Rhifyn 2 - Gorffennaf 2008

Croeso i Camau - Newyddlen Menter Iaith Sir y Fflint!


Tegeingl – Gŵyl y Werin Gudd 15 & 16 Awst 2008


Clocsiau Bydd Tegeingl - Gŵyl y Werin Gudd ar eich stepen drws yn fuan felly cofiwch ddod i gefnogi. Bydd pabell enfawr felen a werdd yn cael ei chodi ar faes Clwb Rygbi'r Wyddgrug a bydd yr artistiaid canlynol o Gymru, Lloegr, Iwerddon, Canada a Gwlad Pwyl yno i’ch diddanu: Steve a Martha Tilston, Fern Hill, Les Barker, Ceolta Sí, Dawnswyr Nantgarw, Jez Lowe, Crasdant, Bella Hardy, Siân James, Eileen McGann a David K, a Pen Tennyn. Bydd swp o weithgareddau eraill hefyd megis sesiynau cyfarfod yr artistiaid, sesiynau offerynnol a chanu anffurfiol. Bydd yno ddigonedd o bethau i'r teulu- pwll peli i'r babanod, ffair hen ffasiwn, sioe bypedau, hwiangerddi gyda Siân James, Celf a Chrefft a chwedl wraig leol. Bydd gweithdai telyn, ffidil, clocsio, barddoniaeth a Blasu Cymraeg hefyd i bawb sydd awydd troi eu llaw at grefft newydd.

Ffonograff Bydd Mei Mac yn cadw trefn ar y beirdd yn y Stomp. Bydd cythraul y canu yn fyw ac yn iach yng nghystadleuaeth Grŵp Cerddoriaeth Traddodiadol a Cherddor Ifanc. Bydd David Jones, Wrecsam (Saesneg) a Meri Roberts Plas-Ym-Mhowys (Cymraeg) ill dau yn traddodi ar hanes y Foneddiges Herbert Lewis o Gaerwys a bydd ei ffonograff Edison yn cael ei arddangos. Mae’r Clwb Rygbi yn cynnig cyfleusterau campio a bydd cyfle i flasu cynnyrch lleol yn y farchnad drwyddedig. Mae ambell i le dal ar ôl os hoffech ddod a stondin i'r maes. Mae eich cefnogaeth yn hanfodol i lwyddiant y fenter gyffrous newydd hon. Cofiwch ymweld â www.tegeingl.com i archebu eich tocynnau

Cyfarfod Blynyddol


Cynhaliwyd ein Cyfarfod Blynyddol ar 12/06/08 yng nghanolfan Dyfodol@Treffynnon. Rydym yn falch o ddatgan bod y cyfarwyddwyr presennol wedi’u cyfethol gydag un ychwanegiad.

Dyma swyddogion y Fenter am 2008-2009:

Cadeirydd: Harri Bryn Jones

Dylan Jones

Nia Wyn Jones

Huw Alun Roberts

Pedr Wynn Jones

Gwawr Cordiner

Geraint Brython Edwards


Ein siaradwr gwadd oedd Ymgynghorydd Iaith Heddlu Gogledd Cymru, Meic Raymant. Roedd hi’n wych clywed am eu hymrwymiad i’w Cynllun Iaith Gymraeg. Maent yn trin y Gymraeg fel sgil allweddol, ac mae dealltwriaeth o’r iaith yn fater o ddiogelwch i wasanaeth brys fel yr Heddlu. Mae pob aelod o’r gwasanaeth yn y Gogledd yn derbyn hyfforddiant Ymwybyddiaeth a Sensitifrwydd Iaith, ac maent yn disgwyl i’w staff i gyd allu dangos cwrteisi iaith sylfaenol. Yn ddiweddar maent wedi codi’r bar, ac ers Ionawr eleni mae angen i bob aelod o staff newydd yn Heddlu Gogledd Cymru ddangos gallu llafar yn y Gymraeg i lefel 2 cyn ymuno, a chyrraedd lefel 3 erbyn diwedd eu cyfnod prawf. Hefyd ers y 1af o Ionawr 2008 mae’n rhaid i bawb sy’n ceisio am ddyrchafiad o fewn y gwasanaeth ddangos sgiliau Cymraeg lefel 2 cyn iddyn nhw fod yn gymwys i gychwyn y broses.

www.menteriaithsiryfflint.co.uk

Dewch i Sgwrsio

Fedrwch chi sbario ychydig o oriau pob mis i siarad Cymraeg? Mae Menter Iaith Sir y Fflint yn rhedeg nifer o Sesiynau Sgwrs ar draws y sir, er mwyn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg tu allan o'r dosbarth mewn awyrgylch cymdeithasol. Does dim angen profiad dysgu, dim ond profiad siarad!! Os hoffech chi helpu, cysylltwch ag Ellie ar 01352 755614 neu ellie@menteriaithsiryfflint.co.uk
Cofiwch ddod i ymarfer eich Cymraeg dros y gwyliau haf:
Lle Pryd Amser
Caffi’r Pafiliwn, Fflint Mercher 10:30am-12:00pm
Coleg Glannau Dyfrdwy, Cei Connah Mercher 12:30pm-13:00pm
Tafarn Castell Rhuthun, Yr Wyddgrug Mercher 8:30pm-10:00pm
Caffi Canolfan Daniel Owen, Yr Wyddgrug Iau 10:00am – 11:30am
Bistro Cyngor Sir Y Fflint, Yr Wyddgrug Iau 12:30pm – 1:30pm
Tafarn y Bluebell, Helygain Iau 7:00pm - 8:30pm

Dathliadau Calan Mai

Cafwyd wythnos brysur iawn yn ystod Wythnos Iaith ar Daith Sir y Fflint 2008. Diolch i’r holl bartneriaid a fu ynghlwm gyda’r gweithgareddau i hyrwyddo’r iaith Gymraeg ar led y sir. Dyma criw gosod blodau Coleg Garddwriaeth Cymru gyda Bethan Gwanas, plant meithrinfa Toybox Coleg Glannau Dyfrdwy yn mwynhau cwmni Mr Urdd a Clwb C3 yn gweld gêm gynghrair olaf Wrecsam yn y Cae Ras. Cliciwch ar y lluniau i ddarganfod mwy!

C3 ar y Cae Ras
Clwb C3 ar y Cae Ras
Gwers Gosod Blodau
Gwers Gosod Blodau
Mr Urdd yn Toybox
Mr Urdd yn Toybox
Dawnswyr Ifanc yn Nhreffynnon
Dawnswyr yn Nhreffynnon





Daeth oddeutu 150 o blant at ei gilydd i ddathlu’r 11eg Gŵyl Cadi Ha. Roedd stryd fawr Treffynnon yn fwrlwm o liw a dawnsio. Llongyfarchiadau i Ysgol Gwenffrwd ac Ysgol yr Esgob am berfformio ym mhob un o’r 11eg Gŵyl Cadi Ha. Uchafwbynt y diwrnod i’r dawnswyr hŷn oedd perfformio ar lawnt Plas Pen Uchaf Caerwys trwy garedigrwydd Mrs Nest Price, wyres Lady Herbert Lewis gynt a fu’n recordio trigolion ardal Treffynnon yn canu’r Cadi Ha ar ddechrau’r Ugeinfed Ganrif.
Cliciwch ar y llun i weld sioe sleidiau o'r ŵyl!

Prosiect Iaith a Threftadaeth

Mae’r Fenter wedi sicrhau nawdd o £130,000 o’r Cynllun Datblygu Gwledig i weithredu prosiect tair blynedd hyd Chwefror 2011. Cymeradwywyd y cais gan Bartneriaeth Wledig Sir y Fflint i gyllido dau brosiect cyffrous iawn. Byddwn yn edrych i benodi Swyddog Iaith a Threftadaeth gyda’r nawdd, a fydd yn codi ymwybyddiaeth ac addysgu trigolion ac ymwelwyr i’r sir am hanes yr iaith Gymraeg o fewn cyd-destun ardal sy’n ffinio â Lloegr, ei diwylliant llenyddol, hanesyddol a chelfyddydol ac ieithyddol Eingl-Gymreig arni dros yr oesoedd. Cysylltwch â Gwawr Cordiner am becyn cais. Bydd y nawdd hefyd yn cyllido Astudiaeth Dichonolrwydd ar gyfer datblygu, adeiladu a gweithredu Tecniwm Iaith fel canolfan penodol ar gyfer darparu gwasanaethau dwyieithog i gymunedau gwledig Sir y Fflint. Bydd y broses ymgynghori yn dechrau yn ystod Gaeaf 2008.
www.menteriaithsiryfflint.co.uk

Ieuenctid y Fro
Theatr FfM

Plant y Fro yn dysgu drama ym Magillt
Plant y Fro yn dysgu drama ym Magillt
Mae Theatr FfM sy’n cael ei redeg ar y cyd gyda UrddGobaith Cymru yn edrych i gyflogi tiwtoriaid cerdd, dawns a drama i ddysgu mynychwyr y theatr ieuenctid. Bydd Theatr FfM yn ail gychwyn ym mis Medi ar gyfer plant ardal y Glannau. Rydym yn edrych am diwtoriaid sy’n gallu helpu gyda sesiynau awr a hanner yr wythnos. Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Alaw Lewis ar 01352 755614 neu alaw@menteriaithsiryfflint.co.uk

Chwarae Plant

Cyngor Sir y Fflint Bydd Cyngor Sir y Fflint yn darparu dau Gynllun Chwarae Cyfrwng Cymraeg dros y gwyliau haf. Bydd y sesiynau yn rhedeg rhwng Gorffennaf 21ain - Awst 22ain o Ddydd Llun i Ddydd Gwener.

Lle Pryd
Queen Street, Treuddyn 10.30 - 12.30am
Ysgol Maes Garmon 1.30 - 3.30pm
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â scott_rowley@flintshire.gov.uk neu 01352 702459



Mudiad Ysgolion Meithrin Mae’r Clych Ti a Fi yn Helygain yn mynd o nerth i nerth ers ei lansiad yn ystod Wythnos Iaith ar Daith fis Mai. Mae’r grŵp yn cwrdd yn wythnosol yn Hen Lyfrgell Helygain bob bore Mawrth rhwng 9.30am -11am. Mae croeso i bawb. Cysylltwch â Mudiad Ysgolion Meithrin am wybodaeth ar eich Cylch lleol ar 01978 363422 neu marian.antrobus@mym.co.uk
Gemau Buarth
Er mwyn annog plant i chwarae’n Gymraeg ar y buarth, mae ein Swyddog Plant ac Ieuenctid wedi bod yn brysur yn dysgu Gemau Buarth Cymraeg i blant blwyddyn 4 Ysgol Croes Atti, Y Fflint dros y mis diwethaf. Gwaith Cartref y plant oedd darganfod pa gemau y bu eu rhieni a’i neiniau a teidiau yn chwarae yn ystod eu plentyndod.

Cynllun Cyfnewid Mentrau Iaith Cymru
Bydd ein Swyddog Plant ac Ieuenctid yn mynd a chriw o bobl ifanc Fforwm Ieuenctid Menter Iaith Sir y Fflint i Ganolfan Conway, Llanfairpwll ar y 19eg o Orffennaf. Bydd y pobl ifanc yn cael cyfle i gymysgu â chriw o Fforwm Ieuenctid Menter Iaith Môn wrth gael hyfforddiant dringo, fel rhan o Gynllun Cyfnewid Mentrau Iaith Cymru.

Gweithdy Barddoniaeth a Thwmpath Teuluol
Ar y gweill ar gyfer tymor yr Hydref mae Gweithdy Barddoniaeth Mei Mac yn Ysgolion Gwenffrwd a Chroes Atti, gweithdy barddoniaeth Ceri Wyn Jones ar gyfer disgyblion Ysgol Maes Garmon, noson Farddoniaeth y Taeogion, a Thwmpath Teuluol ym Magillt. Bydd mwy o wybodaeth ar y wefan yn fuan.

Brwydyr y Bandiau
Enillwyr rownd derfynnol eleni ar yr 02/07/08 oedd Yr Offbeats. Mae’r prosiect sy’n annog bandiau ifanc i ddatblygu a chystadlu’n genedlaethol yn cael ei drefnu ar y cyd rhwng Mentrau Iaith Cymru ac C2 Radio Cymru.

Curiad y Drwm

Bu Band Cambria yn ein helpu i lansio’n Newyddlen yn ystod yr ŵyl Cadi Ha. Mae’r Band Gorymdeithiol yma yn bodoli ers dwy flynedd ac wedi chwarae’n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol! Mae’r band yn ymarfer ar Nos Iau yn Neuadd Eglwys Santes Fair, Yr Wyddgrug, ac mae croeso bob amser i aelodau newydd. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 07957173262. I weld mwy am y Band, cliciwch ar y llun, ac i weld cip olwg ohohynt yn perfformio yn y Cadi Ha, cliciwch yma!

Band Cambria yn lansio 'Camau' tu allan i'r Royal Oak yng Nghaerwys
Band Cambria yn lansio 'Camau' tu allan i'r Royal Oak yng Nghaerwys

Gig Cymdeithas yr Iaith

Bydd Gig Taith Tafod Cymdeithas yr Iaith ynymweld â Chlwb Rygbi’r Wyddgrug ar nos Wener y 25/07/08 gyda Derwyddon Dr Gonzo, a bydd Fforwm Clwyd yn cael ei gynnal ar bnawn Sadwrn y 26/07/08. Cysylltwch â Osian Jones ar 01286 662908 neu gogledd@cymdeithas.org
www.menteriaithsiryfflint.co.uk

Ymaelodi â’r Fenter

Cwmni Cyfyngedig trwy warant yw Menter Iaith Sir y Fflint gyda saith Cyfarwyddwr, pedwar aelod o staff ac yn agos i 70 o aelodau. Prif nod y cwmni yw "hybu ac ehangu’r defnydd o’r Gymraeg yn Sir y Fflint" ac rydym yn ymwybodol iawn mai dim ond trwy gefnogaeth gwirfoddolwyr ar draws y Sir y mae modd i ni gyflawni ein hamcanion. Mae aelodaeth yn agored i unrhyw un sydd yn rhannu’r weledigaeth a gwahoddir yr holl aelodau i Gyfarfod Blynyddol sydd yn ethol Cyfarwyddwyr. Os hoffech chi ymlaelodi â’r Fenter, cwblhewch y ffurflen isod.
Bydd rhifyn nesaf Camau allan ym Mis Hydref. Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau ei darllen a byddem yn falch o dderbyn unrhyw sylwadau arni a sut yr hoffech weld y newyddlen yn datblygu. Ffoniwch ni ar 01352 755614. I dderbyn y newyddlen trwy gyfrwng e-bost cysylltwch â ni ar busnes@menteriaithsiryfflint.co.uk

Os ydych chi'n dros 18 oed, a hoffech ymaelodi â'r Fenter, cliciwch y linc yma!        Bwrdd yr Iaith Gymraeg



>