Mentrau Iaith y Gogledd Lluniau Gogledd Cymru
 
 
 

 

 

 

FflintNewyddion

Blancedi, baneri a bomiau!

Gwahoddir dysgwyr Cymraeg i fod yn greadigol gyda chyfres o weithdai dwyieithog. Mae’r gweithdai yn ddelfrydol i rywun sydd yn mwynhau celf a chrefft ac sydd eisiau ymarfer eu Cymraeg mewn awyrgylch hwyliog a chyfeillgar. Bydd y sesiynau oll am ddim, a byddent yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Ymwelwyr Gwaith Dyffryn Rhydymwyn (Rhydymwyn Valley Works), a oedd yn ffatri gyfrinachol lle gynhyrchwyd miloedd a miloedd o fomiau mwstard yn ystod yr Ail Ryfel Byd!

Esboniodd mentor y grwp, Dee Rivaz, “Mae croeso cynnes i bawb, ond yr obaith yw bydd dysgwyr Cymraeg yn defnyddio hwn fel cyfle iddyn nhw ymarfer eu Cymraeg mewn awyrgylch hamddenol. Ffocws y gweithgaredd crefft bydd i greu blancedi a baneri bydd yn dehongli syniad trwy ddelweddau a geiriau Cymraeg a Saesneg, trwy unrhyw ddull - collage, printio, applique, ffelt, gweu, crochet ac ati. Bydd yna gefnogaeth gan diwtor, a syniadau ac adnoddau i helpu ni gychwyn. Rydym am gyfarfod unwaith y mis, felly dewch i ymuno a ni!”

Cynhelir y sesiwn gyntaf ar ddydd Llun, Medi’r 27ain, rhwng 1 – 3.30pm. Darperir lluniaeth ysgafn.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda Dee Rivaz ar 0798709621.


Brwydr y Bandiau

Mae Mentrau Iaith Cymru (Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) yn chwilio am dalent gerddorol ifanc i fod yn rhan o’n hymgyrch i greu sin roc a phop yng ngogledd-ddwyrain Cymru!

Mae BBC C2 yn chwilio am gerddorion 16 - 21 oed i gystadlu ym Mrwydr y Bandiau! Gellir darllen y rheolau llawn yma:
http://www.bbc.co.uk/radiocymru

Cynhelir y rownd gyntaf yng nghlwb L’etage, Wrecsam ar Hydref 8fed. Bydd enillwyr y gystadleuaeth yn mynd ymlaen i’r rownd ranbarthol, ac efallai i gynrychioli’r gogledd yn y rownd derfynol! Does neb o’r gogledd wedi ennill Brwydr y Bandiau ers NO STAR o Wrecsam yn 2005 - tybed gallwn ni newid hwn eleni?!

Am fwy o wybodaeth, neu i gystadlu, e-bostiwch gwybod@menteriaithsiryfflint.co.uk.


Gŵyl Y Ffin 2010 yn Nhreffynnon

Ni lwyddodd y glaw i ddifetha Gŵyl Y Ffin wrth i ymwelwyr lu dod draw i Dreffynnon dydd Sadwrn diwethaf.

Lansiwyd Gŵyl Y Ffin yn 2009 er mwyn cynnig llwyfan i fandiau roc a phop Cymraeg yng ngogledd ddwyrain Cymru. Teimla trefnwyr Y Ffin, sef Menter Iaith Sir y Fflint ac Urdd Gobaith Cymru, bod yr wyl wedi llwyddo codi ymwybyddiaeth o’r sîn cerddoriaeth Cymraeg ymhlith gynulleidfa newydd.

Meddai Darren Morris, Swyddog Datblygu Urdd Flint a Wrecsam, “Roedd yn gymysgedd ffynci o gerddoriaeth Cymraeg, Saesneg, roc, pop, acwstig, ska, ac indie. Clywsom bob offeryn o drombôn i dambwrîn. Wnaethom ni jamio i Reggae Cymraeg a dawnsio i Beyonce dwyieithog. Er na ddeallodd pawb y lyrics, roeddent yn dawnsio yn y stryd. Daeth pobl i ofyn fwy am y bandiau, ac i holi a oedd yna gigs Cymraeg tebyg yn digwydd yn lleol. Roedd yn wych i allu cynhyrchu gymaint o ddiddordeb mewn cerddoriaeth Cymraeg cyn i’r Eisteddfod Genedlaethol dod i Wrecsam yn 2011. Rydym eisiau i bawb bod yn ymwybodol am, a mwynhau’r gerddoriaeth gyfoes wych sydd yn bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd.”

Daeth tua 500 o ymwelwyr i’r ŵyl, yn dod ag incwm yn ogystal â cherddoriaeth i stryd uchaf Treffynnon.

Meddai Gwawr Cordiner, Rheolwr Cyfarwyddwr Menter Iaith Sir y Fflint, “Ein bwriad oedd cynnal gweithgaredd cymunedol yn Nhreffynnon; un gall pawb mwynhau heb ddim ots am ei gallu ieithyddol. O’r ymateb positif a’r croes-dorriad eang gawsom ni ar ddydd Sadwrn, hoffwn feddwl ein bod wedi cynnal gŵyl lwyddiannus. Rydym wrthi’n trefnu Y Ffin 2011 yn barod! Hoffwn ddiolch eto i bawb a chefnogodd Y Ffin yn Nhreffynnon.”

Derwyddion Dr Gonzo Mr Huw

Y Ffin 2010

Mae Menter Iaith Sir Y Fflint ac Urdd Gobaith Cymru eisiau gael pawb ar eu traed yn dawnsio yng ngŵyl gerddorol Y Ffin! Mae Glastonbury gogledd-ddwyrain Cymru yn dod i Dreffynnon. Ar Orffennaf 24ain bydd Gerddi’r Tŵr yn cynnig llwyfan i rai o fandiau fwyaf ar y sin cerddoriaeth Cymraeg.
Mae’r fenter iaith a’r mudiad ieuenctid fwyaf yng Nghymru yn dod a charnifal cerddorol i Dreffynnon i hybu bandiau roc, blues, pop a pync Cymraeg.
Ymhlith y bandiau eraill a fydd yn diddanu’r gynulleidfa yn ystod y gwŷl AM DDIM yw Derwyddon Dr Gonzo, Racehorses, Masters in France, Yucatan a Brigyn. Ewch i www.yffin.co.uk i weld pawb bydd yn chwarae, ac am ychwaneg o wybodaeth.

Meddai Swyddog Threftadaeth Menter Iaith Sir y Fflint, Rebecca Davies,“Dydi o ddim yn orliwiad i ddweud bod gennym ni fandiau gorau Cymru yn chwarae yn Y Ffin 2010. Rhyngddynt, mae’r bandiau yma wedi rhyddhau llwythi o albymau llwyddiannus ac wedi perfformio ar draws Cymru, Prydain, a chyn belled â’r UDA a Siapan! Maen nhw’n cael llawer o ‘air play’ ar Radio Cymru a Radio 1, a rŵan maen nhw yma yn Nhreffynnon. Does dim tocynnau, dim ffi mynediad ac mae croeso i bawb. Felly dewch a’ch picnic, dewch a’ch cadeiriau a dewch i lawr i Dreffynnon
ar Orffennaf 24ain i fwynhau Gŵyl Roc Y Ffin!”

Bydd y gwŷl yn cychwyn yng Ngerddi’r Tŵr am 12pm, gyda Ian Rush yn agor y sioe, band roc bywiog lleol a ddisgrifir gan y diweddar John Peel fel cynhyrchwyr "Top tunes from the land of song". I ddilyn, bydd Tacsi yn chwarae cerddoriaeth reggae a’r blues, a cheir gerddoriaeth pop gan Hufen Ia Poeth. Yn hwyrach yn y prynhawn bydd Brigyn yn chwarae detholiad o’i tri albwm alawol, a bydd Yucatan yn llenwi’r strydoedd gyda roc acwstig a ddisgrifiwyd gan Huw Stevens, Radio 1 yn “stunning music from a special place”. I gael y gynulleidfa ar ei draed i orffen y noson bydd Masters in France yn chwarae caneuon indie heintus, a bydd Racehorses yn perfformio traciau o’i albwm gyntaf, ‘Goodbye Falkenburg’. Yn cloi’r noson bydd Derwyddon Dr Gonzo, band ffync a ska Cymraeg o Lanrug ger Caernarfon. Dyw’r gwyliau cerddorol ddim yn ddieithr i’r criw, gan eu bod wedi perfformio mewn amryw o ddigwyddiadau mawr gan gynnwys gigs yr Eisteddfod Genedlaethol. Maen nhw’n enwog am blesio’r gynulleidfa gyda’u caneuon gafaelgar a’u gwisgoedd direidus!

Trefnwyd y digwyddiadau gan Urdd Gobaith Cymru a Menter Iaith Sir y Fflint, gyda chymorth gan Gyngor Tref Treffynnon. Mae Cadwyn Clwyd yn garedig iawn wedi cyfrannu £7,160 tuag at y prosiect, trwy’r Cynllun Dathlu Diwylliant a ariannwyd gan y Cynllun Datblygu Gwledig i Gymru 2007-2013 a gyllidwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygiad Gwledig.

Am wybodaeth bellach ewch i’r wefan www.yffin.co.uk neu e-bostiwch post@yffin.co.uk.



Merched Gwyllt Cymru

Ar Fehefin 14eg, daeth mamau o Gylch Ti a Fi a Meithrin Terrig, Treuddyn at ei gilydd i fwynhau noson o faldodi yn arbennig i ferched. Roedd yn gyfle i ymlacio a mwynhau tylino pen ac ysgwyddau, coluro a pheintio ewinedd. Siaradwr gwadd y noson oedd yr awdures Beryl H. Griffiths, yn sôn am ei llyfr ‘Merched Gwyllt Cymru’ . Soniodd hi am hanesion a helyntion rhai o ferched enwocaf Cymru, ac arweiniodd hwn i drafodaeth rhwng y grwp ynglyn â’u dewis nhw o bwy i gynnwys mewn diweddariad o’r llyfr Ferched Gwyllt Cymru . Edrychwn ymlaen at y llyfr nesaf Beryl!


Noson Wobrwyo - Gweithdai Ffilm Daniel Owen

Llongyfarchiadau i Ysgol Gatholig Sant Richard Gwyn am ennill Gwobr Ffilm Daniel Owen 2010, ac i Ysgol Y Fflint a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth. Cynhaliwyd y noson wobrwyo ar Fai’r 20fed yng Nghlwyd Theatr Cymru. Roedd y noson yn ddathliad haeddiannol ac yn ddiweddglo gweddus i’r prosiect ffilm. Daeth yr holl ysgolion a gymerodd rhan at eu gilydd i’r premier, i fwynhau noson o adloniant a hefyd i ddiolch i’r cynhyrchwyr, cyfarwyddwyr, athrawon a threfnwyr bu’n rhan o’r prosiect.

gwobrwyo
derbyn y tlws

Cewch weld yr holl ffilmiau ar www.gwobrdanielowen.co.uk

Gallwch brynu copi o’r ffilmiau ar DVD trwy gysylltu â swyddfa Menter Iaith Sir y Fflint ar 01352 744040.


Animeiddio

Shrek, Avatar, How to Train Your Dragon ... dydi animeiddio byth wedi bod mor boblogaidd! Rŵan, diolch i Fenter Iaith Sir y Fflint, yr Urdd a Rhaglen Dysgu Gydol Oes Cadw, mae criw o bobl ifanc o Sir y Fflint wedi cael y cyfle i ddod yn animeiddwyr ac i greu ffilm eu hunain.....Cliciwch yma am fwy.



Gweithgareddau Plant a Phobl Ifanc

Hwyl a Hanner

Eto, bu’r Fenter yn cydweithio gyda’r Urdd i gynnig cyfres o sesiynau Celf, Drama a Dawns dros gyfnod Hanner Tymor y Gwanwyn i blant lleol yn Ysgol Glanrafon. Cafodd y plant llond gwlad o hwyl yn creu murlun anifeiliaid gwyllt, masgiau ac addurno crysau-T yn ystod y diwrnod Celf a Chrefft. Daeth Cari Sioux o Lanuwchllyn at y criw i gynnal Gweithdy dawns hip hop, tap, a stryd - dipyn o bopeth. Daethpwyd ar wythnos i ben gyda Gweithdy Drama fywiog am ffoaduriaid. Roedd y plant wrth eu boddau yn dysgu meimio!


Holi Hana

Daeth ymwelwyr arbennig iawn i ymweld â disgyblion a chyfeillion Ysgol Glanrafon brynhawn Mercher y 25ain o Dachwedd. Daeth cymeriadau S4C Holi Hana i'r Wyddgrug am y prynhawn. Cafwyd croeso arbennig gan y plant i’r hwyaden sy’n helpu anifeiliaid bach gyda’u problemau Hana, a’r arth fach Bert, a chafwyd llond gwlad o swsys a chwtchys!
Trefnwyd y digwyddiad ar y cyd gyda Mudiad Ysgolion Meithrin er mwyn codi ymwybyddiaeth ymysg rhieni o fuddiannau cyflwyno’r Gymraeg yn y cartref, a magu plant yn ddwyieithog.
Meddai Rhian Davies, Swyddog Busnes Menter Iaith Sir y Fflint, “Roedd hi’n brynhawn bendigedig, ac roedd y plantos wrth eu boddau yn cyfarfod Hana. Cawsom gyfle i basio gwybodaeth werthfawr ymlaen i lawer o rieni. Mae niferoedd plant sy’n dewis Addysg Gyfrwng Cymraeg yn tyfu ar draws y sir ac rydym yn awyddus i ddathlu hyn. Mae mwy a mwy o rieni yn gweld manteision rhoi’r rhodd o ddwy Iaith i’w plant. Mae cymorth parod ar gael gan Fudiad Ysgolion Meithrin a Menter Iaith Sir y Fflint i deuluoedd sy’n awyddus i gyflwyno’r Gymraeg yn y cartref.”

Ychwanegodd Marian Antrobus, Swyddog Datblygu Sir y Fflint Mudiad Ysgolion Meithrin, “Mae Holi Hana a chymeriadau adnabyddus eraill CYW ar S4C sy’n cael ei ddangos bob bore o’r wythnos rhwng 7.30am a 1.30pm yn ffordd fendigedig i gyflwyno ychydig o Gymraeg yn y cartref. Mae plant fel sbwng yn codi iaith mor hawdd. Roedd hi’n wych gweld cymaint o rieni’r Cylch Meithrin a’r Cylchoedd Ti a Fi yn mynychu’r gweithgaredd llawn hwyl gyda’u plant.”


Talent FfM

Cafwyd noson fendigedig yng Ngwesty’r Springfield, Treffynnon ar gyfer rownd terfynol cystadleuaeth dalent yr Urdd, a Mentrau’r Gogledd Ddwyrain ar Ragfyr y 1af - Talent FfM. Aeth pedwar act haeddiannol o Sir Y Fflint trwodd i’r rownd derfynol. Mae’r gystadleuaeth, sy’n debyg i ‘Britain’s Got Talent’, bellach yn ei thrydedd flwyddyn, ac wedi ehangu i gynnwys cystadleuwyr o Sir Ddinbych a Chonwy eleni. Ymysg y criw oedd yn cynrychioli Sir y Fflint roedd unawdydd, telynores, deuawd a digrifwr. Cafodd y beirniaid ar y noson wledd i’w feirniadu, a dyfarnodd y bocsiwr bît, Ed Holden, yr actores Siân Beca (Rownd a Rownd, S4C), a’r digrifwr John Sellers, Lloyd Antrobus o Alltami a’i gymeriad Russ y Gyrrwr Bys y gorau ar y noson. Talent fendigedig ar gyfer y dyfodol.


Creu D

pobl yn siarad Yn ystod mis Chwefror bu’r Fenter yn cynnig profiad unigryw i ddysgwyr y sir: cyfres o weithdai ysgrifennu gydag enwogion llenyddol Cymru, Iwan Llwyd a Siân Northey. Meddai Rebecca Davies, Swyddog Iaith a Threftadaeth Menter Iaith Sir y Fflint: “Trefnwyd y gweithdai yma yn arbennig ar gyfer dysgwyr, er mwyn iddynt gael y profiad o weithio gyda llenorion proffesiynol a chael adborth a gloywi eu sgiliau ysgrifennu. Er mai criw bychan death ynghyd, rhoddwyr y cyfle iddynt fynegi eu hunain yn greadigol mewn sawl cyfrwng- pwy a wyr, efallai ein bod wedi ysbrydoli enillydd nesaf Eisteddfod y Dysgwyr!”


Dyma gopi o’r gerdd a grëwyd gan y grwp yng nghwmni Iwan Llwyd:

Adfywiad

Daw’r eirlys drwy yr hirlwm
i’r cae ym mhen draw y cwm
yn groes i farrug rheswm.

Fe ddaw fel atgof tawel
o hyd, daw eto i hel
o’r awyr ddagrau’r awel.

Drwy’r hir daw’r blodyn gwirion
i herio’r erwau oerion
a llwm â’i styfnigrwydd llon.

pobl yn siarad

 


Creu Murlun

arlunwyr
Daeth griw o ddysgwyr Cymraeg brwdfrydig at ei gilydd i weithio gyda’r arlunydd cymunedol Mari Gwent i greu murlun yn seiliedig ar grochenwaith enwog Bwcle.

Roedd y gweithdai, a gynhaliwyd ar Ionawr 30ain a Chwefror 6ed a 13eg, a drefnwyd gan Fenter Iaith Sir y Fflint, yn gyfle i drigolion y sir i ddysgu mwy am hanes un o ddiwydiannau hynaf yr ardal, creu gwaith celf ac ymarfer eu Cymraeg mewn awyrgylch hwyliog.
Dywedodd Mari ei bod hi “Wedi mwynhau'r profiad yn fawr, roedd cyfuno creadigrwydd â sgwrsio'r dysgwyr yn broses ddiddorol iawn.”

Dywedodd Rebecca Davies, Swyddog Iaith a Threftadaeth y Fenter, “Mae hwn wedi bod yn brosiect cyffrous iawn. Cafodd y dysgwyr gyfle i ddefnyddio eu Cymraeg mewn awyrgylch hamddenol, cymdeithasol gan ddysgu geirfa newydd a dysgu dipyn am hanes a threftadaeth diwydiant lleol. Mae’r gwaith celf sydd wedi cael ei greu yn llwyr o papur, glud a phaent yn weth i’w weld. Mae’r gwaith mor effeithiol ei fod yn twyllo’r llygaid i feddwl mai crochenwaith go iawn ydyw!”

Bydd y murlun yn cael ei arddangos yn gyhoeddus yn y dyfodol agos.
Yn y llun (chwith i’r dde) mae’r grwp: Yr arlunydd, Mari Gwent, Dee Rivaz, Peter Davies a Robbie Burton.

Trefnwyd y digwyddiadau gan Fenter Iaith Sir y Fflint fel rhan o’i phrosiect Iaith a Threftadaeth gyda chymorth y Cynllun Datblygu Gwledig i Gymru 2007-2013 a gyllidwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r Undeb Ewropeaidd.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Rebecca ar 01352 744042.

gwaith celf

Canolfan Iaith arfaethedig Sir Y Fflint
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma
Ffurflen enwebu - cliciwch yma

Talent FfM
Mae cystadleuaeth dalent yr Urdd, Menter Maelor a Menter Iaith Sir y Fflint yn ôl, ond yn fwy nag erioed. Mae’r gystadleuaeth, sy’n debyg i ‘Britain’s Got Talent’, bellach yn ei thrydedd flwyddyn, ac wedi ehangu i gynnwys cystadleuwyr o Sir Ddinbych a Chonwy eleni. Os ydych chi rhwng 11 a 25 oed ac yn meddwl fod gennych dalent arbennig a fyddai’n gallu ennill £150 cysylltwch cliciwch yma am eich ffurflen gais.


Gallwch wneud mwy neu lai unrhyw beth, o glocsio i ddawnsio stryd, o jyglo i gymysgu coctels, o ganu cerdd dant i fand roc, dewch i arddangos eich talent! Bydd rownd ragbrofol Sir y Fflint yn cael ei chynnal yn Ysgol Maes Garmon ar yr 16eg o Dachwedd, gyda’r Rownd Derfynol yng Ngwesty’r Springfield, Treffynnon ar y 1af o Ragfyr. Y beirniaid ar y noson fydd y bocsiwr bît, Ed Holden, Marc Evans (Your Country Needs You, BBC), a Siân Beca (Rownd a Rownd, S4C).


Technoleg Newydd
Mae Menter Iaith Sir y Fflint wedi cyrraedd yr Unfed Ganrif ar Hugain!! Mae modd dilyn hanes a digwyddiadau’r Fenter bellach trwy ymuno â’n tudalen Facebook trwy ddilyn y linc yma (cliciwch yma).
Mae’r Fenter hefyd yn hysbysebu digwyddiadau trwy Twitro ar Twitter! Dilynwch ni! cliciwch yma
Rydym hefyd wedi buddsoddi mewn meddalwedd newydd sy’n ein galluogi i anfon Negeseuon Testun neu Nodyn Bodyn i aelodau a chyfeillion i’w hatgoffa o ddigwyddiadau Cymraeg yn yr ardal. Os hoffech dderbyn y rhain, gallwch ein he-bostio gyda rhif eich ffon symudol, neu nod bodio Rhian yn uniongyrchol ar 07919177373. Yn yr un modd, cofiwch gysylltu â ni os nad ydych yn dymuno eu derbyn mwyach.


Y Ffin
Bu gŵyl gerddoriaeth roc a phop Y Ffin ar faes chwarae’r Rec, yr Wyddgrug yn llwyddiant ysgubol ar benwythnos y 25ain o Orffennaf.  Daeth dros 1000 o bobl draw i’r digwyddiad gan fwynhau’r heulwen braf i gyfeiliant sŵn bandiau lleol a chenedlaethol Cymraeg ac Eingl-gymreig gydol y dydd. 

Yn ôl Gwawr Cordiner, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Iaith Sir y Fflint: “Bu’n rhaid i ni ddelio â thywydd hynod o wlyb brynhawn Gwener fel roedden ni’n paratoi i osod y cae, ond yn ffodus iawn, mi lwyddon ni i ail-sefydlu’r ŵyl ar gae Kendricks drws nesaf fore Sadwrn. Buon ni’n hynod o lwcus i fwynhau heulwen braf gydol y dydd.  Hoffwn ddiolch i’n staff a’n gwirfoddolwyr gweithgar, ein partneriaid Urdd Gobaith Cymru a chwmni theabsurd, yn ogystal ag aelodau o’r Bwrdd Crwn a’n noddwyr hael am sicrhau diwrnod tan gamp. Gobeithio y gallwn ddatblygu ac adeiladu ar lwyddiant y penwythnos ar gyfer y dyfodol. Roedd adborth y gymuned leol yn wych, ac mi lwyddodd Y Ffin i sicrhau bod Sir y Fflint yn cael ei harddangos fel lleoliad gwych ar gyfer hyrwyddo digwyddiadau Cymraeg a chelfyddydol o’r radd flaenaf.”

Cafwyd perfformiadau diddanol a diddorol gan nifer o fandiau lleol gan gynnwys The Lupin Thieves o’r Wyddgrug a Meilir o Gaerwys. Un o uchafbwyntiau’r ŵyl oedd perfformiad bywiog Derwyddon Dr Gonzo a’r Sibrydion.


Clwb Gwawr
Daeth 20 o ferched ifanc (!) y fro at ei gilydd ar nos Wener y 4ydd o Fedi yn Nhafarn Yr Enfys Gwernymynydd I sefydlu Cwb Gwawr cyntaf Sir y Fflint. Ar ôl taith gerdded egnïol, cafwyd pryd o fwyd blasus yn y dafarn cyn cytuno ar enw swyddogol i’r clwb. Ar ôl sawl cynnig pleidleisiwyd i dderbyn Gwawr Fama fel enw. Gofynnwyd i bobl wirfoddoli bob yn ddwy i drefnu amserlen am y flwyddyn, ac yn ddidrafferth iawn, cytunwyd ar y drefn ganlynol:

Tachwedd 6ed, 2009 Buddug Selway-Jones a Nan Powell-Davies, Gwledd i’r Bola!

Ionawr 8fed, 2010 Catrin Wilde a Delyth Brown, Noson Delwedd Deg

Mawrth 5ed, 2010 Beth Voice a Pauline Malia, Go Cartio

Mai 7fed, 2010 Helen Dumbleton a Vicky Weale, Noson Brethyn Cartref

Gorffennaf 2il, 2010 Bethan Williams a Bethan Jones, Anturiaeth Awyr Agored

Rydym eisoes i gadarnhau lleoliadau ac amseroedd y digwyddiadau, ac mae posibilrwydd y bydd digwyddiadau yn newid. Mae croeso cynnes iawn i unrhyw ferched o’r fro. Does dim rheolau ynglŷn ag oedran - mae croeso i unrhyw un sydd am gymdeithasu gyda chriw o ferched o’r un anian, ac eisiau dipyn o hwyl achlysurol! Os hoffech mwy o wybodaeth cysylltwch â Rhian Davies ar 01352 744040 neu cliciwch yma.

Tegeingl

Cafwyd penwythnos i’w chofio ar Orffennaf y 10-12fed. Roedd gwledd o adloniant gyda sesiynau tafarn, dau gyngerdd a thwmpath. Diddanwyd tafarn gorlawn yn y Pentan ar y nos Wener gan y grŵp Lasair o Iwerddon. Digon bywiog hefyd oedd y sesiwn prynhawn Sadwrn gyda Lasair a Charreg Lafar yn nhafarn Castell Rhuthun. Erbyn nos Sadwrn, roedd neuadd Ysgol Bryn Coch yn werth ei weld, heb son am yr adloniant gwerin fendigedig. Yn dilyn perfformiadau gan Lasair (Iwerddon), Tom Kitching a Gren Bartley (Lloegr) a Charreg Lafar (Cymru), cafwyd twmpath gwerth chweil.

Daeth y penwythnos i ben gyda chyngerdd Y Tri Chôr yn Eglwys Santes Fair prynhawn Sul, wrth i Gôr Cymysg y Pentan, Côr Meibion Caerwys a Chôr Merched Y Rhos ddod ynghyd. 

Dydd Gwener y 18fed o Fedi, cafodd disgyblion Blwyddyn 8 Ysgol Maes Garmon a Blwyddyn 9 Ysgol Alun llond bol o hwyl yn ysgrifennu caneuon gyda’r band hwyliog Gwibdaith Hen Fran. Dewisodd y band y caneuon gorau a’u perfformio yn ystod eu gig yng Ngŵyl Fwyd Yr Wyddgrug. Yn fuddugol daeth criw o Ysgol Alun gyda’r lyrics canlynol:

Mae ‘na rhywbeth yn y muffin,

Siocled, Mefus, Chicken Stuffin,

Mae ‘na Rhywbeth yn y muffin o hyd.

Mae ‘na rhywbeth yn y muffin,

Siocled, Mefus, Chicken Stuffin,

Mae ‘na Rhywbeth yn y muffin o hyd.

Yn y bore dwi’n cael muffin da

Panad o de a hufen ia.

Roedd y babell yn orlawn ar gyfer y twmpath teuluol, a môr o wynebau hapus yn cydganu caneuon poblogaidd Gwibdaith. Meddai Phil Jones, o’r band: “Mae’n cerddoriaeth ni braidd yn wirion; ‘da ni’n canu am fwyd a dillad a chael llond gwlad o hwyl. Y peth pwysig yw’r feel-good factor!". Dyna’n union pam roedd y band o Flaenau Ffestiniog wedi apelio cymaint at deuluoedd, bobl ifanc, a Dysgwyr yn lleol.


Tecniwm Iaith

Mae Fforwm Sirol Sir y Fflint wedi comisiynu darn o waith ymchwil diddorol iawn yn ddiweddar. Comisiynwyd Cwmni Mabis i wneud astudiaeth i ddichonolrwydd agor Tecniwm neu Ganolfan Gymraeg yn Sir y Fflint. Mae’r gwaith ymchwil wedi ei gasglu, lleoliad posibl wedi ei ddarganfod ac mae’r adroddiad terfynol wedi ei gyflwyno i’r Fforwm yn ddiweddar. Os hoffwch dderbyn copi o’r adroddiad cysylltwch â Gwawr Cordiner.

Prif ganfyddiadau’r astudiaeth oedd bod angen lleoliad i gynnal y gwasanaethau canlynol:
    • Adnoddau a gofod i gynnal dosbarthiadau dysgu Cymraeg i oedolion

    •  Gofal plant/Meithrinfa - Lle Chwarae

    •  Swyddfeydd/Ystafelloedd

Hoffwn yn fawr iawn glywed eich barn ar y mater, a byddwn yn edrych am gynrychiolwyr o fudiadau cymunedol i eistedd ar Bwyllgor Gwaith y Tecniwm/Ganolfan Gymraeg. Oes gan rywun gyda diddordeb, neu os hoffai fudiadau enwebu cynrychiolydd cysylltwch â Gwawr cliciwch yma yn y Fenter.


Mae Menter Iaith Sir y Fflint wedi symud!
Ein cyfeiriad newydd yw:

Uned 3
Parc Busnes Yr Wyddgrug
Ffordd Wrecsam
Yr Wyddgrug
CH7 1XP
Ffôn: 01352 744040
Bydd y cyfeiriadau e-bost yn aros yr un peth, h.y. enw@menteriaithsiryfflint.co.uk.

Cyfarfod Blynyddol

Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol Menter Iaith Sir y Fflint ar nos Iau y 10fed o Fedi yng Nganolfan Daniel Owen, Yr Wyddgrug. Gellir gweld copi o’n hadroddiad blynyddol trwy glicio yma.

Ein siaradwraig gwadd ar y noson oedd Dr Kathryn Jones, o Gwmni Iaith Cyf. Gyda phrofiad helaeth yn y maes cynllunio ieithyddol, ac wedi gweithredu fel ymgynghorydd yn y maes yma ar lefel cenedlaethol a rhyngwladol, cafwyd cyflwyniad diddorol iawn ar waith ymchwil a wnaed ynglyn â’r Gymraeg yn y sector gyfreithiol.


Clwb C Ciwb
Os hoffech gyfle i fynd allan unwaith y mis (o leiaf), cymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg a chyfarfod ffrindiau newydd yn ardal Yr Wyddgrug, dewch draw. Bydd y clwb yn trefnu ymweliadau â phobl ddiddorol, llefydd gwahanol, blasu gwin, nosweithiau diwylliannol, cerddorol, chwaraeon, prydau bwyd a llawer mwy. Croeso i bawb sy'n siarad Cymraeg fel iaith 1af, wedi dysgu neu'n ddysgwyr gweddol rugl. Am fwy o fanylion ffoniwch Pauline Owen ar 01352 756080 neu e-bostiwch cliciwch yma.

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma
Mae Clwb C3 rwan efo tudalen ar 'Facebook'. Felly, os oes gennych chi proffil ar 'Facebook', ymunwch â ni!
A mwy i ddod!!!!
Edrychwch ar Bapur Fama am fwy o ddigwyddiadau.


mentrauiaith-gogledd.com
 
Bwrdd Yr Iaith Gymraeg
Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru Bwrdd Yr Iaith Gymraeg
Dyluniwyd gan Delwedd