Mentrau Iaith y Gogledd Lluniau Gogledd Cymru
 
 
Help / Cymorth

 

 

 

Archif

Agenda 09- cliciwch yma

Adroddiad Blynyddol 2009-2010 - cliciwch yma


Adroddiad Blynyddol 08-09- cliciwch yma


Cofnodion Cyfarfod Blynyddol- cliciwch yma

Newyddlen yr Hydref 2011 - cliciwch yma


Newyddlen yr Haf 2011 - cliciwch yma


Newyddlen y Gwanwyn 2011 - cliciwch yma


Newyddlen yr Hydref 2010 - cliciwch yma

Cylchlythyr Y Pasg 2010- Cliciwch yma


Cylchlythyr Mis Medi 2009- cliciwch yma


Cylchlythyr Ebrill 2009 - cliciwch yma


Cylchlythyr Rhagfyr 2008 - cliciwch yma


Stomp Farddol
Cynhaliwyd ein stomp flynyddol ar Nos Wener Mehefin 17eg, ac roedd llond y lle yn y Felin Brwcws ar gyfer noson hwyliog braf. Roedd digon o chwerthin i’w glywed wrth i’r cystadleuwyr John Glyn Jones, Haf Llewelyn, Arwel Emlyn Jones, Gruffudd Antur a Les Baker ein diddori. Y Stompfeistr eleni oedd Arwel ‘Pod’ Roberts, a wnaeth yn arbennig i gadw trefn ar y beirdd a sicrhau i’r noson redeg yn esmwyth! Er bod y noson yn llawn o farddoniaeth wych, Arwel Emlyn Jones oedd yn fuddugol a chipiodd stôl y stomp - stôl bren wedi ei wneud a’i roi’n hael i’r digwyddiad gan Alun Jones (Bwyellwyr Clwyd), Fferm Bryn Isa’. Hoffai’r Fenter ddiolch i Lenyddiaeth Cymru am eu nawdd ag y Felin Brwcws am y lleoliad a hefyd i bawb a wnaeth fynychu’r digwyddiad a chyfrannu at yr hywl. Diolch yn fawr.


Huw Stephens - Taith Ar Eich Ennill Efo’r Gymraeg

Huw Stephens

Ar eich ennill efo’r Gymraeg

Mae’r wythnos nesaf yn mynd i fod yn un gyffrous iawn i Fenter Iaith Sir Ddinbych. Mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Ddinbych ag Urdd Gobaith Cymru bydd Huw Stephens, sy’n enwog fel DJ ar Radio 1 a Radio Cymru, yn ymweld â holl ysgolion uwchradd y sir fel rhan o’r daith “Ar eich ennill efo’r Gymraeg”. Bydd Huw yn siarad â’r disgyblion a sôn am fanteision economaidd sgiliau dwyieithog yn y gweithle a’r cyfleoedd cyffrous i gymdeithasu yn y Gymraeg, gan dynnu ar ei brofiad ei hun.

 


Bandiau Cymwel

cymwel


Newyddlen Yr Haf 2010


Dafydd y Ddraig

Cynhaliwyd cystadleuaeth ‘Beth yw enw’r ddraig Gymraeg’ yn ddiweddar ar stondin Menter Iaith Sir Ddinbych yng Ngŵyl Goed Llanelwy. Roedd yn gystadleuaeth i blant o bob oed. Roedd rhaid i’r plant liwio llun o ddraig a dyfalu beth oedd ei h/enw. Y wobr oedd draig anwes. Ond peidiwch â phoeni dim un gwir ydoedd! Roedd yn gystadleuaeth boblogaidd dros ben gyda bron iawn i 50 o blant yn cystadlu. Ond dim ond un enillydd all fod a dewiswyd yr enw buddugol, sef Dafydd, gan Emily Reid o’r Rhyl. Mae Emily yn ddisgybl yn Ysgol Santes Brigid, Dinbych. Llongyfarchiadau mawr i iddi!


Gŵyl Ieuenctid

poster gwyl ieuenctid

Dydd Mawrth, Awst 10,

Canolfan Hamdden Llanelwy

gwyl ieuencid

Dydd Mercher, Awst 11,

Pafiliwn Chwaraeon Corwen

gwyl ieuenctid

Dydd Iau, Awst 12,

Canolfan Hamdden Rhuthun

gwyl ieuenctid

Dydd Gwener, Awst 13,

Canolfan Hamdden Dinbych

 


Noson o Gyfnewid (Nos Wener y 23ain Ebrill, 2010)- Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Cystadleuaeth O-ond-1, am fwy o fanylion- Cliciwch yma


Seren am Swper

Os oes ddiddordeb gennych chi cymryd rhan mewn rhaglen deledu newydd, cyffrous.. cliciwch yma


Gwobrau Cymuned a Threftadaeth Nationwide

Mae gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn helpu i greu pypedau gyda disgyblion Ysgol Caer Drewyn a phobl ifanc Clwb Cymru Corwen wedi cael eu henwebu ar gyfer Gwobr Cymuned a Threftadaeth Nationwide.

Sefydlwyd y gwobrau er mwyn cydnabod ymdrechion pobl fel y gwirfoddolwyr i wneud cyfraniad go iawn o fewn eu cymunedau lleol.

Mae’r gwirfoddolwyr wedi cael eu henwebu yn y categori Treftadaeth - Grwp - lle caiff tri enillydd eu dethol yn ystod mis Mehefin 2008. Ymhob un o’r 12 ardal dyfarnu fe ddetholir tri enillydd rhanbarthol Cymuned a thri Treftadaeth fel enillwyr cenedlaethol, ac o’r rhain fe ddewisir un enillydd cenedlaethol ym mhob categori.

Mi fydd rhag flas o’r sioe bypedau Owain Glyndwr (script gan Iwan Llwyd) i’w weld yn Eisteddfod Llangollen yn ystod bore Dydd Mawrth (08/07/08).



Stomp Farddol 2010



Cliciwch yma am fwy.


Gwyl Fwyd Nos Wener 5ed o Fawrth- cliciwch yma


Taith Yr Urdd a Mentrau Iaith i Batagonia Hydref 2009- cliciwch yma

Lluniau Taith Patagonia

Y criw o flaen yr Andes.


Y criw cyn cystadlu yn Eisteddfod y Wladfa.
Gweld morfil!

 


Cyngerdd Patagonia

Cafwyd noson arbennig iawn yn Neuadd y Dref, Dinbych nos Iau Ebrill 30ain. Daeth llu o artistiaid talentog lleol at ei gilydd er mwyn cynnal cyngerdd o safon uchel er mwyn codi arian ar gyfer Taith Wirfoddol yr Urdd a Mentrau Iaith y Gogledd i Batagonia ym mis Hydref 2009.

Mae’r saith sydd wedi cael eu dewis i fynd ar y daith anhygoel hon wedi bod yn gweithio’n galed iawn dros y misoedd diwethaf. Yn unigol mae’r 7 saith wedi gwneud amryw o bethau, yn cynnwys gwerthu cacennau a the yn yr Eisteddfodau lleol er mwyn codi arian tuag at y daith. Hefyd fe drefnodd Mentrau Iaith Môn, Conwy a Sir Ddinbych daith cerdded o Abergwyngregyn i Aberffraw gyda bob sir yn cerdded 12 milltir yr un er mwyn codi arian.

Bydd y gwaith caled yn parhau dros y misoedd nesaf wrth i’r bobl ifanc geisio cyrraedd eu targed o £1,500 yr un a gwireddu’r freuddwyd o wneud gwaith gwirfoddol ym Mhatagonia. Bydd y gwaith gwirfoddol yn cynnwys dosbarthu llyfrau a nwyddau i’r ysgolion Cymraeg. Bydd y bobl ifanc hefyd yn helpu i gynnal sesiynau amrywiol o fewn yr ysgolion ym Mhatagonia.

Pwrpas y daith yw creu cyswllt drwy’r iaith Gymraeg rhwng y Wladfa a Chymru, dysgu am y ffyrdd yr ydym yn debyg ac yn wahanol, a hefyd dangos bod y Gymraeg yn iaith fyw i ieuenctid Cymru.


Gweithdai Brigyn
Am dridiau yn ganol Hydref bu y band Brigyn yn cynnal gweithdai cerdd mewn tair ysgol yn y Rhyl. Roedd y band yn gadael i’r plant ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol i greu a recordio cerddoriaeth eu hunain. Defnyddiwyd keyboard, guitar ag llais i gynhyrchu deunydd creadigol tu hwnt. Y tair ysgol oedd Ysgol Llewelyn, Ysgol Dewi Sant a Ysgol Bryn Hedydd ag mae’r diolch am ariannu y diwrnodau yma yn mynd i Gymunedau yn Gyntaf yn ogystal a Threftadaeth y Loteri. Bu’r tridiau yn llwyddiant ysgubol gyda’r plant wrth ei boddau yn creu caneoun o’r newydd. Mae’r cerddoriaeth a cynhyrchwyd yn nawr ar gael ar Cryno Ddisg.

cliciwch yma i weld y lluniau

Ffermwyr Ifanc Nantglyn

Mi gafodd aelodau Ffermwyr Ifanc Nantglyn drwy gefnogaeth Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ar y cyd efo Menter Iaith Sir Ddinbych gyfle i ddysgu sut i chwarae drymiau dan arweiniad Deian Elfryn. Ar ddiwedd y noson syndod oedd gweld mai’r merched oedd wedi cael hwyl arni, tra bod y bechgyn angen mwy o ymarfer! Diolch yn fawr iawn i bawb am gynorthwyo efo’r noson.

Gwelwch y lluniau isod:-


Grant ‘Arian i Bawb Cymru’ i Fenter Iaith Sir Ddinbych

Derbyniodd Menter Iaith Sir Ddinbych grant o £3,500 ar gyfer creu dau furlun, deunyddiau marchnata a llwyfannu sioe bypedau Owain Glyndwr gan y rhaglen grantiau loteri ‘Arian i Bawb Cymru’ a gyda chefnogaeth gan y Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Bydd un murlun yn cael ei greu gyda disgyblion ysgolion cynradd yn Ninbych a’r murlun arall gydag aelodau o’r gymuned ac yn cael eu harddangos maes o law yn Theatr Twm o’r Nant diwedd y flwyddyn. Bydd y deunydd marchnata yn cael eu creu fel rhan o ddathliadau’r Fenter yn 10 oed eleni. Ar hyn o bryd mae disgyblion Ysgol Caer Drewyn a phobl ifanc o ardal Corwen wrthi yn creu pypedau ar gyfer sioe Owain Glyndwr dan arweiniad Heather Burnley.

Mae Swyddog Addysgol Treftadaeth Iaith, Sian Elin Huws wrth ei bodd â’r grant. Dywedodd “Bydd yr arian yn gyfle i gwblhau prosiectau sydd ar y gweill eisoes, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl oni bai am grant Arian i Bawb Cymru.”

Am fwy o wybodaeth am Arian i Bawb Cymru neu i dderbyn pecyn cais ffoniwch: (01686) 611740 neu edrychwch ar y wefan www.arianibawb.org.uk

 

Cymraeg i'r Teulu

Mudiad Ysgolion Meithrin a Menter Iaith Sir Ddinbych mewn partneriaeth i gynnig Cymraeg i’r Teulu a chodi ymwybyddiaeth Treftadaeth.

Yn ddiweddar llwyddodd Mudiad Ysgolion Meithrin mewn partneriaeth â Menter Iaith Sir Ddinbych i sicrhau cyllid gan Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir Ddinbych i gynnal tri chwrs Cymraeg i'r Teulu o fewn Cylchoedd Ti a Fi yn y Rhyl, Dinbych Uchaf a Glyndyfrdwy.
Cynllun yw ‘Cymraeg i’r Teulu’ sy’n cynnig rhwng 6 a 12 sesiwn o hyfforddiant i rieni ar batrymau iaith syml wedi eu seilio ar sefyllfaoedd bob dydd yn y cartref. Mae hefyd yn cynnig cyfle i rieni ddysgu caneuon a hwiangerddi Cymraeg ynghyd â sgiliau darllen storïau syml i’w plant yn y Gymraeg. Eleni am y tro cyntaf mae’r Fenter Iaith wedi sicrhau dilyniant i’r cwrs trwy gael Nia Williams i mewn ar ddiwedd y cwrs i greu arddangosfa o waith crefft ar hwiangerddi traddodiadol.

“ Mae gan Gymru gyfoeth o alawon gwerin sydd wedi cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth”, meddai Nia.

A byddwn ni yn gwneud collage ymhob sesiwn lle bydd modd dod a'r cwbl at ei gilydd yn y diwedd i greu arddangosfa.”

Cliciwch yma i weld lluniau o'r gweithdy creu collage.

Dyma’r ail flwyddyn i Fudiad Ysgolion Meithrin sicrhau cyllid gan y bartneriaeth ac mae’r datblygiad hyn eleni yn dangos bod gweithio mewn partneriaeth o fantais i’r plant a’r bobl Ifanc yn lleol.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Carys Gwyn MYM (01978) 363422
Sian Elin (01745) 812822


Gweithdy Ysgol Llandrillo

Mae disgyblion Ysgol Gynradd Llandrillo, Corwen gyda chefnogaeth gan Y Loteri Genedlaethol trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri wedi bod yn brysur yn creu murlun o'u pentref gan adlewyrchu treftadaeth yr iaith Gymraeg. Roedd swyddog o Fenter Iaith Sir Ddinbych a Neil Dalrymple wedi bod yn gweithio ar y cyd gyda'r disgyblion yn yr ysgol. Yn rhan o'r murlun mae afon Ceidiog, y bont, y cylch cerrig a'r eglwys. Hoffai'r Fenter ddiolch i Mrs Gwenda Owen a Mr Neil Dalrymple am eu cydweithrediad parod.


Creu Cardiau Santes Dwynwen

Yn ystod nos Iau (10/01/08) mi gafodd aelodau o Glwb Ffermwyr Ifanc Rhuthun gyfle i greu cardiau Santes Dwynwen yng ngofal Sioned Jones gyda chefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Chynllun Gweithredu Iaith Rhuthun. Hoffai aelodau staff Menter Iaith Sir Ddinbych ddiolch yn fawr iawn am help gan bawb.


 

 

 



Denbighshire

 
mentrauiaith-gogledd.com
 
Bwrdd Yr Iaith Gymraeg
Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru Bwrdd Yr Iaith Gymraeg
Dyluniwyd gan Delwedd