Mentrau Iaith y Gogledd Lluniau Gogledd Cymru
 
 
Help / Cymorth

 

 

 

NewyddionDenbighshire

sTwNsH ARCHIF

Cynllun hyfforddi rhan-amser dros 6 mis

 DYDDIAD CAU CEISIADAU – 12yp, Dydd Mercher 8fed o Chwefror 2012

Mae miloedd o dapiau, rîliau a disgiau o ddeunydd delwedd symudol ym llechu mewn archifau, llyfrgelloedd a storfeydd led-led y wlad.

Oes gen ti’r CREADIGRWYDD I GREU RHYWBETH HOLLOL WAHANOL ac anghyffredin allan o’r cyffredin?

Mae Cyfle yn gwahodd ceisiadau i gynllun hyfforddi newydd sbon sydd wedi ei gynllunio i ddysgu’r sgiliau creadigol, arloesol a hanfodol sydd eu hangen ar gyfer creu byd newydd o brofiadau allan o ddeunydd delwedd symudol sydd eisoes yn bodoli.

PWY DDYLAI YMGEISIO? –
Rydym yn chwilio am unigolion sydd yn meddu ar ystod eang o brofiadau a/neu cymhwysterau ac sy’n dangos gwir-frwdfrydedd am y pwnc dan sylw, cyn belled a’ch bod chi dros 18 oed, nid yw oedran yn broblem chwaith.

  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn.
  • Mae’r cynllun hwn yn agored i ymgeiswyr sy’n byw yng Nghymru yn unig

 

PECYN GWYBODAETH AC YMGEISIO - http://www.cyfle.co.uk/home/fullPartCoursesDetails/stwnsharchif

Cyflwynir y cynllun hwn gan gwmni hyfforddi Cyfle ac ariannir gan Fframwaith Hyfforddiant Skillset Cymru sy’n ymagwedd ar y cyd gan Skillset Cymru, y darlledwr iaith Gymraeg S4C a’r gymdeithas fasnach Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC)


Cynghorion ar fanwerthu llwyddiannus ar restr gweithdy siopa

Mae cyfle cyffrous wedi codi i siopwyr a rheolwyr Sir Ddinbych gymryd rhan mewn dosbarth meistr a grëwyd gan y gwrw manwerthu enwog a’r seren deledu Mary Portas, mewn partneriaeth â Skillsmart Retail.

Fe drefnwyd digwyddiad Sesiwn Flasu Mary Portas gan Dîm Cymorth Busnes Cyngor Sir Ddinbych, mewn partneriaeth â Siop Sgiliau Manwerthu Coleg Llandrillo a Grŵp Busnes Dinbych.

Fe gynhelir y digwyddiad ym Melin Brwcws ar ddydd Mercher, Chwefror 22, a’r cofrestru’n dechrau am 6pm. Dim ond 15 o leoedd sydd ar gael ar gyfer y digwyddiad yma ac fe ddyrennir lleoedd ar sail y cyntaf i’r felin.

Dywedodd Michelle Rendell, Swyddog Twf Busnes Sir Ddinbych: "Rydyn ni’n hynod falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth i gynnig y digwyddiad hwn am ddim. Fe gaiff y cynrychiolwyr ddealltwriaeth wirioneddol o bob agwedd ar redeg busnes manwerthu, yn cynnwys gweledigaeth ar gyfer y busnes, prynu a gwerthu, creu arddangosiadau, marchnata ar gyfer mwy o gwsmeriaid a llawer mwy.

"Mae hwn yn un o nifer o weithgareddau cyfredol i hyrwyddo busnesau lleol annibynnol a rhoi cyfle i’r perchnogion neu’r rheolwyr wella eu sgiliau manwerthu ac adeiladu arnyn nhw, fel y gallan nhw wneud popeth sy’n bosib i sicrhau bod eu busnes yn ffynnu.”

I gael gwybodaeth bellach neu i fwcio lle, cysylltwch â Sue Mews, Ysgrifennydd Grŵp Busnes Dinbych ar 01745 813125 / 0771554556.


DAL DY DAFOD

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych a’r Cyffiniau 2013
Pwyllgor Apêl Dinbych
DAL DY DAFOD
Hanes y Gymraeg trwy gerdd a chân
yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych
Nos Wener Chwefror 3ydd am 7:30 y h
Yng nghwmni
Twm Morys, Myrddin ap Dafydd, Ifor ap Glyn,
Meirion Mcintyre Huws, a cherddorion eraill
Tocyn £10 (yn cynnwys gwydriad o win neu ddiod ysgafn)
Ar gael o Siop Clwyd neu ffonio 01745 812172



Brwydr y Bandiau

Menter Iaith Sir Ddinbych yn chwilio am yr Super Furry Animals neu Duffy nesaf!

A ydych chi mewn band neu’n unigolyn cerddorol? Dych chi’n hoffi cystadlu? Os felly ‘Brwydr y Bandiau’ yw’r gystadleuaeth i chi! Bydd bandiau ag unigolion Sir Ddinbych, Sir Fflint a Maelor yn cystadlu yn erbyn ei gilydd er mwyn dewis pa fandiau neu unigolion bydd yn cynrychioli'r gogledd ddwyrain yng Nghystadleuaeth y Gogledd ac wedyn yn Genedlaethol yn rownd derfynol ‘Brwydr y Bandiau’ a fydd yn cael ei ddarlledu yn fyw ar Radio Cymru noson y 18fed o Ebrill 2012.

Rhaid i chi gofrestru diddordeb trwy ffonio Gerallt ar 01745 812822 neu e-bostio gerallt@menteriaithdinbych.co.uk erbyn Ionawr y 31ain 2012. Cofiwch fod croeso ffonio neu e-bostio am sgwrs anffurfiol i drafod y gystadleuaeth cyn cofrestru.


Newyddlen y Nadolig 2011

Croeso i rifyn y Nadolig o Newyddlen Menter Iaith Sir Ddinbych. Ceir yma straeon am waith y Fenter, newyddion, gwybodaeth am ddigwyddiadau diddorol yn yr ardal ac, y tro hwn, Horosgôp Rhamant Santes Dwynwen! Cofiwch hefyd ein bod bob amser yn croesawu cyfraniadau gan y gymuned, felly os oes gennych chi rywbeth i’w ddweud a hoffech chi gyfrannu at Newyddlen y Gwanwyn yna gysylltwch â ni ymholiadau@menteriaithdinbych.co.uk.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd!

Newyddlen y Nadolig 2011
- cliciwch yma

Horosgôp Rhamant Santes Dwynwen
- cliciwch yma


Dyddiad pwysig i’ch dyddiadur

Fe’ch gwahoddir i Gyfarfod Blynyddol Menter Iaith Sir Ddinbych Nos Fercher 5ed o Hydref 2011 yn Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl. Bydd ein siaradwraig wadd, Sally Pettit o Ty’n Llanfair, Rhuthun, yn sôn am Fanteision Cymdeithasol ac Economaidd y Gymraeg. Bydd y cyfarfod yn dechrau am 7.30yh ond bydd bwffe ar gael cyn y cyfarfod o 6.45 ymlaen. Os hoffech ymuno gwelir atodiad neu cysylltwch a Iorwen Jones ar 01745 812822 neu e-bostio iorwen@menteriaithdinbych.co.uk cyn 21ain o Fedi 2011 os gwelwch yn dda.

Edrychaf ymlaen at eich gweld


 


 




Menter Iaith Sir Ddimbych www.dewis.org.uk Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru Bwrdd Yr Iaith Gymraeg Menter Iaith Sir Ddimbych
Menter Iaith Sir Ddinbych:
Elusen Gofrestredig: 1120223
Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 6204415 - Wedi ei gofrestru yng Nghymru
mentrauiaith-gogledd.com
 
Bwrdd Yr Iaith Gymraeg
Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru Bwrdd Yr Iaith Gymraeg
Dyluniwyd gan Delwedd