Mentrau Iaith y Gogledd Lluniau Gogledd Cymru
 
 
 

 

 

 

ProsiectauBusnes

Sector Breifat

Yr Iaith a’ch busnes – Ydych chi’n siarad iaith eich Cwsmeriaid?

  • Gall defnyddio’r Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg wrth drafod eich busnes fod o fantais amlwg ichi
  • Yn ôl y cyfrifiad 2001, mae 21% o boblogaeth Cymru’n medru’r Gymraeg (sef 575,604 o bobl) hyn yw 2 allan o 10 o’ch cwsmeriaid!
  • Mae cynydd mawr wedi bod yn y nifer o bobl ifanc sy’n ddwyieithog, y pobl ifanc yma fydd eich cwsmeriaid chi yn y dyfodol, felly mae’n gwneud synnwyr i ddechrau paratoi ar eu cyfer nhw nawr!

Manteision Dwyieithrwydd i fusnesau

  • Denu Cwsmeriaid newydd
  • Cynyddu teyrngarwch eich cwsmeriaid
  • Creu ewyllys da ar gost isel
  • Creu gwahaniaethau rhwng eich busnes chi ac eraill yn yr un sector
  • Gwella ansawdd eich gwasanaeth i gwsmeriaid
  • Sicrhau mantais dros eich cystadleuwyr wrth farchnata
  • Dangos eich bod yn gwrando ar eich cwsmeriaid

Sut mae mynd ati i gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn eich busnes

  • Dangos i’ch cwsmeriaid pa aelodau o staff sy’n medru’r iaith Gymraeg (drwy ddosbarthu bathodynnau ‘Iaith Gwaith’)
  • Annog a chefnogi staff sy’n awyddus i ddysgu’r iaith, neu sydd eisiau gwella’u sgiliau iaith
  • Cynhyrchu deunyddiau eich busnes yn ddwyieithog
  • Hysbysebu a marchnata yn y ddwy iaith
Cymorth

Mae croeso i chi gysylltu â’ch Menter Iaith lleol am gymorth

  • Wrth baratoi cais am grantiau i gael arwyddion a deunyddiau dwyieithog
  • Gyda chyfieithiadau byr, a manylion am gyfieithwyr proffesiynol yn eich ardal
  • I ddod o hyd i gyrsiau iaith addas
  • Wrth baratoi hysbysebion dwyieithog
Deunyddiau

Mae deunyddiau defnyddiol ar gael megis Arwyddion ar agor/ar gau, matiau cwrw, matiau llygod a llawer mwy.

 
mentrauiaith-gogledd.com
 
Bwrdd Yr Iaith Gymraeg
Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru Bwrdd Yr Iaith Gymraeg
Dyluniwyd gan Delwedd