
Cymraeg i Oedolion
Mae’r iaith Gymraeg yn cael ei chlywed fwy fwy yn y cyfryngau, ar y stryd, yn y gweithle ac ymhlith plant.
Efallai eich bod chi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers nifer o flynyddoedd bellach, neu efallai eich bod chi wedi dechrau dysgu ond wedi gorfod rhoi’r gorau iddi. Beth bynnag yw’ch sefyllfa, dyma’r lle gorau i gael mwy o wybodaeth am y ffordd orau o ddysgu Cymraeg yn Sir Ddinbych.