Mentrau Iaith y Gogledd Lluniau Gogledd Cymru
 
 
Help / Cymorth

 

 

 

FflintProsiectau

Prosiect Celf Dreftadol
Fel rhan o brosiect Iaith a Threftadaeth Menter Iaith Sir y Fflint, comisiynwyd 5 arlunydd i weithio gyda 5 ysgol gynradd yn Sir Y Fflint wledig er mwyn creu gwaith celf sy’n adlewyrchu hanes a threftadaeth leol.

Ariannwyd y gweithdai celf gan y Cynllun Datblygu Gwledig i Gymru 2007-2013 a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Datblygiad Gwledig.

Ysgol Gwenffrwd
Os ewch i Ysgol Gymraeg Gwenffrwd yn Nhreffynnon fe welwch dywysoges ag ymbarél, dau blentyn ynghanol y môr (mewn padell ffrio), dau gi bach yn chwilota am esgidiau a jac do gyda choesau pren! Mae’r murluniau yn rhan o brosiect celf a alluogodd babanod yr ysgol i weithio gyda’r arlunydd Cymreig Rhian Haf i ddehongli hwiangerddi traddodiadol Cymraeg.

Dyluniodd y plant olygfeydd cyfarwydd o’r hen ffefrynnau ‘Mi welais jac y do’, ‘Dau gi bach’ , ‘Tŷ bach twt’ , ‘Bwrw Glaw’ a ‘Fuoch erioed yn morio?’. Chwyddwyd y lluniau i ddeg gwaith eu maint gwreiddiol er mwyn eu paentio ar bren. 

Meddai’r brifathrawes Iola Owen, “Mae’r murluniau yn  gwneud i brif fynedfa Ysgol Gwenffrwd edrych mor groesawgar a lliwgar, ac mae’r plant wrth eu boddau yn gweld ei gwaith llaw yn cael ei harddangos. Mae’r prosiect wedi bod yn gyfle iddyn nhw ddehongli hwiangerddi sy’n unigryw i’r iaith Gymraeg ac sydd wedi bod yn rhan o dreftadaeth lenyddol Cymru ers amser maith.

Ysgol Trelogan
Mae disgyblion Ysgol Gynradd Trelogan wedi gweithio gyda’r arlunydd Tricia Jones i greu murlun sy’n adlewyrchu hanes eu hardal.

Mae’r murlun wedi creu gan ddefnyddio dull arbenigol Tricia, sef brithwaith Rhufeinig, yn defnyddio teils gwydrog a chrochenwaith wedi’i ailgylchu. Gwnaethpwyd y lluniau oll gan y plant, ac fe ddewison nhw’r thema o bobl a phethau pwysig o hanes Trelogan a Berthengam.
Meddai’r arlunydd Tricia Jones, “Mae wedi bod yn hyfryd gweithio gyda disgyblion blwyddyn 5 a 6. Maent yn gwybod gymaint am hanes eu hardal, ac yn amlwg yn ymfalchïo yn y pentref a’i threftadaeth.”

Mae’r murlun yn dangos yr awdur Emlyn Williams a David Lloyd y tenor; ac yn ogystal â chyn-drigolion enwog y pentref dewisodd y plant gynnwys preswylwyr adnabyddus Berthengam - sef yr hwyaid sy’n byw yn y pwll i lawr y lôn o’r ysgol. Mae yna lamp Davy a chaneri i gyfeirio yn ôl at y trigolion a fu’n gweithio yn y pyllau glo cyfagos, a hefyd llyfr dogni a llun o ddau blentyn faciwî, er cof am y rhai a ddaeth i Drelogan yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ysgol Perth Y Terfyn
Ymwelodd disgyblion Ysgol Perth y Terfyn a ffynnon Santes Gwenffrewi er mwyn gwneud gwaith ymchwil ar gyfer y prosiect celf a dysgu mwy am chwedl y Santes enwog.  Yn ogystal ag ymweld â’r ffynnon a’r amgueddfa gyfagos, fe dreulio’n nhw’r prynhawn ym Melin Celf a Chrefft Treffynnon, yn gweithio gydag arlunwyr lleol, Dee Rivaz a Clarrie Flavell, i hel syniadau ar gyfer y gwaith celf.

Mae’r disgyblion wedi bod  yn gweithio gyda’r arlunwyr i greu dau furlun sy’n dehongli eu profiadau o’r ffynnon, ac maen nhw wedi arbrofi gyda thechnegau amrywiol fel gosod gemwaith, gwehyddu, argraffu a gwneud mapiau - technegau traddodiadol a ddefnyddiwyd tra oedd Gwenffrewi ei hun yn fyw.

Dywedodd yr arlunydd Dee Rivaz, “Mae’r plant wedi datblygu gymaint o sgiliau newydd yn ystod y prosiect ac wedi cynhyrchu gwaith hardd; ond yn fwy na hynny rydym yn gobeithio bod y gweithdai wedi eu cynorthwyo i werthfawrogi'r ysbrydol, a’u helpu i ddysgu am draddodiadau fel pererindota a gweddïo. Mae ffynnon Santes Gwenffrewi yn le mor arbennig i ymweld â, a gobeithiwn fod y prosiect yma yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach i’r plant o beth yn union sy’n ei wneud yn le mor rhyfeddol.”

Ysgol Bro Carmel
Mae disgyblion Ysgol Bro Carmel wedi bod yn gweithio gyda’r arlunydd cerameg Wendy Lawrence i greu tirlun wyth troedfedd o led, yn dangos yr ysgol, adeiladau adnabyddus ym mhentref Carmel, diwydiannau agos, a’r olygfa dros yr afon Dyfrdwy. Yn fframio’r murlun  mai teils sy’n dangos fflora a ffawna’r ardal. Roedd murlun o’r maint yna angen nifer sylweddol o deils i’w amgylchynu - felly cafodd pawb, o’r babanod i’r athrawon, eu tynnu mewn i gerfio a lliwio teils clai. Wedyn cafodd y clai ei liwio gyda phaent llachar a’i danio i greu panorama dramatig o gefn gwlad Carmel. Mae’r murlun gorffenedig yn hawlio sylw ar waelod llwyfan yr ysgol.

Ysgol Rhos Helyg
Os ewch heibio i Ysgol Rhos Helyg yn Berth Ddu fe welwch ddraig yn sbecian allan o fuarth yr ysgol! Gwnaethpwyd y ddraig anferth allan o helyg gan ddisgyblion yr ysgol a’r arlunydd Sarah Gallagher, fel rhan o brosiect celf dreftadol Menter Iaith Sir Y Fflint. Mae yna farchog a cheffyl anferth yn sefyll wrth y ddraig, nid yn barod i baffio’r bwystfil ond i atgoffa’r disgyblion o’r stori o Gomin Helygain, sef o ‘Naid y March’. Stori o’r 15fed ganrif yw o, am ddyn o’r enw Thomas ap Harri a neidiodd bellter anhygoel o 22 llath dros siafft cloddfa ar gefn ei geffyl!

Meddai Rebecca Davies, Swyddog Iaith a Threftadaeth Menter Iaith, “Bwriad y prosiect celf dreftadol oedd cael plant o ysgolion cynradd Sir Y Fflint i fod yn fwy ymwybodol o hanesion lleol a phobl enwog Sir y Fflint.  Ar ôl weld maint anferthol cerfluniau Ysgol Rhos Helyg, dw i’n siŵr y byddan nhw’n pryfocio chwilfrydedd pawb sy’n ymweld â’r ardal - mae’n amhosib peidio sylwi arnyn nhw!”

 


 

Prosiect ‘Ail Gydied yn dy Gymraeg!’

logo

Trwy fis Mehefin mae prosiect ‘Ail gydied yn dy Gymraeg!’ Menter Iaith Sir y Fflint wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer teuluoedd, megis sioe Martyn Geraint, sesiynau stori a chân gyda Fiona Collins, a sesiwn Mam a’i Phram. Bwriad y prosiect oedd codi ymwybyddiaeth o fanteision dwyieithrwydd i blant, a hefyd i greu cyfleoedd i deuluoedd cymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg.

sesiwn stori

Gweithiodd Rebecca, Swyddog Iaith a Threftadaeth y Fenter gyda mamau o ardal Gronant, Treffynnon a Threuddyn yn ystod y prosiect. Meddai hi, “Dw i’n obeithiol bod y prosiect yma wedi llwyddo i drosglwyddo’r neges bod siarad Cymraeg fel teulu yn hynod o bwysig os ydych eisiau helpu’ch plant i fod yn ddwyieithog. Mae 'na lwyth o wasanaethau i’ch cefnogi gyda hyn, er enghraifft TWF, Mudiad Meithrin, llinell cymorth gwaith cartref ac ati. Wnes i fwynhau cyfarfod y teuluoedd, a ges i groeso mor gynnes gan y cylchoedd Ti a Fi. Dw i’n falch i allu hysbysu bod Menter Iaith Sir y Fflint wedi cael grant gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg i alluogi ni i barhau gyda’r prosiect a threfnu fwy o weithgareddau i’r teulu!”

Dolenni defnyddiol

• Bwrdd Yr Iaith Gymraeg –www.byig-wlb.org.uk
• Mudiad Meithrin –www.mym.co.uk
• TWF –www.twfcymru.com
Llinell Cefnogi Gwaith Cartref – post@gwaithcartref.com 0871 2300029


Prosiect Ffilm Gwobr Daniel Owen 2011
Am yr ail flwyddyn  gweithiodd Menter Iaith Sir y Fflint bod myfyrwyr o Ysgol Maes Garmon ac Ysgol Alun, Yr Wyddgrug, Ysgol John Summers, Queensferry,  ac Ysgol Uwchradd y Fflint yn gweithio gyda chwmni cynhyrchu Camalz Media i gynhyrchu ffilmiau byr yn seiliedig ar ddehongliadau o gerddi a chaneuon cyfoes Cymraeg.
Rhoddodd y gweithdai tri diwrnod o gyflwyniad i fyd intensif ffilm a theledu. Gweithiodd y disgyblion fel cwmni cynhyrchu i greu ffilmiau o safon broffesiynol, ac aethant at raeadr, garej, archfarchnad a hyd yn oed i domen sbwriel i geisio cael y siot perffaith!
Trwy gwblhau’r gweithdai enillodd y myfyrwyr y cymhwyster OCN Lefel 1 Cynhyrchu Fideo Digidol. Meddai Awen Llwyd, Swyddog FfliC a gweinyddwraig y cymhwyster, “Roedd y gweithdai hyn yn gyfle gwych i fyfyrwyr ehangu eu cymwysterau ar gyfer y dyfodol ac roedd yn brofiad byth cofiadwy iddynt i gyd.”

Diolch i Fwrdd yr Iaith Gymraeg, Menter Iaith Sir y Fflint, Urdd Gobaith Cymru a Chyngor Sir y Fflint am wneud y prosiect yma yn bosib.  Llongyfarchiadau a diolchiadau i bawb oedd yn rhan o’r gweithdai.

Cewch weld y ffilmiau ar www.gwobrdanielowen.co.uk

   
       
 
 

Y Ffin
Bydd y gorau o ddiwylliant a cherddoriaeth Gymraeg ac eingl-Gymreig i’w clywed yng Ngŵyl Roc Y Ffin yn Sir y Fflint.  Mae’r ŵyl gerddoriaeth newydd hon ym mis  Orffennaf yn cynnig llwyfan i fandiau roc a pop gorau Cymru.
Yn 2009 daeth Y Ffin i faes chwarae’r Rec yn yr Wyddgrug, gyda pherfformwyr yn cynnwys Sibrydion,  Derwyddon Dr Gonzo, Mr Phormula, Racehorses, Lupin Thieves,  JKLMNO, Mechanical Owl a Drip Dry Man. Daeth dros 1000 o bobl i fwynhau’r gerddoriaeth fyw.
Yn 2010 bydd y Ffin yn dod i Gerddi’r Tŵr yn Nhreffynnon i lwyfannu bandiau megis Racehorses, Yucatan, Brigyn a Masters in France, ymhlith eraill.
“Rydym yn hynod o falch ein bod wedi llwyddo i ddenu rhai o grwpiau roc a phop gorau’r sin cerddorol ar y funud,” eglurodd Gwawr Cordiner, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Iaith Sir y Fflint sydd ar y cyd ag Urdd Gobaith Cymru yn trefnu’r digwyddiad.  “Mae’r enwau mawr wedi cytuno i fynychu’r ŵyl, ac rydym yn hynod o ddiolchgar i’n noddwyr, Cadwyn Clwyd, Llywodraeth y Cynulliad, y Gronfa Datblygu Wledig a Chynghorau Tref.  Golyga eu cefnogaeth y gallwn gynnig y bandiau gwych yma i bobl ifanc, oedolion a theuluoedd yn rhad ac AM DDIM!”


Gweithdai Ffilm Daniel Owen
Ar Fai 20fed 2010 cynhaliwyd Noson Wobrwyo Ffilm Daniel Owen gan Fenter Iaith Sir y Fflint  er mwyn arddangos ffilmiau iaith Gymraeg a gynhyrchwyd gan fyfyrwyr talentog o ysgolion uwchradd Sir y Fflint. Gweithiodd y bobl ifanc gyda chwmni cynhyrchu Camalz Media i greu ffilmiau byr yn seiliedig ar ddehongliadau o gerddi cyfoes Cymraeg.
Roedd y noson yn ddathliad haeddiannol ac yn ddiweddglo gweddus i’r prosiect Ffilm Sir y Fflint.  Daeth disgyblion o Ysgol Maes Garmon, Ysgol Alun, Ysgol Castell Alun, Ysgol Gatholig Sant Richard Gwyn, Ysgol Treffynnon ac Ysgol Y Fflint at ei gilydd i’r premier, i fwynhau noson o adloniant a hefyd i ddiolch i’r cynhyrchwyr, cyfarwyddwyr, athrawon  a threfnwyr bu’n rhan o’r prosiect.
Cafodd y wobr am y ffilm orau ei gyflwyno gan y beirniaid;  Huw Garmon, actor yn enwog am eu rolau yn y sebon enwog ‘Pobl y Cwm’ a’r ffilm a enwebwyd am Oscar,‘Hedd Wyn’ ; hefyd Gwenno Eleri Jones, Rheolwr Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau yng Nghyngor Sir y Fflint, a Cath Aran, storïwr proffesiynol ac awdur sydd wedi perfformio  ledled Prydain ac Iwerddon.
Yn ogystal ag arddangos y ffilmiau, roedd y noson yn ddathliad o ddiwylliant Cymraeg, gyda pherfformiadau gan ieuenctid talentog lleol; y delynores Chloe Roberts, y gantores Seren Sandham Davies a’r digrifwr Lloyd Antrobus.

Mae’r ffilmiau i’w gweld ar-lein ar wefan www.gwobrdanielowen.co.uk


Sioe Ffasiwn Santes Dwynwen
Digwyddiad cyffroes i godi ymwybyddiaeth am nawddsant cariadon! Comisiynwyd Clwyd Theatr Cymru i ddarparu’r gweithdai er mwyn cynorthwyo’r disgyblion  o ysgolion Maes Garmon, Yr Alun, Castell Alun, Richard Gwyn a Choleg Garddwriaeth Cymru wrth iddynt greu gwisgoedd allan o ddefnyddiau sydd wedi cael eu hailgylchu. Arddangoswyd y gwisgoedd mewn Sioe Ffasiwn a gynhelir yn Stiwdio Ddrama ysgol Yr Alun. Cafodd y bobl ifanc cyfle i fodelu eu gwisgoedd ar 'cat walk', a dewisodd y wisg gorau gan feirniaid Huw Rees o Wedi3, Siân Alaw o C2 a Sioned Rowlands o Goleg Garddwriaeth Cymru. Arweiniodd Nic Pari y noson a gafodd ei darlledu ar Wedi 7!


Prosiectau Iaith a Threftadaeth
Derbyniodd Menter Iaith Sir y Fflint gymeradwyaeth Partneriaeth Wledig Sir y Fflint a Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu Prosiect Iaith a Threftadaeth ar gyfer rhaglen Datblygu Wledig Sir y Fflint ym Mis Gorffennaf 2008. Ariannir y prosiect yn rhannol gan bartneriaid Fforwm Iaith Sirol y Fflint, Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewropeaid ar gyfer Datblygiad mewn Ardaloedd Gwledig. Menter Iaith Sir y Fflint sydd yn gweithredu’r prosiect ar ran Fforwm Iaith Sirol.
Mae’r prosiect yn darparu Swyddog Iaith a Threftadaeth sydd yn datblygu a chynnal prosiectau penodol er mwyn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddiwylliant ieithyddol Cymreig ac Eingl Cymreig Sir y Fflint i bobl leol ac ymwelwyr.
Dyma rhai gweithgareddau a threfnwyd gan Fenter Iaith sir y Fflint:

  • Sesiynau adrodd storiâu cymunedol.
  •  Gweithdai treftadaeth a chelf.
  •  Ymweliadau i amgueddfeydd lleol a lleoliadau diwylliedig.
  •  Gweithdai cymunedol gan gynnwys gweithgareddau dawns a cherddorol.
  • Sesiynau ymwybyddiaeth ar iaith, diwylliant a threftadaeth Cymru.

Dyma rhai o’r gweithgareddau a drefnwyd gan Fenter Iaith Sir y Fflint fel rhan o’r prosiect Iaith a Threftadaeth:

Murlun Crochenwaith Bwcle
Daeth griw o ddysgwyr Cymraeg brwdfrydig at ei gilydd i weithio gyda’r arlunydd cymunedol Mari Gwent i greu murlun yn seiliedig ar grochenwaith enwog Bwcle.
Roedd y gweithdai, a gynhaliwyd ar Ionawr 30ain a Chwefror 6ed a 13eg, a drefnwyd gan Fenter Iaith Sir y Fflint, yn gyfle i drigolion y sir i ddysgu mwy am hanes un o ddiwydiannau hynaf yr ardal, creu gwaith celf ac ymarfer eu Cymraeg mewn awyrgylch hwyliog.

Sesiynau stori gyda Cath Aran
Ar Hydref 20fed a’r 21ain daeth y cyfarwydd Cath Aran, sy’n enwog yn genedlaethol i’r Wyddgrug i ddiddanu pobl Sir y Fflint gyda straeon a chwedlau traddodiadol Cymru.
Ar yr 20fed adroddodd Cath straeon Cymraeg i blant a rhieni ysgolion cynradd Bryn Coch a Glanrafon. Y diwrnod canlynol oedd tro disgyblion yr ysgolion uwchradd - Maes Garmon a’r Alun - i glywed ei dehongliad o chwedlau hynaf Cymru, sef stori Blodeuwedd.
Cafodd y dosbarthiadau hŷn flas ar ei ‘hochr dywyll’ pan ddifodwyd y golau a chawsant glywed hanes geneth ifanc a chollodd ei phen ar ôl cyfarfod ysbryd mewn gwesty yn Y Rhyl!
Meddai Pete Bryon, Pennaeth Cymraeg Ysgol Alun “Wnaeth blwyddyn 10 mwynhau gwrando ar chwedl Blodeuwedd, a dw i’n siŵr eu bod wrth eu boddau gyda’r stori arswyd hefyd; hyd yn oed os bydd rhaid iddynt gysgu gyda’r golau ymlaen am sbel!”
Gyda’r nos ar yr 20fed, ymgasglodd grŵp o oedolion dewr yn Nhŵr Nercwys i glywed Cath yn adrodd straeon arswyd o Ogledd Cymru. Clywsant hanes Gwrach Caerwys, chwedl y Marchog Du a’r Bluen Goch, helyntion Bryn yr Ellyllon, gwesty arswydus Rhyl; ac wrth gwrs, hanes Rheinallt ap Bleddyn ap Gruffudd, pwy, yn ôl pob sôn, grogodd Maer Caer yn yr un ystafell gwledda ple’r eisteddodd y grŵp!

Spri-di-ri yng Ngronant
Ar Fedi’r 15fed 2009 cynhaliodd Canolfan Deuluoedd Gronant, Menter Iaith Sir y Fflint a Choleg Glannau Dyfrdwy brynhawn Spri-di-ri i’r Teulu i drigolion ardal Gronant, Talacre, Picton, Pen y Ffordd, Ffynnongroyw a Mostyn. Ymysg y gweithgareddau roedd peintio wyneb, peintio ewinedd, helfa drysor, carioci Rimbojam gyda Cadi a Dai, mascots newydd yr Urdd, celf a chrefft, modelu clai a sesiynau stori a chan Cymraeg. Roedd y gweithgareddau am ddim ac roedd cyfle i ymaelodi ar y cwrs Cymraeg Hwyl i’r Teulu Coleg Glannau Dyfrdwy.

Gweithdai Gwyllt
Yn ystod hanner tymor Hydref 2009 wnaeth Menter Iaith Sir y Fflint gweithio hefo cwmnïau a chymdeithasau lleol i gynnal ‘gweithdai gwyllt’ trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn helpu plant yr ardal dysgu mwy am fyd natur.  Roedd yna sesiwn Celf Wyllt ar gampws  Llaneurgain o Goleg Glannau Dyfrdwy,  Gweithdy Goroesi yn y Gwyllt gyda Forest School Sir y Fflint yn y goedwig ar Gampws Llaneurgain Coleg Glannau Dyfrdwy a thaith gerdded  i’r teulu trwy goedwig Chwitffordd. Arweinid y daith Coedwig Wyllt gan Iwan Roberts o Gymdeithas Edward Llwyd.

Murlun Oakenholt
Trwy gydol Mis Mawrth 2009 gweithiodd yr arlunydd Cefyn Burgess gyda disgyblion Ysgol Croes Atti ac aelodau o’r gymuned i gynhyrchu croglun tecstilau ar gyfer neuadd yr ysgol a fydd hefyd yn adlewyrchiad o ardal Fflint / Oakenholt. Nid yn unig yw gwaith Cefyn yn adnabyddus yma yng Nghymru a gweddill D.U. ond hefyd mor bell â’r U.D.A.  lle mai ei arddull unigryw o ddefnyddio tecstilau i greu murluniau yn werth i’w gweld. Mae’r murlun bellach ar arddangosiad yn Ysgol Croes Atti, Y Fflint.

Gweithdai pypedau
Ym mis Hydref 2008 wnaeth Cwmni Pypedau Cortyn ymweld ag Ysgolion Cynradd Cymraeg Sir y Fflint gan gynnwys Ysgol Terrig, Glanrafon, Croes Atti, Gwenffrwd a Mornant i gynnal gweithdai creu pypedau ar gyfer  plant saith oed. Wnaeth Cwmni Cortyn yn hwyluso’r  gweithdai  er mwyn dehongli hanesion a chwedlau Cymru ar y thema “Arwyr Cymru”.  Roedd hyn yn gyfle i’r plant gael archwilio syniadau am eu hunaniaeth Gymraeg, hanes  a’r iaith.  Arddangoswyd y pypedau y bydd y plant wedi eu creu yn Oriel Clwyd Theatr Cymru ym Mis Rhagfyr.

Gweithdai ysgrifennu
Trwy’r prosiect Iaith a Threftadaeth mae Menter Iaith wedi cynnig gweithdai ysgrifennu creadigol gydag awduron a beirdd Cymraeg, gan gynnwys: Mei Mac, Twm Morys, Sian Northey, Iwan Llwyd, Ifor ap Glyn a Noson gyda’r Taeogion.

 

 

 
mentrauiaith-gogledd.com
 
Bwrdd Yr Iaith Gymraeg
Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru Bwrdd Yr Iaith Gymraeg
Dyluniwyd gan Delwedd