeth well o lawer o’r Sir i fod yn wirioneddol effeithiol. Er mwyn gwireddu hyn credwn fod angen sefydlu 6 i 7 pwyllgor ardal o fewn y sir. Bydd hyn yn ein galluogi i weld beth sydd ei angen i weithredu o fewn yn yr ardaloedd penodedig er mwyn diogelu a datblygu defnydd o’r Gymraeg. Rydym eisoes wedi sefydlu nifer o bwyllgorau;
· Penmaenmawr a Llanfairfechan, sef Pen-lan
· Llandudno a’r Cylch, sef Y Creuddyn
· Dyffryn Conwy (dan ofal cynllun gweithredu Llanrwst )
· Rhwng Dyffryn Conwy a Chlwyd, sef Y Berferddwlad
· Abergele
· Dolwyddelan
· Uwch Aled
Ein bwriad ni wedyn yw gweithredu ein prif feysydd drwy’r pwyllgorau hyn a ymateb i anghenion lleol Bydd hyn yn ein galluogi i redeg rhaglen lawn ar draws y sir. Maent yn cyfarfod yn fisol. Mae croeso i chi ymuno. Cysylltwch oes gennych syniadau.
Prosiectau Plant/Pobl Ifanc

Hyfforddiant Awyr Agored
Mae Menter Iaith Conwy yn chwilio am unigolion Cymraeg sydd yn dymuno ennill cymwysterau yn y diwydiant awyr agored. Fe fedrwn helpu pobl y tu allan i Gonwy.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio yn y diwydiant awyr agored gysylltwch â Bedwyr ap Gwyn ar bedwyr@menteriaithconwy.cymru247.net neu 01492 642357.
Fe fyddwn yn chwilio am ffynonellau cyllid ar gyfer eich hyfforddi yn eich camp.
Er enghraifft yn ddiweddar cawsom swm sylweddol i hyfforddi arweinwyr mynydd, ac hefyd i hyfforddi hyfforddwyr syrffio.
Be bynnag yw eich diddordeb o gerdded i ddringo, beicio i ganŵio fe wnawn ein gorau i’ch cymhwyso yn eich camp.
Y rheswm pam rydym yn awyddus i neud hyn yw:
Roedd canlyniad Astudiaeth ddiweddar gan Brifysgol Bangor yn dangos bod prinder mawr yn y nifer o siaradwyr Cymraeg sy’n gweithio o fewn y diwydiant antur awyr agored yn y gogledd Orllewin; gyda dim ond 5% yn medru’r Gymraeg. Felly fel adwaith i hyn mae Menter Iaith Conwy yn ceisio newid y sefyllfa trwy gymhwyso mwy o Gymru Cymraeg yn y maes gan greu cyflogaeth gynaliadwy lleol, a chymreigio’r diwydiant awyr agored yng Nghymru.
I archebu lle, ffoniwch Bedwyr ar 01492 642357
P.A. Cymunedol
Trefnu gig neu digwyddiad ? Gallwn darparu offer P.A. am bris rhesymol efo technegydd sain.
PA Bach
£60 Heb dechnegydd
£120 hefo technegydd
PA Mawr
£120 hefo technegydd yn unig
(bydd angen codi mwy os fydd angen teithio yn bell)
Cysylltwch gyda Esyllt Tudur 01492 642357 esyllt@menteriaithconwy.cymru247.net.
|