Mentrau Iaith y Gogledd Lluniau Gogledd Cymru
 
 
Help / Cymorth

 

 

 

WrecsamProsiectau

Trip i Nantyr

Mae Sara Mai , Swyddog CiW yn trefnu trip I ganofan awyr agored Nantyr yn ystod penwythnos hanner tymor. Bydd y trip yn dechrau nos Wener 18fed o Chwefror a bydd cyfle i bawb aros yno dros nos. Bydd y penwythnos yn llawn anturiaethau gyda gweithgareddau megis canwio, dringo a cyfeiriannu wedi eu trefnu. Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle cysylltwch gyda Sara Mair 07500607405 neu saramair@urdd.org


Gweithdai Ffilm

Mae Menter Iaith wedi comisiynu Camalz Media i weithio gyda rhai o bobl ifanc Wrecsam er mwyn cynhyrchu ffilmiau byr yn seiliedig ar gerddi Cymraeg. Bydd y bobl ifanc yn cael y cyfle i ddysgu beth yw’r broses o gynhyrchu ffilm gyda phawb yn cael y cyfle i weithio tu ôl y camera i gyfarwyddo’r ffilmiau, creu prop ac actio. Bydd 6 ffilm yn cael ei chynhyrchu ac ar ddiwedd y gweithdai bydd cynhelir noson wobrwyo ble bydd un o’r ffilmiau yn cael ei choroni fel enillwyr gweithdai ffilm 2010.


Prosiect Teuluoedd

Bu’r prosiect Teuluoedd yn llawer o hwyl gyda’r teuluoedd i gyd wedi mwynhau'r profiad o gymdeithasu yn y Gymraeg gyda theuluoedd eraill. Mae’r gweithgareddau wedi amrywio yn fawr o sesiynau coginio i wers dawns stryd a sesiwn stori a chan gyda Sali Mali. Cafwyd adborth positif iawn ar ddiwedd y sesiynau gyda’r teuluoedd i gyd yn dweud fod eu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg wedi cynyddu ac roeddent eisiau defnyddio’r Gymraeg yn fwy gyda’i phlant. Ar ddiwedd y prosiect cafodd pob plentyn lyfr Cymraeg I fynd adref a’r gobaith nawr yw y bydd y plant yn tyfu fyny gyda’r fantais o fod yn ddwyieithog.


Ymchwil i’r Gymraeg

Mae Sian Edwards sef Swyddog Ymchwil I’r Gymraeg yn brysur yn paratoi gweithgareddau o dan y prosiect yma. Ar y gweill mae yna weithdy ffilm, prosiect animeiddio, a hefyd sesiynau celf. Meddai Sian-
‘Mae’n gyfnod cyffrous iawn nawr, er ein bod yn nesáu at ddiwedd y prosiect mae yna lawer o brosiectau a digwyddiadau ar y gweill drwy’r Sir felly gwyliwch allan am ddigwyddiad fydd yn cael eu cynnal yn eich cymuned chi!’
Mae Sian hefyd yn datblygu proffil ieithyddol Wrecsam a fydd yn rhoi darlun o’r niferoedd sydd yn siarad Cymraeg yn y Sir a’r gwasanaethau sydd ar gael yn y Gymraeg. Os ydych eisiau mwy o wybodaeth am y digwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal cysylltwch â Siân ar sian@menteriaithmaelor.org neu ar 01978363791.

 

Menter Iaith Maelor
mentrauiaith-gogledd.com
 
Bwrdd Yr Iaith Gymraeg
Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru Bwrdd Yr Iaith Gymraeg
Dyluniwyd gan Delwedd