Mwynder Maldwyn
Mae natur ieithyddol a chymdeithasol Maldwyn yn amrywio'n fawr. Yn wir gellir cymharu Maldwyn / Powys â Chymru ar ffurf fechan. Yn y cymunedau gorllewinol mae'r Gymraeg yn parhau i fod yn iaith gymunedol, tra bo'r Gymraeg yn cychwyn adennill ei thir yng ngweddill Maldwyn gyda ymdrechion ysgolion, tiwtoriaid ac unigolion brwdfrydig. Yn ddiweddar mae'r Fenter wedi dechrau sefydlu gweithgorau ardal er mwyn rhoi grym am waith y Fenyter yn nwylo'r gymuned. Mae dau weithgor yn bodoli hyd yn hyn un yn ardal Dyffryn Tanat dan yr enw 'Cymdeithas Adloniant Tanat' maent yn brysur iawn yn trefnu nosweithiau amrywiol yn yr ardal. Ac un arall yn Llanfair Caereinion dan yr enw Cwmni Adloniant Llanfair (CALl).
Sefyllfa'r Iaith ym Maldwyn
Yn ôl cyfrifiad 2001 mae 23.8% o boblogaeth Maldwyn (sef 13677) yn siarad Cymraeg. Machynlleth yw'r dref gyda’r ganran uchaf o boblogaeth sy'n siarad Cymraeg sef 1,124 (h.y.54.2% o'i phoblogaeth). Gellir dweud mai Machynlleth gyda'r mwyafrif hyn yw calon y gymdeithas Gymraeg ym Maldwyn. Ond hefyd mae ardaloedd Cymreig iawn yn y Gogledd Orllewin yng nghymunedau Cadfarch 62.5%, Glantwymyn 58.4%, Llanbrynmair 53.8%, Llanrhaeadr Ym Mochnant 54.8%, Llangynog 49.5%, Penybontfawr 56.3%, Llanfihangel 64.3%, Banwy 61.7% a Llanerfyl 58.1% gyda niferoedd uchel o siaradwyr Cymraeg, ac yma mae'r brwdfrydedd cymdeithasol i'w weld fwyaf hefyd. Mae nifer y siaradwyr ifanc i'w weld yn tyfu. Mae cynnydd yn y brwdfrydedd dros y Gymraeg i'w weld gyda Ysgol Gynradd cyfrwng Cymraeg cyntaf Maldwyn – Ysgol Dafydd Llwyd - yn y Drenewydd - wedi agor ym mis Medi 2001.
Saesneg yw prif iaith ardaloedd Dyffryn Hafren a rhannau dwyreiniol Maldwyn yng Ngogledd Powys. Serch hynny mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi cynyddu’n raddol yn yr ardaloedd hyn, yn arbennig yn y trefi mwyaf lle maent yn ffurfio lleiafrifoedd sylweddol sy’n parhau i gynyddu. Fel un enghraifft, mae’r 1,543 o siaradwyr Cymraeg yn y Drenewydd, er yn 15% o boblogaeth y dref, yn fwy na’r 1,124 o siaradwyr Cymraeg a geir ym Machynlleth sy’n ffurfio 54% o boblogaeth y dref honno .
Cyfrifiad 2001 – Siaradwyr Cymraeg
|
Tref
|
Y boblogaeth
|
Nifer o siaradwyr Cymraeg
|
% o Siaradwyr Cymraeg
|
|
Llanfair Caereinion
|
1563
|
603
|
38.6%
|
|
Llanfyllin
|
1369
|
540
|
39.4%
|
|
Llanidloes
|
2730
|
484
|
17.7%
|
|
Machynlleth
|
2074
|
1124
|
54.2%
|
|
Trallwng
|
6030
|
835
|
13.8%
|
|
Y Drenewydd
|
10313
|
1543
|
15.0%
|