Mentrau Iaith y Gogledd Lluniau Gogledd Cymru
 
 
Help / Cymorth

 

 

 

ProsiectauCymunedol

Y Gymraeg yn y Gymuned

  • Yn ôl canlyniadau Cyfrifiad 2001 amrywia’r nifer o siaradwyr Cymraeg o fewn cymunedau Cymru yn helaeth iawn. Mae ychydig dros 20% o bobol Cymru yn siarad Cymraeg heddiw – cynydd o ganlyniadau cyfrifiad 1991.
  • Nid oes yr un gymuned yng Nghymru ble nad oes unrhyw siaradwyr Cymraeg yn byw- mae’r Gymraeg yn parhau i fod yn iaith sawl cartref, ysgol, cymdeithas a chymuned heddiw.
  • Mae’r % o siaradwyr Cymraeg yn y Gogledd yn amrywio o sir i sir ac felly mae’r Fenter Iaith Leol yn gallu adnabod, teilwra a chynnal darpariaeth addas ar gyfer yr ardal mae’n ei gwasanaethu.
  • Noda’r Cyfrifiad hefyd bod oedran cyfartaledd yr iaith ar draws Cymru yn mynd yn iau wrth i’r ddarpariaeth addysg Gymraeg gynyddu ar draws y siroedd. Serch hynny, mewn sawl ardal ceir diffyg mewn sawl ardal mewn cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith o fewn y cymunedau hynny.

Mae gan y Mentrau Iaith ar draws Gogledd Cymru brofiad helaeth o gynorthwyo cymunedau lleol i gynnig cyfleoedd i’r trigolion i gynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.

Fe all eich Menter Iaith Leol eich cynorthwyo i gynnal digwyddiadau i hyrwyddo a hwyluso defnydd o’r Gymraeg yn eich ardal. Yn barod mae Gwyliau amrywiol yn ceal eu cynnal ymhob un o siroedd y Gogledd yn ystod y flwyddyn, cynhelir gigs a nosweithiau cymdeithasol – pam na wnewch chi ymuno â ni yn yr hwyl neu efallai drefnu eich digwyddiad eich hun!

Am ragor o wybodaeth am sut gallwn gynorthwyo eich cymuned chi, cysylltwch â’ch Menter Iaith leol.

 
mentrauiaith-gogledd.com
 
Bwrdd Yr Iaith Gymraeg
Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru Bwrdd Yr Iaith Gymraeg
Dyluniwyd gan Delwedd