Plant/Pobol Ifanc
Mae sicrhau cyfleoedd i blant a phobl ifanc i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o brif amcanion Mentrau Iaith y Gogledd.
Rydym oll yn cydweithio gyda’n partneriaid, TWF, Mudiad Ysgolion Meithrin, yr Urdd, a Ffermwyr Ifanc i hyrwyddo’r gwaith pwysig yma. Teimlwn bod hyrwyddo manteision magu plant yn ddwyieithog, a chreu cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith y tu allan i furiau’r ysgol a’r cartref yn hanfodol i ddatblygiad plant a phobl ifanc Cymru.
Tra bod addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar gael i bob plentyn yng Nghymru, mae’r Mentrau yn gobeithio ehangu ar yr addysg yma, gan ddatblygu profiadau plant a phobl ifanc tu allan i’r ystafell ddosbarth. Mewn rhai ardaloedd mae dros 95% o ddisgyblion yr ysgolion Cymraeg yn dod o gartrefi Di-Gymraeg. Mae creu cyfleoedd cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol i normaleiddio’r iaith ymysg ein ieuenctid.
Mae pob Menter Iaith yn adlewyrchu eu cymunedau lleol ac yn ymateb i anghenion ieithyddol a chymdeithasol y cymunedau hynny. Ymysg y gwasanaethau a ddarperir gan Fentrau Iaith i blant a phobl ifanc mae:
- Clybiau Gwyliau
- Theatr Ieuenctid
- Brwydr y Bandiau C2 Radio Cymru
- Taith Bandit S4C
- Gigs a hyrwyddo’r Sîn Roc Gymreig
- Gweithdai Roc a Phop, Hip Hop a Sain Digidol
- Fforymau Ieuenctid
- Gwyliau Gwahanol, e.e. Gŵyl Cefni, Llanast Llanrwst, Gŵyl Cadi Ha a Ffiesta Sir y Fflint
Cysylltwch â’ch Menter Iaith lleol i weld pa ddarpariaeth sydd yn eich ardal chi!
|