Dysgwyr
Mae gan y Mentrau Iaith rôl bwysig iawn i’w chwarae yn y maes datblygu cymunedol hefo dysgwyr. Mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi dysgwyr o fewn y gymuned. Oni wneir hyn mae ‘na berygl na fydd dysgwyr yn datblygu i fod yn rhugl yn y Gymraeg.
Gan mai pwrpas creiddiol y Mentrau Iaith yw sicrhau ffyniant yr iaith, y mae’n rhaid i ni nawr edrych ar sut y gallwn fynd ati i gydweithio a chynnwys dysgwyr mewn gweithgareddau cymdeithasol a chymunedol.
Mae sicrhau dealltwriaeth dysgwyr o ardal arbennig, ynghyd â chodi eu hymwybyddiaeth o lefydd y byddent yn gallu dysgu’r iaith hyd yn oed, yn mynd i sicrhau dyfodol i’r iaith yn y pendraw, ac ar ddiwedd y dydd, dyma beth yw ein nod.
Mae’r holl Fentrau yn trefnu gwahanol weithgareddau er mwyn galluogi dysgwyr i gymdeithasu a'i gilydd a gyda Chymry Cymraeg.
Un gweithgaredd sy’n boblogaidd iawn ac yn gyffredin iawn gyda’r holl Fentrau yw Sadyrnau neu Sesiynau Siarad, cyfle yw’r rhain i ddysgwyr ddod at ei gilydd i sgwrsio’n anffurfiol dros baned o de.
Am fwy o wybodaeth am y sesiynau yma ac am holl weithgareddau'r Mentrau unigol, edrychwch ar dudalen eich Menter leol.
I gael gwybodaeth a manylion am gyrsiau Cymraeg i Oedolion yn eich ardal chi - cysylltwch â'r Ganolfan Cymraeg i Oedolion:
01248 383928, neu ymwelwch â'r wefan www.learncymraeg.org
Penwythnos Antur Awyr Agored i Ddysgwyr Cymraeg yng Nghaban Gerlan, Bethesda.
Nos Wener 10fed – Dydd Sul 12fed o Hydref 2008.
Am fanylion llawn cliciwch fan hyn
|