
Newyddion


Gweithdy Busnes
Cynhelir gweithdy busnes ar Chwefror, 9fed am 17.30 yn y Ramda Plaza, Wrecsam. Yn ystod y digwyddiad fe fydd cyfle i ficro fentrau ardal wledig Wrecsam ddysgu mwy am y Prosiect Dwyieithrwydd Mewn Busnes. Fel rhan o’r prosiect cynigir grant marchnata dwyieithog gwerth £1,600 i ficro fentrau o fewn Wrecsam wledig. Fel rhan o’r prosiect gall pob busnes dderbyn cymorth gan fentor a fydd yn darparu cymorth a chyngor ynglŷn a datblygu strategaeth cyllid a marchnata. Yn ystod y gweithdy fe fyddd cyflwyniadau gan siaradwyr gwadd a fydd yn trafod eu profiadau nhw yn rheoli busnesau dwyieithog. Fe fydd cyfle I rhwydweithio gyda busnesau eraill ac I hyrwyddo eich gwasanaethau. Am fwy o wybodaeth neu I gade lle cysylltwch gyda Sian Edwards 01978363791 neu sian@menteriaithmaleor.org
Brecwast Busnes yr Eisteddfod - cliciwch yma
Maffia Mr Huws i gloi Gŵyl Gerddorol Y Ffin yn Wrecsam!
Bydd un o fandiau Cymraeg fwyaf dylanwadol yr 1980au yn cloi Gŵyl Y Ffin 2011. Daeth Maffia Mr Huws yn enwog am fyw bywyd roc a rôl, am chwarae dros 100 gig y flwyddyn ac am ennill torf o edmygwyr ffyddlon a adnabyddir fel ‘Maffia Maniacs’. Ffurfiwyd y band ym Methesda yn 1981, ac maen nhw dal i berfformio gyda'i gilydd ar ôl 30 mlynedd. Rhyddhawyd albwm o ganeuon gorau’r band yn 2008, ond mae’r hogiau dal i roi perfformiadau a hanner i gynulleidfaoedd ar draws Gymru gyfan - a byddan nhw’n perfformio set awr o hyd yng Ngŵyl Y Ffin yn Wrecsam. mwy...
Cynllun ‘Dwyieithrwydd Mewn Busnes’
Mae Menter Iaith Maelor yn gweithredu cynllun grant ar gyfer busnesau a mudiadau gwirfoddol yn ardal wledig Wrecsam. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cynulliad Cymru a fe fydd yn weithredol o 2011- 2013. Bydd yn gymorth i fusnesau bychan a chanolig eu maint mewn ardaloedd gwledig i greu deunyddiau marchnata dwyieithog. Gellir defnyddio’r grant i gynhyrchu deunyddiau megis llyfrynnau, pamffledi, posteri, gwefannau, deunydd pecynnu, arwyddion ac offer swyddfa megis papur pennawd a chardiau busnes. Gall y grant hefyd dalu am wasanaeth cyfieithu. I ddarganfod os ydi eich busnes yn gymwys i dderbyn y grant ffoniwch 01978 363791 neu e-bostiwch sian@menteriaithmaelor.org
Wythnos Iaith ar Daith 2011
Gweithgareddau Iaith ar Daith - cliciwch yma
 |
Fel rhan o weithgareddau Wythnos Iaith ar Daith Sir y Fflint/Wrecsam 2011 mae Menter Iaith Maelor wedi trefnu i'r ffilm 'Patagonia' ymddangos yn Y Stiwt, Rhos.
Prynwch docynnau drwy gysylltu gyda’r Stiwt
drwy ffonio 01978 841300 neu archebu ar-lein
www.stiwt.co.uk
Tocynnau - £5 |
Prosiect ‘Dwyieithrwydd Mewn Busnes’
 |
Mae Menter Iaith Maelor yn lansio cynllun grant newydd ar gyfer busnesau yn Wrecsam Wledig.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cynulliad Cymru a fe fydd yn weithredol o 2011- 2013.
Bydd yn gymorth i fusnesau bychan a chanolig eu maint mewn ardaloedd gwledig i greu deunyddiau marchnata dwyieithog. |
Gellir defnyddio’r grant i gynhyrchu deunyddiau megis llyfrynnau, pamffledi, posteri, gwefannau, deunydd pecynnu, arwyddion ac offer swyddfa megis papur pennawd a chardiau busnes. Gall y grant hefyd dalu am wasanaeth cyfieithu.
Er mwyn darganfod os ydi eich busnes yn gymwys i dderbyn y grant ffoniwch 01978 363791 neu e-bostiwch sian@menteriaithmaelor.org |
Dyma’r dogfennau ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol Menter Iaith Maelor 2010-11
(11/5/2011)
Adroddiad Blynyddol Menter Iaith Maelor 2010-2011 - cliciwch yma
Agenda 11/05/11 - cliciwch yma
Cofnodion 21/04/10 - cliciwch yma
Adroddiad Ariannol - cliciwch yma
Prosiect Teuluoedd y Gaeaf
Ar ôl llwyddiant Prosiect Teuluoedd yr Haf bu i Fenter Iaith Maelor dderbyn ail grant gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg er mwyn cynnal gweithgareddau gyda theuluoedd oedd wedi dysgu’r Gymraeg ond wedi colli eu hyder i ddefnyddio’r iaith.
 |
Trefnwyd ymweliad i’r 'Runaround Playcentre' a bu i'r plant (a’r rhieni) fwynhau rhedeg o gwmpas y ganolfan. Trefnwyd bwyd ar gyfer yr holl deuluoedd, ac roedd yn gyfle i ddosbarthu adnoddau a gwybodaeth am gyfleoedd cymdeithasol i deuluoedd ddefnyddio’r iaith Gymraeg ac hefyd i hyrwyddo rhaglenni S4C a llyfrau Cymraeg y byddai’r plant yn mwynhau darllen. |
Fe aeth Siân a Gwawr i Gaerdydd i roi cyflwyniad i Fwrdd yr Iaith i drafod y prosiect peilot yma. Roedd y Bwrdd yn hapus iawn gyda chanlyniadau’r prosiect gydag un fam nawr yn arwain Cylch Meithrin a rhiant arall yn arwain Cylch Meithrin, Ysgol Feithrin ac hefyd yn derbyn hyfforddiant Cam wrth Gam. Hefyd bu i 4 o'r rhieni a oedd yn rhan o'r proseict gyntaf gwblhau sesiynau gloywi iaith sydd wedi magu eu hyder i ddefnyddio'r Gymraeg unwaith eto.
Gweithdy Animeiddio
 |
Bu i fyfyrwyr Prifysgol Glyndŵr a Choleg Iâl fwynhau gweithdy difyr gan yr animeiddiwr enwog Deiniol Morris.
Cafwyd 2 sesiwn gyda’r animeiddiwr o fri yn rhoi cyngor gwerthfawr i’r myfyrwyr ar sut i ddatblygu eu sgiliau animeiddio a’r cyrsiau oedd ar gael iddynt yn y maes animeiddio. Bu i bawb gael y cyfle i greu ffilm animeiddio fer a recordiwyd ar CD iddynt eu cadw.
|
Noson Wobrwyo
Cynhaliwyd noson i ddathlu talent plant a phobl ifanc Wrecsam yn Y Stiwt, Rhosllannerchrugog ar Chwefror 18fed. Roedd yn noson lwyddiannus dros ben gyda bron i 300 o bobl yn bresennol i glywed pa ffilm fyddai’n cael ei choroni fel enillydd gweithdai Ffilm Ieuenctid Wrecsam ac i wylio’r 6 ffilm oedd wedi cael eu henwebu ar gyfer y wobr. Cafwyd adloniant gan Robert Owens a Kieron Valentine yn canu a Harry Whitley yn chwarae’r piano oll yn ddisgyblion Ysgol Y Grango.
Y beirniaid ar y noson oedd Aled Lewis Evans, Steffan Parry ac Esyllt Tudur ac roedd cryn drafod wedi bod rhwng y tri i geisio penderfynu ar yr enillydd. Ar ôl amser hir yn pendroni bu i’r beirniad rhoi’r ail wobr i’r ffilm ‘Y Ffatri’n Cau’ a’r wobr gyntaf i' Twyll’ gan Myrddin ap Dafydd gan ganmol creadigrwydd a gwreiddioldeb y ffilm.
Bu i’r Gweinidog Alun Ffred Jones gyflwyno’r wobr ac roeddem yn falch iawn ei fod wedi dod i Wrecsam i fynychu’r noson.
Felly gai longyfarch a diolch pawb a gymerodd rhan yn y gweithdai. Roedd pawb yn edrych yn smart iawn wedi gwisgo fyny a gobeithio y byddwn yn gallu gweithio gyda chi eto yn y dyfodol agos.
Os ydych eisiau gweld y ffilmiau ewch i www.gfiw.co.uk
 |
 |
Noson Stomp
Cynhaliwyd noson ddifyr iawn yn y Trevor Arms yn Marford ar Chwefror 16eg gyda llawer o feirdd gorau Cymru yn ymgynnull ar gyfer y Noson Stomp. Bu i bawb fwynhau clywed holl waith y beirdd, rhai yn ddoniol, gyda rhai eraill yn fwy wleidyddol a ddifrifol. Gruffydd Antur oedd enillwr Stôl y Stomp. Arwel ‘Pod’ Roberts oedd y Stomp Feistr ar y noson yn diddanu pawb gyda’r straeon am y beirdd.
Hwyl i’r Teulu
Fe drefnodd tiwtoriaid Coleg Iâl gyda chymorth y Fenter noson Hwyl i’r teulu ble roedd teuluoedd oedd yn dysgu’r Gymraeg yn cael yn cael y cyfle i chwarae gemau, bwyta a chael eu diddanu gan Marc y Consuriwr. Bu i dros 120 o bobl fynychu’r noson ac roedd yn le gwych i bawb ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfa gymdeithasol
Trip i Nantyr
 |
Trefnwyd Penwythnos yn Nantyr gan y Fenter Swyddog CIW er mwyn i bobl ifanc Sir Wrecsam gymdeithasu a dysgu sgiliau newydd wrth gymryd rhan mewn sesiynau dringo, cyfeiriannu achanŵio.
Roedd yn gyfle i Swyddog CIW hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o’r Eisteddfod Genedlaethol a Maes B yn enwedig i sicrhau fod pobl ifanc Wrecsam yn cael y cyfle i glywed cerddoriaeth Cymraeg.
Roedd hefyd yn gyfle i drafod sefydlu fforwm ieuenctid a chasglu syniadau ar gyfer digwyddiadau a fydd o ddiddordeb i bobl ifanc.
|
 |
|
|
Clwb Celf
Mae Swyddog CIW yn cynnal sesiynau celf pob nos Iau, yn y ganolfan ieuenctid y Fic yng nghanol Wrecsam rhwng 5.30pm a 7.00pm. Os oes gennych ddiddordeb dewch draw neu os oes angen mwy o wybodaeth cysylltwch gyda Sara Mair - saramair@urdd.org
Grwp Theatr
Cynhelir grŵp theatr gan Steffan Parry un o sêr ‘Rownd a Rownd’. Mae’r sesiynau ar gyfer disgyblion uwchradd y sir a’r gobaith yw y bydd y grŵp yn cael perfformio un o’r sgetshis ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol. Os am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Sara Mair - saramair@urdd.org
Sesiynau ymwybyddiaeth iaith
Mae Siân, Sara a Gwawr wedi derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith, felly os ydych eisiau eich ysgol neu sefydliad dderbyn sesiynau ymwybyddiaeth iaith cysylltwch gyda ni yn y Fenter i drefnu!
Sara Mair
Swyddog CIW
E-bost- saramair@urdd.org
Ffôn: 01978 357386
Symudol: 07500607405
Manteision Dwyieithrwydd
Mae’r Fenter eisiau pwysleisio pwysigrwydd addysg dwyieithrwydd i rieni, mewn rhai ardaloedd mae dros 95% o ddisgyblion ysgolion Cymraeg yn dod o gartrefi di-gymraeg.
Dyma rhai o fanteision dwyieithrwydd:
ADDYSGIADOL |
CYMDEITHASOL |
ECONOMAIDD |
Hyblyg |
Ar yr aelwyd |
Mwy o alw am sgiliau dwyieithog heddiw |
Creadigol |
Yn y teulu |
Prinder mewn rhai sectorau |
Gwell IQ |
Ymysg Ffrindiau |
Mwy o gyflog |
Rhesymu |
Yn y gymuned |
Sgil ychwanegol mewn byd cystadleuol |
Gweithio dan Bwysau |
Grwpiau Cymdeiathasol |
Cymru’n datbyglu’n wlad ddwyieithog |
Dadansoddi data |
Yn y gweithle |
|
Aml sgilio |
|
|
Y Ffin Fach
Ar Hydref yr 8fed bu i’r clwb L’etage yn Wrecsam lwyfannu'r Ffin Fach sef chwaer fach gŵyl gerddoriaeth Gymraeg Y Ffin. Roedd yn gyfle i fandiau ifanc a newydd Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych I ddangos eu dawn cerddorol ac i godi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Gymraeg yn Wrecsam. Nid yn unig oedd y noson yn gyfle i fandiau ifanc chwarae eu caneuon gwreiddiol ond bu i’r band hynod lllwyddianus Masters in France gloi'r noson a diddanwyd y gynulleidfa i gyd gyda’u caneuon. Mae maters in France wedi cael llwyddiant aruthrol gyda’u senglau yn cael ei chwarae ar BBC Radio 1 ac maent wedi chwarae ar draws Prydain.
Dywedodd Siân Edwards ‘Mae’r Ffin Fach wedi bod yn gyfle gwych i drigolion Wrecsam glywed bandiau newydd oedd yn amrywio o ganu gwerin i gerddoriaeth roc. Roedd Masters in France yn wych ac rwyf yn gobeithio yn gryf fod y noson wedi codi ymwybyddiaeth pobl o’r sin cerddorol Gymraeg sydd yn Wrecsam a gobeithio bydd llawer mwy o nosweithiau cerddoriaeth Cymraeg yn cael eu cynnal yn y Sir.’
Diwrnod Ymwybyddiaeth Iaith Ewropeaidd
Er mwyn dathlu diwrnod ymwybyddiaeth iaith Ewropeaidd bu i Fenter Iaith Maelor gynnal sesiynau ymwybyddiaeth iaith i lawer o ddisgyblion y Sir. Yna cafodd y disgyblion y cyfle i greu banner gyda symbolau a lluniau o beth oeddent yn ei gredu oedd yn cynrychioli Cymru orau. Darlunwyd baneri gwych gan y disgyblion i gyd, er bod yna llawer o waith clirio ar ôl y sesiwn celf a chrefft!
Dathlu Diwrnod gefeillio Wrecsam
I ddathlu 40 mlynedd o efeillio Wrecsam gyda’r dref Almaeneg Märkischer Kreis cynhaliwyd Diwrnod Ewrop yn Sgwâr y Frenhines gyda stondinau yn hyrwyddo’r Almaen a Chymru. Bu i’r Fenter gynnal stondin ble roedd cyfle i blant oedd yn pasio creu baner Gymraeg. Cafwyd diwrnod llwyddiannus gyda’r haul yn gwenu a phawb yn mwynhau adloniant gan gorau lleol.
Plant Ysgol Feithrin Bodhyfryd yn cyfarfod Cadi
Ar ddydd Llun y 28ain bu i blant Cylch Meithrin Bodhyfryd gael bore llawn hwyl a sbri pan fu i Cadi (Un o gymeriadau'r Urdd alw heibio.) Bu I Michelle ddarllen stori i’r plant yna cafwyd sesiwn o ganu a dawnsio gyda Cadi. Cafodd y plant llawer o hwyl yn dawnsio gyda Cadi ac yn chwarae offerynnau newydd. Y gobaith yw fydd Cadi yn gallu ymweld â mwy o feithrinfeydd yn y dyfodol.
Ymcwhil I’r Gymraeg
Ers misoedd nawr mae Michelle wedi bod yn trefnu a chynnal gweithgareddau yn ardal wledig Wrecsam a mae wedi bod yn ymchwilio i ddefnydd yr iaith yn yr ardal felly trist oedd clywed fod Michelle yn gadael ei swydd ond bydd yn dal i weithio o amgylch ardal Wrecsam yn cynnal sesiynau siarad ar gyfer dysgwyr. Mae Siân Edwards nawr wedi cael ei phenodi fel swyddog llawn amser i gynnal y prosiect hyd at Chwefror 2011. Mae’n gobeithio i barhau gyda'r gwaith da y bu i Michelle ei wneud a'i bwriad yw addasu proffil ardal Wrecsam i gofnodi'r niferoedd sydd yn siarad Cymraeg yn yr ardal ac i barhau i drefnu gweithgareddau i hybu'r iaith Gymraeg..
Gweithdai Animeiddio
Ar ddydd Sadwrn 27ain Mawrth, cafodd llwyth o hwyl yn y gweithdai animeiddio, lle dangosodd Deiniol Morris, un o greuwyr Gogs, sut i wneud gwaith animeddio. Creuwyd 20 o fideos i gyd, gan blant a phobl ifanc Wrecsam. Gellir weld y fideos i gyd ar dudalen Facebook Menter Iaith Maelor.
Trefnwyd y gweithgareddau am ddim gan Fenter Iaith Maelor fel rhan o’i phrosiect Datblygu’r Gymraeg ac Ymchwil Wrecsam Wledig gyda chymorth y Cynllun Datblygu Gwledig i Gymru 2007-2013 a gyllidwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Mewn Ardaloedd Gwledig.
Adroddiad Blynyddol Menter Maelor a Cyfrifon Blynyddol 2009-2010 - cliciwch yma
Digwyddiadau Dysgwyr
Mae Menter Iaith Maelor yn cynnal nosweithiau cymdeithasol arbennig achlysurol i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg. Edrychwch allan am ein digwyddiadau diweddaraf.
|