Rhifyn 1 - Mai 2008![]()
|
Croeso i Camau - Newyddlen Menter Iaith Sir y Fflint!Ein bwriad yw cyhoeddi newyddlen chwarterol i gadw mewn cysylltiad gyda chi ein haelodau, ein partneriaid a’n cefnogwyr. Gobeithiwn hefyd ddenu mwy atom trwy roi blas o’r gwaith rydym yn ei gyflawni a’r gweithgareddau fydd gennym ar y gweill. Mae’r Fenter yn perthyn i bawb sydd yn byw ac yn gweithio yn y Sir ac rydym yn awyddus i dderbyn syniadau gennych chi a’ch barn am ein gweithgareddau. Harri Bryn Jones – Cadeirydd; Gwawr Cordiner – Prif Swyddog |
Camau Cyntaf |
Eisteddfod Y Dysgwyr Gogledd Ddwyrain CymruEhangwyd y dalgylch eleni i gynnwys Sir Ddinbych a Wrecsam mewn cydweithrediad gyda Mentrau Iaith Maelor a Dinbych. Ar nos Wener yr 22ain o Chwefror roedd ffreutur Coleg Glannau Dyfrdwy dan ei sang o gystadleuwyr brwd. Llongyfarchiadau mawr i Peter Jones Yr Orsedd, Wrecsam ar ennill y gadair am y trydydd tro - Coron Driphlyg! Bydd Eisteddfod y Dysgwyr yn teithio o amgylch y tair sir yn eu tro, a Sir Ddinbych fydd yn croesawu’r Eisteddfod yn 2009.
Galwch heibio ein Sesiynau Sgwrs:
|
![]()
|
|
| Penblwydd Hapus! | |
|
Roedd mis Ionawr 2008 yn garreg filltir bwysig yn hanes Menter Iaith Sir y Fflint wrth i ni ddathlu ein pen-blwydd yn 10 oed. Gall pawb ohonom sydd wedi gweithio i sefydlu a datblygu gwasanaethau a gweithgareddau i hyrwyddo’r Gymraeg a dwyieithrwydd o fewn y Sir ymfalchïo yn yr hyn a gyflawnwyd dros y ddegawd gyntaf.
Dechreuwyd y dathlu gyda Noson Blygeiniol yn y festri Capel Bethesda, Yr Wyddgrug. Cawsom dywydd bendigedig Ddydd Sadwrn, 12fed Ionawr ar gyfer ein taith gerdded deuluol i draeth a thwyni Talacre, dan ofal Iwan Roberts o Gymdeithas Edward Llwyd Am fwy o wybodaeth am deithiau cerdded yn yr ardal cysylltwch â Cymdeithas Edward Llwyd. |
Aelodau a Staff ar y Daith Gerdded yn Nhalacre |
Rhys Jones, Caryl Parry Jones a Gwawr Cordiner yn dymuno Penblwydd Hapus i’r Fenter |
Cynhaliwyd Parti Dathlu’r Deg nos Fawrth 22ain o Ionawr yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy, Cei Connah. Roedd y parti yn gyfle inni ddiolch i’r holl unigolion a mudiadau sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r Fenter dros y deng mlynedd. Yn arbennig ein haelodau sydd wedi rhoi o’u hamser yn wirfoddol, a’n prif bartneriaid sef Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Coleg Glannau Dyfrdwy a Chyngor Sir y Fflint. Cawsom noson hwyliog yng nghwmni Rhys Jones a’i ferch Caryl Parry Jones, y ddau yn ymhyfrydu yn y fagwraeth Gymreig gawsant yn Sir y Fflint. Braf oedd clywed Caryl yn nodi ei bod yn cenhadu yn barhaol ar ran y Sir! |
| Daeth dathliadau pen-blwydd y Fenter Iaith i ben gyda gig Santes Dwynwen yng Nghlwb Bryn Griffiths, Yr Wyddgrug yng nghwmni Mattoidz, Monte Cassino a Six Ton Dog. Cynhaliwyd cwis i bobl ifanc yn Nhafarn Castell Rhuthun ar y 30ain o Ionawr. Os hoffwch weld Mattoidz yn canu cliciwch ar y llun! |
|
![]()
|
Delwedd Newydd i'r DyfodolLansiwyd ein logo newydd yn ystod Parti Dathlu’r Deg sydd yn adlewyrchu delwedd ffres a chyfoes y Fenter. Mae’r logo yn ddatblygiad o’r un gwreiddiol oedd yn seiliedig ar Bont Sir y Fflint, ac yn symbol o waith y Fenter yn ceisio pontio rhwng siaradwyr Cymraeg, Dysgwyr a’r Di-Gymraeg o fewn y Sir. Diolch i gwmni Clic am gydweithio gyda’r staff a’r cyfarwyddwyr ar y gwaith dylunio. |
|
![]()
|
Iaith ar Daith
Hon yw’r ail wythnos o’r fath i’w threfnu gan bartneriaid sy’n gweithio trwy’r Gymraeg yn Sir y Fflint er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r iaith ym mhob sector. Ein partneriaid ar y daith yw Prifysgol Cymru Bangor, Popeth Cymraeg, Merched y Wawr, Mudiad Ysgolion Meithrin, TWF, Yr Urdd, Menter a Busnes, Cyngor Sir y Fflint, Bwrdd yr Iaith, Coleg Garddwriaeth Cymru, Canolfannau Cymraeg i Oedolion, Coleg Harlech, Coleg Glannau Dyfrdwy, Gwyl Cadi Ha, Clwb Ffermwyr Ifanc a Gwyl Werin Tegeingl. Dyma rai o’r gweithgareddau amrywiol yn ystod wythnos 26ain Ebrill - 3ydd Mai 2008:
|
Hwp Ha Wen! - Gŵyl Cadi HaDiweddglo’r wythnos brysur fydd yr 11eg ŵyl Cadi Ha yn Nhreffynnon fore Sadwrn y 3ydd o Fai am 10.15yb gyda channoedd o blant ysgolion lleol yn cadw’r hen draddodiad yn fyw, gan ddod a chanol tref Treffynnon yn fwrlwm o liw a dawns. Bydd y dawnswyr wedyn yn symud ymlaen i ddawnsio y tu allan i Blas Pen Ucha’ Caerwys sef cartref y Foneddiges Herbert Lewis a recordiodd y fersiwn hynaf sydd gennym o Gân y Cadi Ha yn wyrcws Treffynnon ar ddechrau’r 1900au. Byddwn wedyn yn symud ymlaen i ddawnsio ar Sgwâr Caerwys am 2.45yp yng nghwmni Côr Caerwys, cyn gorffen gyda thwmpath y Calan Mai yn Neuadd Yr Eglwys, Yr Wyddgrug am 7.30yh. Croeso cynnes i chi ymuno yn y dawnsio neu ddod i wylio! |
Sicrhau AdnoddauLlwyddodd y Fenter i sicrhau grant gan Gronfa Arian i Bawb y Loteri. Bydd y grant yn ein galluogi i fuddsoddi mewn adnoddau a thechnegau marchnata newydd ac arloesol a fydd yn sicrhau cyfranogiad ehangach i’n gweithgareddau a’n prosiectau o fewn cymunedau Sir y Fflint. Buom yn llwyddiannus hefyd gyda’n cais i Gyngor Sir y Fflint ar gyfer ariannu Swyddog Dysgwyr am gyfnod arall hyd Fawrth 2009. Golyga hyn y gallwn barhau i ddatblygu ac ehangu ein darpariaeth i ddysgwyr Sir y Fflint. |
Gŵyl Tegeingl Awst 15-17Mae’r Fenter Iaith yn falch o gynnig cefnogaeth weinyddol i’r prosiect cyffrous newydd yma. Gŵyl traddodiadau celfyddyd gyhoeddus fydd Tegeingl.Pan ddaeth y Rhufeiniaid i'r ardal hon, y Decangli oedd y llwyth Celtaidd brodorol. Wedi i’r Rhufeiniaid adael daeth yr ardal i’w hadnabod dan yr enw Tegeingl ar ôl y Decangli, sy’n cyfateb yn fras i ran helaeth o Sir y Fflint heddiw. Bydd Gŵyl Tegeingl yn adlewyrchu’r gelfyddyd a’r diwylliant gwerin gyfoethog sydd wedi datblygu a goroesi yma. Mae lleoliad Tegeingl/Sir y Fflint ar y ffin yn golygu bod cymysgedd cyfoethog ac unigryw iawn o hanes, treftadaeth a chelfyddyd yn yr ardal. Bydd caneuon, alawon, dawnsfeydd a chwedlau gwerin traddodiadol a chyfoes yn cael llwyfan ochr yn ochr â chyfraniadau o wledydd eraill. Bydd y prif lwyfan wedi ei osod mewn Marquee ar gaeau Clwb Rygbi’r Wyddgrug. Bydd yno le i gynnal cyngherddau, cystadlaethau a thwmpathau dawns. |
|
Bydd ail leoliad yn y Clwb Rygbi ei hun ar gyfer trefnu gweithgareddau celf i blant a theuluoedd a gweithdai dawns, iaith, cerddoriaeth offerynnol a lleisiol. Bydd ardal ieuenctid a chystadleuaeth Cerddor Ifanc. Yn ogystal â hyn bydd stondinau cynhyrchwyr a busnesau lleol, fel bod modd i’n hymwelwyr gael blas o’r hyn sydd i’w gynnig gan Sir y Fflint a’r cyffiniau.
Cofiwch ymweld â www.tegeingl.com am fwy o wybodaeth ac i archebu’ch tocynnau. Gobaith Tegeingl - Gŵyl y Werin Gudd yw datguddio rhyfeddodau i bawb |
|
![]()
|
|
Ymaelodi â’r FenterCwmni Cyfyngedig trwy warant yw Menter Iaith Sir y Fflint gyda chwe Cyfarwyddwr, pedwar aelod o staff a 50 o aelodau. Prif nod y cwmni yw "hybu ac ehangu’r defnydd o’r Gymraeg yn Sir y Fflint" ac rydym yn ymwybodol iawn mae dim ond trwy gefnogaeth gwirfoddolwyr ar draws y Sir y mae modd i ni gyflawni ein hamcanion. Mae aelodaeth yn agored i unrhyw un sydd yn rhannu’r weledigaeth a gwahoddir yr holl aelodau i Gyfarfod Blynyddol sydd yn ethol Cyfarwyddwyr. Os hoffech chi ymlaelodi â’r Fenter, dilynwch y ddolen isod.Cyfarfod Blynyddol Mehefin y 12fedByddwn yn ymgynghori gydag aelodau’r Fenter cyn cadarnhau cyfansoddiad newydd i’w fabwysiadu yn ein Cyfarfod Blynyddol nesaf yn Dyfodol@Treffynnon ar Fehefin y 12fed am 7.00 yh. Cewch gyfle i sgwrsio gyda staff a Chyfarwyddwyr am unrhyw weithgareddau yr hoffech inni gynnal yn ystod y flwyddyn. Ein siaradwr gwadd fydd Prif Arolygydd Adran Gymraeg Heddlu Gogledd Cymru, Mr Ray Hughes. Bydd yn rhoi sgwrs i ni ar ymrwymiad yr Heddlu i’w Cynllun Iaith Gymraeg ac i ddwyieithrwydd o fewn yr Heddlu, hyn oll er mwyn sicrhau eu bod yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr i gymunedau dwyieithog yng Ngogledd Cymru. |
|
| Bydd rhifyn nesaf Camau allan ym Mis Gorffennaf. Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau darllen ein newyddlen gyntaf a byddem yn falch o dderbyn sylwadau arni a sut yr hoffech weld y newyddlen yn datblygu. Ffoniwch ni ar 01352 755614 neu galwch heibio’r swyddfa yn Nhŷ Terrig Yr Wyddgrug. I dderbyn y newyddlen trwy gyfrwng e-bost cysylltwch â ni ar busnes@menteriaithsiryfflint.co.uk | |
![]()
|
|
Os ydych chi'n dros 18 oed, a hoffech ymaelodi â'r Fenter,
cliciwch y linc yma!