Hanesion Diweddar
Newyddlen Yr Haf Menter Iaith Môn

Panto ‘Barti Ddu’!
"Barti Ddu" - pafiliwn Sioe Môn Rhagfyr 4ydd
- perfformiad bore a pnawn
Mae Menter Iaith eleni yn falch o fod yn cydweithio efo Cwmni Mega sy'n ymweld ag Ynys Môn fel rhan o'u taith o gwmpas Cymru gyda'r panto "Barti Ddu" .
Taith Ciwdod C2

Pawb wedi cael noson grêt yn Amlwch yng nghwmni Magi Dod, Y Bandana a Crwydro, gyda bysus yn dod a pobl ifanc o Fangor, Porthaethwy a Llangefni!
Grŵp Rhannu Rhigwm a Diwrnod Hwyl Biwmares

Gan gychwyn efo diwrnod hwyl yng nghanolfan hamdden Biwmares, mae’r grŵp rhannu rhigwm cyntaf wedi bod yn lwyddiant mawr, gyda rhieni a plant bach yn cyfarfod yn wythnosol i rannu stori, cân a chrefft er mwyn datblygu sgiliau iaith y plant. Mae’r prosiect arbennig yma wedi bod yn bosib drwy bartneriaeth newydd rhwng y Fenter Iaith, Twf, Cynllun iaith a Chwarae, Gwasanaeth Gwybodaeth Plant a Phobl Ifanc, Gwasanaeth y Llyfrgell. Bydd Rhannu Rhigwm yn cychwyn yn Amlwch ar ôl y Nadolig, cysylltwch i holi!
Taith Calan Gaeaf i Ogofau Llechwedd

Mentrodd rhieni a’u plant o Ynys Môn i Lechwedd i brofi taith ar Drên yr Ysbrydion a chymryd y siwrne’ ddofn i’r isfyd cyn mynd i chwarae yng Nghastell y Penglog a gwrando ar stori ysbryd i godi gwallt y pen!
Sioe Glybiau Bara Caws

Daeth Sioe Glybiau bara caws i Glwb Wellmans, Llangefni a Neuadd Goffa Amlwch. Roedd y lle yn orlawn ar dair noson y perfformiad, a phawb wedi mwynhau!
Noson Chill Owt a Noson Jamio Grŵp Ffidbac

Mae grŵp Ffidbac wedi dechrau, a byddwn yn parhau i weithio efo pobl ifanc er mwyn cynnal nosweithiau arbennig fel hyn i hybu cerddoriaeth Gymraeg.
TRIP BWS I PENTRE BACH

Cafwyd trip fws i Bentre Bach ar Ddydd Iau 27ain o Awst 2009. Bu raid archebu ail fws oherwydd fod y daith mor boblogaidd. Cafodd y plant gyfle I weld tai’r cymeriadau, i fwyta yn y caffi, ac i gyfarfod Sali Mali!
Diwrnodau Hwyl Drwy’r Gymraeg a Gweithdai Wsnos YMAZ

Mae staff y Fenter Iaith yn cydweithio efo staff Theatr Ieuenctid Môn, Bocswn a partneriaid eraill er mwyn cynnal diwrnodau o weithdai i bobl ifanc yn ysgolion uwchradd Ynys Môn. Hyd yn hyn eleni mae dros 400 bobl ifanc wedi cael bod yn rhan o weithdai canu, gweithdai drymiau a gitars, gweithdai drama, gweithdai Ukelele a gweithdai dawns Hip Hop!
|