Newyddion


Dyma Logo newydd Menter Iaith Maldwyn

Enillydd y gystadleuaeth Logo yw Timothy Ansell gydar dyluniad yma!
Timothy Ansell yn derbyn ei wobr gan brif swyddog Menter Maldwyn Rhianon Hywel Jones
Clwb Ieuenctid Cymraeg
Mae Menter Iaith Maldwyn, Gwasanaeth Ieuenctid Powys
a Urdd Gobaith Gymru yn cyd weithio i drefnu Clwb Ieuenctid Cymraeg yn y Drenewydd.

Mae'r Clwb yn agored i bobol ifanc o’r oedran 11-18
Am fwy o fanylion E-bostiwch dylan.penri@powys.gov.uk Neu ffoniwch swyddfa Menter Maldwyn ar 01686 614 020
Ymunwch â Noson Cymraeg Clwb Ieuenctid Drenewydd ar Facebook cliciwch isod

Wyt ti rhwng 14 ac 20 oed?
Oes gen ti ddiddordeb yn y celfyddydau perfformio?

Mae’r Urdd yn cynnig cyfle arbennig i ti fod yn aelod o Gwmni Theatr Ieuenctid Urdd Gobaith Cymru. Mae’n gynllun tair blynedd a fydd yn rhedeg ar lefel daleithiol (Gogledd, Canolbarth a De) yn ystod 2011 yna bydd y tair talaith yn uno ar gyfer llwyfannu perfformiad cwbl unigryw yn ystod 2012.
CYRSIAU PRESWYL THEATR IEUENCTID YR URDD HAF 2011:
TALAITH Y GOGLEDD: Gwersyll yr Urdd Glanllyn (Gorffennaf 19eg i 27ain)
TALAITH Y DE: Gwersyll yr Urdd Caerdydd (Gorffennaf 20fed i 28ain)
TALAITH Y CANOLBARTH: Gwersyll Llangrannog (Gorffennaf 21ain i 29ain)
Linc i wefan gartref y Theatr Ieuenctid lle mae mwy o wybodaeth ar gael ynglyn a sut i wneud cais a llawer mwy! Cliciwch Yma!
|