|
|
Prosiectau

TEITHLYFR DYFFRYN TANAT
Mae’r llyfryn yn cynnwys taith car ar hyd y dyffryn, ynghyd â theithiau cerdded o gwmpas pentrefi Llansilin, Llanrhaeadr ym Mochnant, Penybontfawr a Llangynog.
Dros y 18 mis (2010), mae grwp o bobl leol wedi dod at ei gilydd yn sgil ymgynghoriad yn y dyffryn oedd â’r nod o ddarganfod syniadau trigolion yr ardal mewn perthynas â phrosiect Treftadaeth Iaith. Arianwyd y prosiect gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg drwy’r Menter Maldwyn.Yn sgil trafodaethau ymysg aelodau’r gweithgor lleol , penderfynwyd cymryd y camau canlynol:
- Cyhoeddi teithlyfr dwyieithog i ymwelwyr i’r ardal fyddai’n olrhain lleoedd pwysig yn y dyffryn o safbwynt hanes yr ardal;
- Sefydlu gwefan fyddai’n galluogi cymdeithasau a grwpiau lleol i hysbysebu eu digwyddiadau, a busnesau i hysbysebu eu gwasanaethau hwy, yn ogystal â rhoi mwy o gefndir i’r ardal hon sydd mor bwysig yn hanes Cymru; a
- Gosod arwyddion ffordd “Dyffryn Tanat – Croeso” dwyieithog un bob pen i’r dyffryn yn Llangynog ac ym Mhen-y-bont Llannerch Emrys.
Gwaith y Fenter yn y Gymuned
Gwaith datblygu cymunedol yn ei hanfod yw gwaith y Fenter. Datblygu’r iaith Gymraeg o fod yn iaith wedi ei chyfyngu i achlysuron arbennig i fod yn iaith ble gellir ei defnyddio mewn unrhyw fath o sefyllfa yn y gymuned. Rhestrir yma ychydig o’r mathau o waith datblygu mae’r Fenter yn ei wneud ar raddfa barhaus:-
-
Creu cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith drwy’r Gweithgorau Ardal a phrosiectau penodol.
-
Cyfieithu – Cyfradd 2,000 gair cyntaf am ddim i fudiadau gwirfoddol ac wedyn £40 y mil o eiriau i unigolion, mudiadau gwirfoddol a busnesau. Darperir offer a gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn ogystal.
-
Darparu taflenni gwybodaeth, a bod yn siop gwybodaeth am bopeth Cymraeg a Chymreig.
-
Ymateb i gyfleoedd cymunedol sy’n codi o bryd i’w gilydd, e.e. cyfle i yrru gwybodaeth i siopau a ffatrïoedd newydd i’r ardal, trefnu cyfarfodydd a chyfarfodydd cyhoeddus i wyntyllu cyfleon.
|
 |
- Cyfarfod â grwpiau cymunedol i godi ymwybyddiaeth am yr Iaith Gymraeg ac i farchnata gwasanaethau’r Fenter a Bwrdd yr Iaith.
- Derbyn pedwar Papur Bro'r sir - Yr Ysgub, Seren Hafren, Plu’r Gweunydd, Blewyn Glas - yn ogystal â’r Cymro, Yr Herald Cymraeg a Golwg er mwyn rhannu gwybodaeth.
- Codi ymwybyddiaeth swyddogion sector cyhoeddus / gwirfoddol o fylchau yn y ddarpariaeth Iaith Gymraeg, trefnu cyfarfodydd fel mae’n briodol.
- Cydweithio gydag ein partneriaid o fewn y sir (MYM, MYW, TWF, CFFI, CSP, Yr Urdd, Cynllun gweithredu iaith Machynlleth, Athrawon Bro, Coleg Powys, Tiwtoriaid Cymraeg i oedolion) ar ffurf fforwm sirol i rannu arfer dda ac ymatal dyblygu gwaith.
Lleuwen Steffan
Brwydr y Bandiau – Gwyn Maffia yn beirniadu
|
Y Drenewydd

Meifod
Gwiber
|
Partneriaeth iaith yn gweithio gyda’i gilydd
|
| |
|