Mentrau Iaith y Gogledd Lluniau Gogledd Cymru
 
 
 

 

 

 

ProsiectauCyfieithu

CYMORTH CYFIEITHU Y MENTRAU IAITH
Mae’r Mentrau Iaith yn cynnig cymorth a chefnogaeth i gyfieithu darnau o waith o bob math i’r Gymraeg!

Mae gan rhai Mentrau gyfieithydd Cymunedol sydd yn gallu cynnig prisiau gostyngol am waith cyfieithu i rai mudiadau. Yn ogystal mae gan rhai Mentrau ddarpariaeth ac offer cyfieithu ar y pryd i’w logi am bris rhesymol – edrychwch ar wefan eich menter leol am wybodaeth lawn o sut all eich menter eich cynorthwyo chi.

Dyma wasanaethau eraill sydd ar gael i’ch helpu i gyfieithu:

Llinell Gyswllt â’r Gymraeg

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn darparu gwasanaeth y Llinell Gyswllt â’r Gymraeg er mwyn cynorthwyo a chefnogi unigolion a chyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus i gyfieithu a gwirio darnau byrion.

Fe all y Llinell Gyswllt

  • gyfieithu hyd at 30 o eiriau;
  • gwirio hyd at 75 o eiriau;
  • cyfieithu bwydlenni;
  • rhoi gwybodaeth am enwau lleoedd
  • rhoi gwybodaeth am Gymru a’r Gymraeg

i gysylltu, ffoniwch 0845 607 6070

neu ebostiwch neu e-bostiwch cyswllt@bwrdd-yr-iaith.org.uk

llun- gwener 9am-5pm

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Corff proffesiynol yw Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru sy’n gweithio’n gyson tuag at godi safonau ym maes cyfieithu Cymraeg/Saesneg. Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1976 ac erbyn hyn mae ganddi brofiad maith o arholi ac asesu cyfieithwyr, hyfforddi, datblygu a chefnogi cyfieithwyr a chynghori cyrff statudol ar faterion cyfieithu. Maent hefyd yn cynorthwyo cyflogwyr wrth iddynt recriwtio cyfieithwyr.

Mae aelodau o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn gyfieithwyr cydnabyddedig ac os hoffech chi ragor o wybodaeth, neu am gomisiynu cyfieithydd i ymgymryd â gwaith cyfieithu ysgrifenedig neu ar y pryd gallwch gysylltu:

Ffôn – 01248 371 839

Ebost – swyddfa@cyfieithwyrcymru.org.uk

Gwefan – www.cyfieithwyrcymru.org.uk

 
mentrauiaith-gogledd.com
 
Bwrdd Yr Iaith Gymraeg
Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru Bwrdd Yr Iaith Gymraeg
Dyluniwyd gan Delwedd