Archive
Cynhyrchiad TIM Bach

Gwyl Cefni 2009

Diwrnod i'r Dysgwyr
Eisteddfod Genedlaethol y Bala, 2009
Dydd Iau, Awst 6ed, 2009
 |
Cliciwch ar y poster am fwy o fanylion. |
LLWYDDIANT OWAIN GLYNDŴR!
Cafwyd penwythnos arbennig o lwyddiannus yn Llys Llywelyn, Aberffraw gyda dysgwyr Cymraeg o bob rhan o Gymru yn mynychu penwythnos dathlu Owain Glyndŵr.
Menter Iaith Môn ar y cyd efo Crwydro Môn wnaeth drefnu’r penwythnos, ac ar ôl twmpath hwyliog yng nghwmni Dawnswyr Môn ar y nos Wener cafwyd taith gerdded o amgylch Llyn Maelog ac at Farclodiad y Gawres yng ngwres yr haul ar y dydd Sadwrn o dan arweiniad Dr.Ken Williams.
Ar y nos Sadwrn daeth criw bach o Hogiau Bodwrog i ganu a rhannu jôcs efo’r dysgwyr Cymraeg a selogion lleol Aberffraw yn y Bistro newydd yn Llys Llywelyn, ble cafodd pawb bryd o fwyd tri chwrs calonnog.
Dyma rai o sylwadau’r mynychwyr:
“Roedd yn hyfryd cael band byw i’r dawnsio gwerin, ac roedd Ken yn dda iawn ac yn ddiddorol ar y dydd Sadwrn. Roedd y nos Sadwrn yn dda iawn, iawn a diolch am ymdrech pawb! Dwi wedi mwynhau fy hunan a baswn i’n dweud wrth bobol eraill i ddŵad tro nesa’!” Pam Tabelin, Tregaron.
“Roedd y penwythnos yn arbennig. Roedd pawb o gymorth ac yn gyfeillgar. Byddwn bendant yn mynychu penwythnos tebyg yn y dyfodol! Diolch yn fawr iawn am benwythnos ardderchog!” Dafydd a Magi Bebb o Ddolgellau.
Bydd y Fenter Iaith yn trefnu penwythnosau o’r un math ar gyfer dysgwyr Cymraeg a Chymry Cymraeg yn 2009, felly os ydych am dderbyn manylion, cysylltwch efo Non ap Gwyn ar 01248 725 731 / non@mentermon.com
 |
Dydd Gŵyl Hwyl
Ar Ddydd Gŵyl Dewi trefnodd Menter Iaith Môn ‘Ddydd Gŵyl Hwyl’ yn Neuadd Yr Eglwys, Llangefni, gyda gweithgareddau i blant a stondinau
di ri’.
Bu Dawnswyr Bro Cefni yn dawnsio yn y farchnad ac yna yn perfformio yn y neuadd ei hun, i gymeradwyaeth brwdfrydig iawn.
Cafwyd gweithdy roc gyda Bocswn, yn ogystal â gweithgareddau llaw, gwneud bathodynnau, a pheintio wrth y stondinau. Ymysg y stondinau roedd Twf, Mudiad Ysgolion Meithrin, Cynllun Iaith a Chwarae Môn, Theatr Ieuenctid Môn, Coleg Harlech, Coleg Menai, a siop lyfrau Cwpwrdd Cornel.
Cafwyd ymateb da iawn, gyda llawer o deuluoedd yn ymweld â’r neuadd yn ystod y dydd. |
 |
 |
NOSON BACHU BUSNES
Cynhaliwyd noson lwyddiannus i fusnesau lleol yn Carreg Môn mis Tachwedd o dan arweiniad Menter Iaith Môn.
Roedd Noson Bachu Busnes yn ddigwyddiad anffurfiol ond llwyddiannus iawn a gynhaliwyd ar gyfer busnesau Môn i gymdeithasu a dod i adnabod ei gilydd.
|
Roedd y busnesau oedd yn mynychu yn amrywio o wneuthurwyr caws i ddylunwyr graffeg, i lanhawyr i reolwyr gwestai ac roedd gan bob un ychydig funudau i drafod eu busnesau gyda’i gilydd.
Dywedodd Non Roberts, Swyddog Iaith a Busnes Menter Iaith Môn “ Roedd y noson yn llwyddiannus dros ben - roedd y busnesau i gyd yn ddiolchgar iawn am y cyfle. Fe aeth pawb adref gyda gwybodaeth am fusnesau eraill ym Môn, a oedd yn eu helpu nhw i wneud cysylltiadau busnes - a ffrindiau newydd. A’r peth pwysicaf i mi - fe gafodd pawb hwyl!”
“Yn ogystal â thrafod eu busnesau ei gilydd, cynhaliwyd y noson i adael i bawb wybod am bwysigrwydd dwyieithrwydd o fewn eu busnes gan ei fod yn ffordd syml a ffres o farchnata. Mae ymwelwyr yn ogystal â phobl leol wrth eu boddau’n gweld ac yn clywed y Gymraeg yn cael ei ddefnyddio mewn busnes, ac mae’r rhan fwyaf o fusnesau sy’n defnyddio’r ddwy iaith yn dweud eu bod wedi cael budd o wneud hynny.”
|
Lansiad llyfryn stori gan blant Caergybi
Ar ddydd Llun 7fed Ionawr yng Nghanolfan Ucheldre lansiwyd llyfryn ‘Castell yr Arglwydd Madfall’, stori Gymraeg wych, llawn dychymyg a ysgrifennwyd gan blant ysgolion Caergybi.
Ysgrifennwyd y stori gan blant blwyddyn 4 o saith ysgol gynradd wahanol y dref fel rhan o ddathliadau wythnos Cymraeg yn Gyntaf y dref ym mis Medi. Trefnodd Menter Iaith Môn i Catherine Aran, storiwraig gyda Gwasanaeth Llyfrau Ynys Môn, ymweld â’r ysgolion i gyd er mwyn adrodd stori a chynnal gweithdai ysgrifennu creadigol gyda’r plant.
Roedd hi’n siawns i’r plant gael hwyl wrth ddysgu geirfa Cymraeg newydd, defnyddio’r Gymraeg mewn ffordd greadigol, a chael perchnogaeth dros yr iaith.
Cynhyrchwyd a cyhoeddwyd stori’r plant gan Menter Iaith Môn, mewn lliw, gyda llyniau a nodiadau geirfa defnyddiol i blant a rhieni. Mae copi ar gael am ddim i bob plentyn a gymerodd rhan.
Yn y lansiad, yn y ganolfan Ucheldre, bu’r plant yn gwrando, a gwylio, wrth i Catherine Aran adrodd eu stori i lansio’r llyfryn.
GWEITHDAI SGRIPTIO
Cynhaliwyd Gweithdai Sgriptio i bobl ifanc efo'r actores a'r Sgriptwraig Angharad Llwyd, cafodd y sgriptiau gorffenedig eu cyflwyno gan pobl Ifanc Theatr Ieunectid Môn mewn perfformiad anffurfiol.
CYNLLUN CYMHATHU MEWNFUDWYR
Gweithredir y cynllun hwn yn ardal de-orllewin Môn mewn partneriaeth â Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Cyngor Sir Ynys Môn a'r Ganolfan Cymraeg i Oedolion.
Fel rhan o’r cynllun, fe gysylltir â newydd-ddyfodiaid i’r ardal ac fe’u croesawir gan ‘Hwyluswyr Bro’ a fydd yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am yr ardal a rôl bwysig yr iaith Gymraeg ym mywyd bob dydd Môn.
Nod y cynllun hwn yw codi ymwybyddiaeth newydd-ddyfodiaid am natur ieithyddol Môn - rhywbeth nad ydyn nhw efallai wedi ei ystyried o’r blaen. Rydym ni’n gobeithio darparu cyfleoedd i newydd-ddyfodiaid ddod yn rhan lawn, dysgu am eu hardal newydd, ei hanes a’i phobol drwy gyflwyno pwysigrwydd yr iaith bron iawn yn syth iddyn nhw. Efallai yna y gwnânt nhw ddeall a gwerthfawrogi’r elfennau hyn a mynd ati i ddysgu Cymraeg.”
Mae’r chwe ardal ganlynol yn de-orllewin Môn wedi cael eu hadnabod fel ardaloedd targed ar gyfer gweithredu’r cynllun - Aberffraw, Bodorgan, Llangristiolus, Rhosyr, Llanidan a Llanfihangel Ysgeifiog.
CYNLLUN MARC SAFON CLODIAITH
Mae’r cynllun hwn yn gwobrwyo busnesau am eu defnydd o’r Gymraeg mewn busnes. Dyfernir tystysgrifau Aur, Arian neu Efydd wrth ddilyn system sgorio syml, ac wrth ymgeisio am y wobr fe gaiff busnesau gymorth a chyngor ymarferol ar sut i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg yn eu busnes.
• Lawrlwythwch ffurflen ymgeisio yma
Gwirfoddolwyr Ifanc
Diolch mawr i’r bobl ifanc leol sydd wedi gwirfoddoli i hybu’r Gymraeg efo’r
Fenter Iaith, unai yn eu hysgolion cynradd drwy’r prosiect Gemau Iard, neu
yn yr ysgolion uwchradd drwy gynnal clybiau Cymraeg amser cinio, neu
Gigiau gwych!
Pam ddim gwneud gwahaniaeth i dy ysgol uwchradd, neu dy hen ysgol
gynradd? Mae’r Fenter Iaith bellach yn gweithredu fel rhan o gynllun
Gwirfoddolwyr y Mileniwm, ac mae’n bosib i wirfoddolwyr ifanc felly ennill
tystysgrif am eu gwaith. Os am ragor o wybodaeth, neu am sgwrs anffurfiol
cysylltwch â alys@mentermon.com neu 01248 725 709
Brwydr y Bandiau a Gigs y Dyfodol
Ar ôl trefnu Brwydr Bandiau mor llwyddiannus flwyddyn ddiwethaf, mae’r
Fenter Iaith yn awyddus i frwydr flwyddyn nesaf dyfu eto. Felly os wyt ti’n
rhan o fand sy’n gallu canu 3 cân yn Gymraeg e-bostia alys@mentermon.com
neu ffonia 01248 725 709 i gael cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth yn 2010, a
chael cyfle i chwarae mewn gigs drwy Menter Iaith.
Bu 3 band lleol, Lacwna, Crwydro a TWOC, yn cystadlu yn Brwydr y Bandiau
’09 , gyda Crwydro yn cael sesiwn ar C2 a dod yn ail yn genedlaethol, a
Lacwna yn cymryd mantais o sesiwn recordio yma’n Bocswn Môn.
I glywed Lacwna eto, tyrd i Gŵyl Cefni ar Nos Sadwrn 20fed. I glywed
Crwydro tyrd i Gŵyl Pobl Ifanc Môn ar Orffennaf yr 2ail, neu Sioe Môn ar Awst
12 yn y babell adloniant am 11:30 am
Hip Hop Gymraeg, Drama, Roc, a Pop i Bobl Ifanc Ysgolion Môn
Ar ôl cynnal diwrnod llwyddiannus yn Ysgol Uwchradd Caergybi mae’r Fenter
Iaith yn ymweld ag ysgolion eraill y sir yn wythnos olaf y tymor er mwyn
cynnal gweithdai amrywiol i flwyddyn 9. Yn ôl prifathro Ysgol Caergybi ‘Roedd
y myfyrwyr wrth eu bodd. Roedd y gweithdai yn wych, ac yn rhoi siawns
iddyn nhw fwynhau eu hunain, datblygu eu Cymraeg a’u creadigrwydd.’
Os ydach chi’n athro neu athrawes, neu’n aelod o bwyllgor iaith ysgol sydd
hefo diddordeb mewn cynnal y math yma o weithgaredd cysylltwch â
alys@mentermon.com neu 01248 725 709.

Cynhesu i fyny |
Clwb Syrffio Cymraeg!
Cliciwch ar y lluniau i'w chwyddo) |

Syrffio
|
Mae clwb syrffio traws sirol (Môn, Gwynedd a Chonwy) bellach yn cyfarfod yn
reolaidd, a nifer o bobl ifanc Môn yn manteisio ar y cyfle i gael mentro i’r dŵr
o dan arweiniad Bedwyr ap Gwyn a Guto Roberts yr hyfforddwyr.
Os oes gen ti ddiddordeb mewn dod yn rhan o’r clwb cysyllta â alys@mentermon.com
01248 725 709
Penwythnosau i Ddysgwyr a Siaradwyr Cymraeg yn Llys Llywelyn, Aberffraw, Ynys Mon
• 12-14eg o Fehefin 2009 'Penwythnos Branwen Ferch Llyr'
• 2-4ydd o Fedi 2009 'Penwythnos Kyffin Williams'
Gwelwch y taflenni uchod.
CROESO i chi gysylltu am ragor o wybodaeth, neu am daflenni.
COFIWCH basio'r ebost ymlaen at ddysgwyr Cymraeg!
GWYL CEFNI BACH - CAWL A CHAN
Tafarn y Rhos, Llangefni
24/04/09
Wil Tan & Hogia Bodwrog
£8
GWYL CEFNI
19 - 20 Mehefin / June 2009
Nos Wener/Friday:
Cyngerdd casglu arian at Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd / Concert raising money for Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd
Nos Sadwrn / Saturday:
GIG MAWREDDOG / BIG GIG
Racing Horses (Radio Lux. gynt)
Sibrydion
Brigyn
Steve Eaves
Chwarter Call
Lacwna
Cynllun Cymhathu Mewnfudwyr / Assimulating Newcomers Scheme
Nosweithiau Dwyieithog / Bilingual Evenings
AM DDIM / FREE OF CHARGE
Canolfan Esceifiog, Gaerwen 7:30p.m. - 9:00p.m.
04/05/09 Llywelyn a Siwan - Dr.Bruce Griffiths
01/06/09 Y Dywysoges Gwenllian - Y Canon Tegid Roberts
06/07/09 Taith Gerdded - Ted Thomas
Neuadd Aberffraw 7:30p.m. - 9:00p.m.
11/05/09 Y Wiwer Goch - Bethan Wyn Jones
08/06/09 Llywelyn a Siwan - Dr.Bruce Griffiths
13/07/09 Llys Rhosyr - Neil Johnson
Eglwys Bach, Niwbwrch 7:30p.m. - 9:00p.m.
13/05/09 Owain Glyndwr - Bryner Jones
10/06/09 Llys Rhosyr - Neil Johnson
08/07/09 Taith Llywelyn (Llys Llywelyn, Aberffraw 5:30p.m.)
Neuadd Ysgol Brynsiencyn 7:30p.m. - 9:00p.m.
19/05/09 Y Wiwer Goch - Bethan Wyn Jones
16/06/09 Owain Glyndwr - Bryner Jones
21/07/09 Taith Menai (Maes Parcio Brynsiencyn 5:30p.m.)
Sadwrn Sgwrsio

Dewch i ymarfer eich Cymraeg / Come to practice your Welsh.
BOB dydd Sadwrn / EVERY Saturday
10:00 - 11:00a.m.
Canolfan Esceifiog Gaerwen
Paned a Sgwrs
Dewch i ymarfer eich Cymraeg / Come to practice your Welsh
Llangefni: Menter Mon 12:30p.m. 2il dydd Mawrth bob mis / 2nd Tuesday every month
Caergybi: Harvest Moon 4:00p.m. 2il dydd Mercher bob mis / 2nd Wednesday every month
Porthaethwy: Gwesty'r Victoria Hotel 9:15a.m. 2il dydd Iau bob mis / 2nd Thursday every month
Beth sydd ar y gweill...? / What's to come...?
Trip i Pentre Bach (Sali Mali) i blant a rhieni ym mis Awst 2009 / A trip to see Sali Mali at Pentre Bach for children and their parents in August 2009
Gwyl Cefni Bach - Noson o Straeon Arswyd efo Catherine Aran, Hydref 30 / A Welsh evening of spooky stories with Catherine Aran, October 30.
HWYL CEFNI! Hwyl i blant a rhieni / Fun for children and parents
Penwythnos i ddysgwyr Cymraeg yn Llys Llywelyn, Aberffraw / A weekend for Welsh learners at Llys Llywelyn, Aberffraw.
Cynhyrchiad 2009 Theatr Ieuenctid Môn

Cliciwch ar y poster am fwy o wybodaeth
Digwyddiadau Misol yn ddwyieithog

Paned a Sgwrs i Gymry Cymraeg a Dysgwyr Cymraeg!
A Paned and a chat for Welsh speakers & learners!
Amlwch (Caffi Wylfa)
1:30 - 3:00 dydd Llun cyntaf bob mis
Gaerwen (Tafarn y Gors)
7:30 y.h. 2il nos Lun bob mis
Llangefni (Menter Mon)
12.30 y.h ar yr 2il ddydd Mawrth bob mis
Caergybi (Harvest Moon)
4.00 y.h. ar yr 2il ddydd Mercher bob mis
Porthaethwy (Gwesty'r Vitcoria)
9.15 y.b. ar yr 2il ddydd Iau bob mis
Brynsiencyn (Hootons)
10:00 y.b. ar yr 2il ddydd Mawrth bob mis
Bob dydd Mercher 10.30 y.b.
1af - Bull Pentraeth
2il – Pete’s Café, Benllech
3ydd – Anglesey Arms, Porthaethwy
4ydd – Canolfan Ucheldre, Caergybi
GWEITHDAI SGRIPTIO
Gweithdai Sgriptio i Ieuenctid efo'r actores a'r Sgriptwraig Angharad Llwyd yn Swyddfa Menter Iaith Mon.
Cysylltwch gyda Alys Conran am ragor o wybodaeth alys@mentermon.com
Clwb Awyr Agored Cyfrwng Cymraeg
Mae'r clwb ar ddechrau, gyda sesiynau dringo wythnosol - diwrnod i'w gadarnhau. Diddordeb? Cystylltwch â alys@mentermon.com 01248 725 700
CYNLLUN CYMHATHU MEWNFUDWYR
Gweithredir y cynllun hwn yn ardal de-orllewin Môn mewn partneriaeth â Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Cyngor Sir Ynys Môn a'r Ganolfan Cymraeg i Oedolion.
Fel rhan o’r cynllun, fe gysylltir â newydd-ddyfodiaid i’r ardal ac fe’u croesawir gan ‘Hwyluswyr Bro’ a fydd yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am yr ardal a rôl bwysig yr iaith Gymraeg ym mywyd bob dydd Môn.
Nod y cynllun hwn yw codi ymwybyddiaeth newydd-ddyfodiaid am natur ieithyddol Môn - rhywbeth nad ydyn nhw efallai wedi ei ystyried o’r blaen. Rydym ni’n gobeithio darparu cyfleoedd i newydd-ddyfodiaid ddod yn rhan lawn, dysgu am eu hardal newydd, ei hanes a’i phobol drwy gyflwyno pwysigrwydd yr iaith bron iawn yn syth iddyn nhw. Efallai yna y gwnânt nhw ddeall a gwerthfawrogi’r elfennau hyn a mynd ati i ddysgu Cymraeg.”
Mae’r chwe ardal ganlynol yn de-orllewin Môn wedi cael eu hadnabod fel ardaloedd targed ar gyfer gweithredu’r cynllun - Aberffraw, Bodorgan, Llangristiolus, Rhosyr, Llanidan a Llanfihangel Ysgeifiog.
CYNHELIR CYFARFODYDD MISOL
o Hydref 2008 - Mehefin 2009:
Dydd Llun 1af bob mis: Neuadd Gaerwen 7:30p.m.
2il dydd Mercher bob mis: Eglwys Fach, Niwbwrch 7:30p.m.
2il dydd Llun bob mis: Neuadd Aberffraw 7:30p.m.
3ydd dydd Mawrth bob mis: Neuadd Brynsiencyn 7:30p.m.
|