Mentrau Iaith y Gogledd Lluniau Gogledd Cymru
 
 
Help / Cymorth

 

 

 

ProsiectauGwirfoddol

Y MENTRAU IAITH YN Y SECTOR GWIRFODDOL

Mae’r Mentrau Iaith yn cynnig cymorth a chefnogaeth i ystod eang o grwpiau cymunedol. Wrth weithio gyda’r Sector Gwirfoddol rydym yn hyrwyddo’r manteision sydd i gyrff gwirfoddol ddefnyddio’r Gymraeg:

  • Mae’n cynnig gwell gwasanaeth i siaradwyr Cymraeg.
  • Mae’n cydnabod natur ddwyieithog Cymru.
  • Mae’n hwyluso mynediad i weithgareddau.
  • Mae’n codi delwedd Gymreig y mudiad ac yn cydnabod perchnogaeth gan y Cymry Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd.
  • Mae’n cryfhau apêl y mudiad.
  • Mae’n galluogi’r mudiad i ddarparu gwasanaethau effeithiol.
  • Mae’n cryfhau apêl y mudiad wrth godi arian.
  • Mae’n arddangos ewyllys da.
  • Mae’n fodd o ddenu gwirfoddolwyr Cymraeg.

Rydym yn cynnig cymorth ac yn cydweithio â’r grwpiau er mwyn datblygu gweithgareddau a chyfleoedd sy’n annog darpariaeth ddwyieithog y sector.
Fe all y gweithgareddau a’r cyfleoedd hyn gynnwys helpu i drefnu sesiwn ymwybyddiaeth iaith, cyrsiau gloywi iaith neu gwybodaeth am gyrsiau dysgu Cymraeg.

Fe all rai Mentrau gynnig gwasanaeth cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd am bris gostyngedig i’r Sector Gwirfoddol. Edrychwch ar dudalen cyfieithu am ragor o wybodaeth.
Mae Mudiadau Gwirfoddol hefyd yn gymwys i ymgeisio am Grant Busnes Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae posib i chi wneud cais am y grant hwn ar gyfer datblygu a chynhyrchu deunyddiau dwyieithog. Cysylltwch â’ch Menter leol am ragor o wybodaeth.

Nid yw Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn gosod dyletswydd gyfreithiol uniongyrchol i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg ar fudiadau gwirfoddol, ond mae goblygiadau i'r sector mewn rhai amgylchiadau. Er enghraifft, rhaid i fudiadau preifat neu wirfoddol sy'n darparu gwasanaethau gofal neu bersonol arall ar ran cyrff statudol (fel cynghorau lleol neu ymddiriedolaethau iechyd) ddilyn gofynion cynllun iaith y corff hwnnw.

Er nad yw’n ofyniad statudol i gyrff gwirfoddol fabwysiadu Cynllun Iaith, mae nifer o gyrff gwirfoddol wedi mynd ati i baratoi a gweithredu Cynllun Iaith gan ei fod yn cryfhau’r manteision sydd o ddefnyddio’r Gymraeg, fel y nodir uchod. Os hoffech chi gymorth i lunio Cynllun Iaith neu Bolisi Iaith, cysylltwch â’ch Menter leol, neu cysylltwch â Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

 
mentrauiaith-gogledd.com
 
Bwrdd Yr Iaith Gymraeg
Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru Bwrdd Yr Iaith Gymraeg
Dyluniwyd gan Delwedd