Mentrau Iaith y Gogledd Lluniau Gogledd Cymru
 
 
Help / Cymorth

 

 

 

FflintSir y Fflint

Mae’r wefan yma yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith Menter Iaith Sir y Fflint. Bydd y dudalen newyddion yn eich cadw mewn cysylltiad â gwaith y Fenter a’r adrannau eraill yn sôn yn fanylach am nifer o’r prosiectau a gwasanaethau yn y sir.

Gweithredir prosiectau mewn partneriaeth ar draws ystod eang o feysydd a’r cyfan yn cyfrannu at hyrwyddo cymunedau dwyieithog a chefnogi rhwydweithiau i Gymry a dysgwyr Sir y Fflint, gyda’r bwriad o gynnal a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y sir.

Addysg

  • Egluro manteision addysg gyfrwng Gymraeg
  • Cefnogi ysgolion i hybu dwyieithrwydd
  • Cynnal sesiynau ymwybyddiaeth iaith a threftadaeth 

Diwylliant a Chymuned

  • Trefnu gweithgareddau cymunedol trwy’r Gymraeg
  • Cefnogi dysgwyr trwy drefnu gweithgareddau hwyliog a chymdeithasol
  • Cefnogi pwyllgorau a mudiadau cymunedol

Plant ac Ieuenctid

  • Cynnig gweithgareddau amrywiol i blant a phobl ifanc
  • Gweithio mewn partneriaeth â darparwyr gwasanaethau i blant ac ieuenctid
  • Hybu hyder plant a phobl ifanc wrth iddynt ddefnyddio’r Gymraeg

Teulu

  • Annog rhieni i fagu plant yn ddwyieithog – cydweithio gyda Twf a Mudiad
    Ysgolion Meithrin
  • Cefnogi teuluoedd dwyieithog trwy gynnig gwybodaeth a gweithgareddau

Cliciwch ar unrhyw eitem am ragor o wybodaeth os gwelwch yn dda :-

mentrauiaith-gogledd.com
 
Bwrdd Yr Iaith Gymraeg
Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru Bwrdd Yr Iaith Gymraeg
Dyluniwyd gan Delwedd